Mae Datganiad Safonau Cenedlaethol Gofal Tystion yn y System Cyfiawnder Troseddol yn nodi na ddylid gorfodi tystion i roi eu cyfeiriadau mewn llys agored oni bai ei fod yn angenrheidiol ar gyfer y dystiolaeth. Mae’r System Cyfiawnder Troseddol wedi cydnabod y gall bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) ofni y byddai datgan eu cyfeiriadau arwain at ddial. Dylai staff Gwasanaeth Erlyn y Goron fedru tawelu eich meddwl.
Mae’r System Cyfiawnder Troseddol hefyd wedi cydnabod y gall materion godi o ran y ffordd mae gofyn i bobl LHDT roi tystiolaeth, ac felly mae gan y llysoedd rym newydd i atal y cyfryngau rhag enwi tystion bregus. Mae angen i gyfreithiwr y tyst wneud cais i’r llys, ac mae’n rhaid i’r llys benderfynu a yw’r tyst yn gymwys i gael ei amddiffyn, ac a fyddai cyfyngu ar yr adroddiadau yn gwella safon tystiolaeth y tyst hwnnw neu ei gydweithrediad i roi tystiolaeth.
Mae’n drosedd bygwth (dychryn) tyst, a chyfrifoldeb Gwasanaeth Erlyn y Goron yw sicrhau diogelwch tyst. Os ydych yn poeni am gwrdd â’r diffynnydd, tyst, unrhyw un arall sy’n rhan o’r achos, neu gyfaill neu berthynas i unrhyw un o’r bobl hyn, hysbyswch yr heddlu neu’r cyfreithiwr sydd wedi eich galw fel tyst. Yna dylech fedru aros mewn ystafell arall cyn ac yn ystod yr achos.
Mae’r System Cyfiawnder Troseddol wedi gwella’r ffordd y mae dioddefwyr a thystion yn cael eu hystyried a’u trin yn y System. Gweithiwyd i wella’r cyfathrebu gyda’r dioddefwyr a’r tystion ac i egluro’r system, ac o ganlyniad mae mwy a mwy o dystion bellach yn dod ymlaen i roi tystiolaeth. Mae dioddefwyr a thystion yn derbyn asesiad anghenion manwl er mwyn clustnodi’r gefnogaeth angenrheidiol a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu cyflawni.
Cliciwch yma i lwytho taflen Mynd i’r Llys gan Cymorth i Ddioddefwyr i lawr (Saesneg).
Cliciwch yma i lwytho taflen y System Cyfiawnder Troseddol Canllaw dioddefwyr i lawr (Saesneg).
Gall tystio fod yn brofiad pryderus ac mae pawb sy’n gysylltiedig gyda’r gwaith o herio trosedd yn deall hyn ac yn barod i’ch cefnogi. Cofiwch fod gennych ran hanfodol yn y gwaith o sicrhau cyfiawnder. Cliciwch yma i gyrraedd at Rhith Daith Tystion (Saesneg).
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen