Penna Comisiynwyr gyllideb a blaenoriaethau eich heddlu lleol, cyflogi ac (os bydd angen) ddiswyddo’r Prif Gwnstabl ac ymgysylltu â’r gymuned. Rhaid iddynt lunio eu cynllun heddlua’n lleol erbyn diwedd Mawrth 2013 a bydd ganddynt gyfrifoldeb i ymgynghori â’r bobl leol am y cynllun hwnnw.
Felly gwna Comisiynwyr benderfyniadau allweddol a effeithia ar sut yr ymdrinia eich heddlu lleol â materion megis troseddau homoffobig, trais domestig gan bobl o’r un rhyw ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymuned. Mae’n hynod bwysig felly i’r Comisiynwyr ymgysylltu â’n cymuned i ddeall ein hanghenion.
Mae Comisiynwyr yn atebol i’w cymuned ac yn unol â phryderon y gymuned honno y dylent bennu cyllideb a blaenoriaethau’r heddlu lleol. Rhaid iddynt gyflwyno eu cynllun heddlua erbyn diwedd Mawrth 2013 ac mae’n bwysig bod lesbiaid, hoywon a deurywolion a sefydliadau a grwpiau cymunedol yn ymgysylltu â’r Comisiynwyr i godi materion cymunedol. Cynnal rhai Comisiynwyr gyfarfodydd yn y gymuned ac eraill arolygon. Cymerwch ran yn y gweithgaredd hwnnw. Mae’n allweddol y dealla’r Comisiynwyr ein hanghenion.
Yn Nghymru, mae Stonewall Cymru wedi bod yn casglu data ar Droseddau Casineb Homoffobaidd gan y pedwar heddlu yng Nghymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Cyfartaledd nifer yr adroddiadau ynghylch troseddau casineb homoffobaidd ymhob blwyddyn galendr oedd 459, ac mae cynnydd o 13% wedi bod. O’r cyfanswm hwnnw, aeth Gwasanaeth Erlyn y Goron â chyfartaledd o 13% ohonynt ymlaen i erlyn diffynyddion homoffobaidd. Gwelwyd 75% o gynnydd o ran erlyniadau llwyddiannus rhwng 2006 a 2011, gyda chynnydd o 100% rhwng 2006 a 2008.
Cliciwch yma i weld ystadegau am droseddau casineb homoffobaidd a adroddwyd i Heddluoedd Cymru ym mlynyddoedd calendr 2011-06.
Cliciwch yma i weld ystadegau am achosion o erlyn diffynyddion homoffobaidd gan Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru ym mlynyddoedd calendr 2011-06.
Cyhoeddodd Stonewall ystod o ymchwil i bob ardal heddlu yng Nghymru a Lloegr a all eich helpu wrth ymgysylltu â’ch Comisiynwr lleol. Dyma rai o’r prif ganlyniadau:
Troseddau homophobig
- O ran lesbiaid a hoywon, profa un ymhob wyth drosedd neu ddigwyddiad homoffobig bob blwyddyn
- Cred rhagor nag un ymhob deg fod troseddau homoffobig yn ‘broblem fawr’ yn eu hardal
Profiad o’r heddlu
- Ni soniodd dros dri dioddefwr ymhob pedwar wrth yr heddlu – ac ni soniodd saith ymhob deg wrth neb
- Y prif resymau dros beidio â sôn wrth yr heddlu oedd y teimlad: nad oedd yn ddigon difrifol (43%); na wna’r heddlu ddim amdano neu na allent wneud dim (34%); na chymerent y peth o ddifrif (27%); fod y digwyddiadau’n rhy gyffredin i sôn amdanynt wrth yr heddlu (15%)
- O ran dynion hoyw a deurywiol, profodd eu hanner o leiaf un digwyddiad o drais domestig gan aelod o’r teulu neu bartner o’i gymharu â 17% o ddynion yn gyffredinol
- O ran lesbiaid a menywod deurywiol, ni soniodd pedair ymhob pump am y fath ddigwyddiadau wrth yr heddlu
- Dywed tri dioddefwr ymhob pump mai dieithryn dan 25 oed oedd yr ymosodwr homoffobig
- O ran pobl hoyw dan 25 oed, profodd un ymhob pedwar drosedd neu ddigwyddiad homoffobig yn y tair blynedd diwethaf (o’i gymharu ag un ymhob pump o bobl hoyw’n gyffredinol)
O’r rhain y daeth y canlyniadau: Homophobic Hate Crime - The Gay British Crime Survey 2008, Serves You Right (2008), Gay and Bisexual Men's Health Survey (2012), Prescription for Change (2008), The Teachers' Report (2009) a The School Report (2012). Gellwch lawrlwytho pob un (a rhagor) yn rhad ac am ddim o’n gwefan: www.stonewall.org.uk/publications.
Isod mae enwau a dolen i wefannau’r pedwar yng Nghymru:
Heddlu Dyfed Powys – Christopher Salmon (http://www.dyfed-powys.pcc.police.uk)
Heddlu Gwent – Ian Johnston (http://www.gwent.pcc.police.uk)
Heddlu’r Gogledd – Winston Roddick http://www.northwales-pcc.gov.uk
Heddlu’r De – Alun Michael http://www.south-wales.pcc.police.uk
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen