Adrodd Troseddau Casineb a Diogelwch

Yn yr adran hon:

Beth yw troseddau casineb?

Troseddau casineb yw unrhyw ddigwyddiad yn erbyn person neu eiddo sydd wedi ei ysgogi gan gasineb y troseddwr tuag at bobl sy’n cael eu gweld yn wahanol. Gall y gwahaniaeth fod yn gyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhyw, neu hil, tarddiad ethnig, crefydd, anabledd neu ryw.

Pam ddylwn i wneud cwyn am droseddau casineb homoffobaidd?

Mae troseddau casineb homoffobaidd yn brifo. Gallant ddrysu ac achosi dychryn, a gallant ddigwydd eto. Drwy wneud cwyn, efallai y bydd modd i chi atal y troseddau hyn rhag digwydd eto i chi neu rywun arall.
Peidiwch ag ofni gwneud cwyn wrth yr Heddlu am unrhyw gamdriniaeth homoffobaidd yr ydych yn ei ddioddef – byddant yn delio gyda’r hyn a ddywedwch wrthynt yn sensitif ac yn broffesiynol. Mae’r pedwar Heddlu ledled Cymru sef Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru yn cymryd troseddau casineb o ddifrif ac mae eu swyddogion wedi’u hyfforddi i drin pawb gyda pharch ac urddas.

Ond os nad ydych yn teimlo bod modd i chi siarad yn uniongyrchol gyda’r Heddlu gallwch lenwi Ffurflen Hunan-Adrodd, neu gysylltu gydag asiantaeth gefnogaeth megis Cymorth i Ddioddefwyr a fydd yn eich cynorthwyo, hyd yn oed os na fyddwch yn gwneud cwyn wrth yr Heddlu.

Sut fedraf i wneud cwyn am droseddau casineb homoffobaidd?

Mae dwy ffordd o wneud cwyn wrth yr Heddlu am ddigwyddiad homoffobaidd ee: camdriniaeth ar lafar, poeri, graffiti sarhaus a throseddau:

Cysylltu’n uniongyrchol gyda’r Heddlu - drwy ffonio’ch Heddlu lleol neu ffonio 999 os yw’r drosedd yn digwydd ar y pryd neu mewn argyfwng.

Cwblhau Ffurflen Hunan-Adrodd – ceir y ffurflenni hyn mewn llefydd cyhoeddus a gellir eu cwblhau naill ai yn ddi-enw neu gyda manylion cyswllt.

Ffurflen Hunan-Adrodd

Mae’r Ffurflen Hunan-Adrodd yn eich galluogi chi fel dioddefwr, tyst, rhiant, gofalwr neu berson pryderus i wneud cwyn wrth yr Heddlu am ddigwyddiad heb siarad yn uniongyrchol gyda Heddwas. Mae gennych y dewis o roi cyn gymaint neu gyn lleied o wybodaeth bersonol ag y dymunwch.

Os fyddwch yn llenwi’r ffurflen yn ddi-enw, bydd yr Heddlu yn defnyddio’r wybodaeth i adnabod patrymau mewn ardal. Os fyddwch yn nodi eich manylion, bydd yr Heddlu yn cysylltu gyda chi i ymchwilio i’r digwyddiad, a gall hyn arwain at erlyn y troseddwr.

Adrodd yn uniongyrchol wrth yr Heddlu

Bydd yr Heddlu yn:

  • Gwneud cofnod o’r digwyddiad
  • Cofnodi eich datganiad tyst
  • Ymchwilio i weld os oes digon o dystiolaeth
  • Cyfweld gydag unrhyw un sydd dan amheuaeth
  • Eich hysbysu am benderfyniadau’r Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyhuddo person neu beidio
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau yn yr achos.

Mae’r Heddlu’n cyfeirio dioddefwyr troseddau at Cymorth i Ddioddefwyr a bydd staff Cymorth i Ddioddefwyr yn cysylltu gyda chi i gynnig cefnogaeth.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.