Gwneud Cwyn
Mae Cod Ymddygiad ar gyfer Dioddefwyr Troseddau y Swyddfa Gartref yn rheoli’r ffordd y mae’r asiantaethau canlynol yn darparu eu gwasanaethau:
- Y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol
- Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol
- Panel Apêl Iawndal am Anafiadau Troseddol
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi
- Unedau Gofal Tystion yr Heddlu/Gwasanaeth Erlyn y Goron ar y cyd
- Bob heddlu yn ardaloedd heddlu Cymru a Lloegr, Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn
- Y Bwrdd Parôl
- Y Gwasanaeth Carchardai
- Y Gwasanaeth Prawf
- Timau Troseddwyr Ifanc
Bydd y Cod, a lansiwyd ar 3 Ebrill 2006, yn sicrhau eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau yn eich achos. Cewch wybod pan fydd rhywun yn cael ei arestio am y drosedd, ei gyhuddo, derbyn mechnïaeth a’i ddedfrydu. Mae hefyd yn sôn am y gwasanaethau arbennig sydd ar gael ar gyfer dioddefwyr bregus a dan fygythiad.
Ymysg gofynion allweddol y Cod mae:
- hawl i wybodaeth am y drosedd oddi mewn i gyfnodau penodol o amser, gan gynnwys yr hawl i dderbyn hysbysiad am unrhyw arestio neu achosion llys
- swyddog cyswllt teulu penodol o’r heddlu ar gyfer perthnasau sy’n galaru
- gwybodaeth glir gan yr Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol am gymhwyster ar gyfer iawndal
- hysbysu bob dioddefwr am Cymorth i Ddioddefwyr, a naill ai eu cyfeirio atynt neu gynnig eu gwasanaeth
- gwasanaeth ehangach ar gyfer dioddefwyr bregus neu dan fygythiad
- hyblygrwydd i ddioddefwyr ddewis defnyddio gwasanaethau neu beidio er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y lefel o wasanaeth y maent yn ei ddymuno.
Mae camau penodol ar gyfer gwneud cwyn, ac mae’r Cod yn rhoi gwybodaeth am sut i gwyno, gyda phwy i gysylltu a’r nifer o ddiwrnodau gwaith sy’n cael ei roi i asiantaethau ymateb i’ch cwyn.
Cliciwch yma i lwytho’r Cod Ymddygiad ar gyfer Dioddefwyr Troseddau i lawr.
Sylwadau am y dudalen