Dyma ganllaw dwyieithog i bobl ledled Cymru sydd wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd, sy’n rhoi gwybodaeth am ymateb asiantaethau Cyfiawnder Troseddol i droseddau casineb homoffobaidd a’r camau y gellir eu cymryd i’w atal.
Datblygwyd y canllaw mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru ac ariannwyd gan y 4 Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.
Cliciwch yma i lwytho copi pdf i lawr.
Dyma fenter mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn wynebu’r mater o beidio ag adrodd am droseddau casineb homoffobaidd. Mae’r matiau diod yn rhoi neges glir nad yw camdriniaeth homoffobaidd yn dderbyniol o gwbl, ac mae’n annog pobl i gwyno wrth Heddlu Gogledd Cymru.
Bydd y matiau diod yn cael eu lansio yn Eisteddfod Genedlaethol 2009 yn y Bala a Sir Feirionydd ac yna’u dosbarthu ledled gogledd Cymru.
Drinks mat i lawrlwytho copi pdf.
Mae Cymru Ddiogelwch mewn partneriaeth gyda’r 4 Heddlu yng Nghymru yn datblygu Ffurflen Hunan-Adrodd ar gyfer troseddau casineb homoffobaidd.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y Ffurflen Hunan Adrodd.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen