Dedfrydau am Ymosodiadau Homoffobaidd

Nid yw’r System Cyfiawnder Troseddol yn defnyddio cyhuddiad o ymosodiad homoffobaidd troseddol yn benodol. Serch hynny, lle bo ymosodiad yn cynnwys, neu wedi’i ysgogi gan, gasineb neu ragfarn ar sail anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol (gwirioneddol neu ragdybiol) mae rheidrwydd ar y barnwr i:

  • drin hyn fel ffactor sy’n difrifoli, a
  • datgan yn agored mewn llys pa elfennau ychwanegol o’r ddedfryd sy’n cael eu gosod yn sgil y difrifoli.

Mae Adran 146 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 yn gosod rheidrwydd ar y llysoedd i ystyried casineb at gyfeiriadedd rhywiol (neu anabledd) fel ffactor sy’n difrifoli wrth benderfynu ar ddedfryd ar gyfer unrhyw drosedd. Mae’r adran hon yn berthnasol pan fo’r llys yn ystyried difrifoldeb trosedd sy’n cael ei chyflawni dan unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol:
Bod y troseddwr, pan gyflawnwyd y drosedd, neu yn union cyn neu ar ôl gwneud hynny, wedi dangos casineb tuag at ddioddefwr y drosedd ar sail

  • cyfeiriadedd rhywiol (neu ragdybiaeth am gyfeiriadedd rhywiol) y dioddefwr, neu 
  • anabledd (neu ragdybiaeth am anabledd) y dioddefwr, neu 

Bod y drosedd wedi’i hysgogi (yn llawn neu’n rhannol) –  

  • gan gasineb tuag at bobl o gyfeiriadedd rhywiol penodol y dioddefwr, neu
  • gan gasineb tuag at bobl sydd ag anabledd cyffredinol neu benodol. 

Rhaid i’r llys drin y ffaith bod y drosedd wedi’i chyflawni dan unrhyw un o’r amgylchiadau hyn fel ffactor sy’n difrifoli, a rhaid datgan y canfyddiad hwnnw yn agored yn y llys.

Cliciwch yma ar gyfer dogfen Policy for Prosecuting Cases of Homophobic and Transphobic Hate Crime Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Cliciwch yma ar gyfer dogfen Guidance on Prosecuting Cases of Homophobic and Transphobic Crime Gwasanaeth Erlyn y Goron.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.