Cysylltwch gyda’r Heddlu cyn gynted ag sy’n bosibl – mae’n haws i’r heddlu ddod o hyd i dystiolaeth yn syth ar ôl y digwyddiad na rhai diwrnodau yn ddiweddarach
Ysgrifennwch eich nodiadau eich hun yn fuan ar ôl y digwyddiad – cofiwch gynnwys y dyddiad a’r amser, a’r union eiriau a gweithredoedd a ddefnyddiwyd, a’i gadw’n ddiogel
Holwch am fanylion cyswllt unrhyw dystion posibl – eu persbectif hwy yn aml yw’r ffactor hanfodol ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron. Yn sgil gwrthdaro uniongyrchol mewn tystiolaeth, y diffynnydd sydd yn medru manteisio ar yr amheuaeth, ac mae’r byrdwn prawf ar yr Erlyniad
Cadarnhewch eich Datganiad Heddlu yn ofalus cyn llofnodi – cymerwch eich amser, a pheidiwch ag ofni ychwanegu neu addasu, er mwyn sicrhau bod eich cwyn wedi ei gofnodi yn gywir ac yn llawn, yn eich geiriau eich hun
Defnyddiwch y cyfle i ddarparu Datganiad Personol Dioddefwr a disgrifio’r effaith a gafodd y digwyddiad ar eich bywyd. Mynegwch eich teimladau os ydych dan straen ac yn teimlo’n fregus neu’n bryderus wrth ddilyn eich cwyn, bydd y wybodaeth ychwanegol hon yn cael ei ystyried gan Wasanaeth Erlyn y Goron
Cysylltwch gyda’ch landlord os ddigwyddodd y drosedd mewn tai cymdeithasol – mae dyletswydd gofal gan landlordiaid dros eu trigolion a gallant weithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill i gymryd camau am dorri amodau tenantiaeth yn erbyn tenant droseddwr.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Droseddau Casineb a Thai.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen