Ym Mai 2008, pasiodd y Senedd amddiffyniadau cyfreithiol newydd pwysig yn erbyn annog casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol, drwy’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo.
Am wybodaeth am ddatblygiadau’r Ddeddf hon cliciwch yma.
Mae cyhuddiadau yn bodoli ar gyfer troseddau sydd wedi’u hysgogi neu eu ffyrnigo gan gasineb hiliol neu grefyddol, gan gynnwys ymosod, difrod troseddol, trefn gyhoeddus ac aflonyddu, ond nid oes cyhuddiadau’n bodoli ar gyfer troseddau sydd wedi’u hysgogi neu eu ffyrnigo gan gasineb homoffobaidd:
Yn sgil Deddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2007, daeth yn drosedd defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol gyda’r bwriad o annog casineb tuag at unrhyw grŵp o bobl yn sgil eu credoau crefyddol neu ddiffyg credoau crefyddol.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen