Diogelwch Personol

Os ydych yn ddioddef trosedd:

  • Gwnewch cymaint o sŵn ag sydd modd
  • Ceisiwch sefyll o flaen camera cylch cyfyng
  • Cyn gynted ag y bo modd, ewch i rywle y gwyddoch ei fod yn ddiogel
  • Gofynnwch am help ar unwaith
  • Adroddwch am y digwyddiad wrth eich gorsaf heddlu leol yn uniongyrchol. I gysylltu gyda’ch heddlu cliciwch yma.
  • Mewn argyfwng, ffoniwch 999
  • Peidiwch ag yfed alcohol, bydd angen i chi roi adroddiad clir am yr hyn a ddigwyddodd
  • Os ymosodwyd arnoch, peidiwch ag ymolchi na newid eich dillad, gall hyn ddinistrio tystiolaeth
  • Os colloch eich allweddi, newidiwch y cloeon
  • Os nad ydych yn ddigon hyderus i siarad yn uniongyrchol gyda’r heddlu ac nad ydych am roi eich enw, gallwch wneud cwyn yn ddi-enw gan ddefnyddio Ffurflen Hunan-Adrodd cliciwch yma. Mae bob adroddiad yn cael ei gymryd o ddifrif a gall helpu i’ch atal chi ac eraill rhag dioddef troseddau casineb.
  • Ond cofiwch, os na all yr heddlu gysylltu gyda chi, ni fydd modd iddynt gyhuddo’r troseddwr
  • Os oes angen cefnogaeth arnoch ond nad ydych am siarad gyda’r heddlu, cysylltwch â Cymorth i Ddioddefwyr.

Os ydych yn dyst:

  • Mewn argyfwng ffoniwch 999
  • Cadwch eich llygaid ar agor, a gofalwch eich bod yn ddiogel
  • Peidiwch ag ymyrryd yn gorfforol, gallech gael eich anafu
  • Cyn gynted ag y bo modd, ysgrifennwch bopeth y gallwch ei gofio am y digwyddiad ee: beth a ddywedwyd, a oedd yn agos i gamera cylch cyfyng, rhif car ayyb
  • Adroddwch am y digwyddiad yn uniongyrchol wrth yr heddlu cliciwch yma neu drwy ddefnyddio Ffurflen Hunan-Adrodd cliciwch yma. Mae pob adroddiad yn cael ei gymryd o ddifrif, a gall eich atal chi ac eraill rhag dioddef troseddau casineb.
  • Ond cofiwch, os na all yr heddlu gysylltu gyda chi, ni fydd modd iddynt gyhuddo’r troseddwr
  • Os oes angen cefnogaeth arnoch ond nad ydych am siarad gyda’r heddlu, cysylltwch â Cymorth i Ddioddefwyr.

Bwlio:

  • Dylai ysgolion a  cholegau gael polisïau / gweithdrefnau sy’n eich amddiffyn rhag camwahaniaethu a bwlio
  • Peidiwch â dioddef yn dawel. Nid ydych ar eich pen eich hun. Os na fedrwch gael sylw eich ysgol neu goleg, cysylltwch gydag un o’r grwpiau ieuenctid LHD ledled Cymru a all gynnig cefnogaeth a chyngor, cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
  • Dywedwch wrth rywun. Nid yw pawb sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn dioddef bwlio homoffobaidd yn yr ysgol, coleg neu’r gweithle. Os yw’n digwydd, mae’n bwysig dweud wrth rywun.
  • Os na fedrwch ddweud wrth athro, teulu neu gyfaill, gallwch ddweud wrth rywun gan ddefnyddio Ffurflen Hunan-Adrodd cliciwch yma. Mae pob adroddiad yn cael ei gymryd o ddifrif a gallai gynorthwyo i’ch atal chi ac eraill rhag dioddef troseddau casineb.
  • Dywedwch wrth rywun os ydych yn cael eich bwlio.
  • Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a chefnogaeth os ydych yn dioddef bwlio.

(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.