Gogledd

Mae'r adran hon yn cynnwys awdurdodau lleol: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam.
Mae'n cynnig gwybodaeth am grwpiau LHD, yn ogystal â rhai sefydliadau prif ffrwd sy'n cefnogi pobl LHD, wedi'u rhestru dan y categoriau isod.

Ar y Tudalen:

Digwyddiad Dweud Eich Dweud Gogledd Cymru

Ym mis Tachwedd 2007 cynhaliwyd digwyddiad Dweud Eich Dweud gan Stonewall Cymru, mewn partneriaeth gyda Phrosiect Pobl Ifanc Gorllewin Rhyl, ar gyfer bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol o bob oedran, o bob cwr o ogledd Cymru, er mwyn ymuno gyda Swyddogion Cydraddoldeb o'r 6 awdurdod lleol a darparwyr gwasanaeth eraill i drafod materion sy'n bwysig iddynt.

Digwyddiad Dweud Eich Dweud Gogledd Cymru ar gyfer Adroddiad digwyddiad Dweud Eich Dweud.

Tu Mewn Tu Allan

Mae prosiect Tu Mewn Tu Allan Stonewall Cymru yn gweithio gyda phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled gogledd a chanolbarth Cymru er mwyn ymchwilio i'w profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd. Am fwy wybodaeth cliciwch yma.

Cefnogaeth a Chymdeithasu LHD

Mae grwpiau LHD yn cynnig cefnogaeth grŵp cymheiriaid, cyfeillgarwch a chymorth rhywun yn yr un sefyllfa ac sy'n wynebu materion tebyg, er mwyn ymdrin â'r teimladau o unigrwydd ac anawsterau cysylltiedig â 'dod allan' ac i ddelio gydag agweddau o gamwahaniaethu cymdeithasol. Mae egwyddorion a dyletswyddau hanfodol y grwpiau hyn yn debyg i sefydliadau grwpiau cymheiriaid eraill, megis Gingerbread, y sefydliad cefnogaeth ar gyfer teuluoedd un rhiant.

Cliciwch yma am wybodaeth ar Linellau Cymorth LHD.

Bi Cymru/Wales

Rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol Cymru ar gyfer pobl ddeurywiol a’r rhai sy’n meddwl efallai eu bod yn ddeurywiol.
Rhestr bost: http://uk.groups.yahoo.com/group/biwales
Ebost:bicymru@yahoo.co.uk
Testun: 07982 308812

Clwb Awyr Agored Hoyw

http://goc.uk.net/
www.northwalesgoc.org.uk
Mae'r Clwb Awyr Agored Hoyw yn gweithredu ledled Cymru ac yn darparu ystod eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden yn yr awyr agored ac o dan do ar gyfer dynion a menywod LHDT. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys cerdded, beicio, nofio, badminton, ayyb.
Am wybodaeth cysylltwch â: info@goc.uk.net 

Ar gyfer Clwb Awyr Agored Hoyw Grwp Gogledd Cymru cysylltwch â Pete Burling on 01244 342066,  northwalesgoc@hotmail.com 

Cymdeithas LHD Undeb Myfyrwyr Bangor - Balch PCB - Prifysgol Cymru Bangor

www.undeb.bangor.ac.uk/lgb
Mae Balch PCB yn cefnogi myfyrwyr LHDT o fewn Prifysgol Bangor ac Undeb y Myfyrwyr.
Cysylltwch â'r Swyddog LHD drwy ebost:lgbofficer@undeb.bangor.ac.uk post: Swyddog LHD, Undeb y Myfyrwyr, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 2TM

Encompass

www.encompass.btik.com
Encompass yw'r grwp LHDT newydd ar gyfer ardal gogledd Cymru a Swydd Gaer. Dewch i gwrdd â chyfeillion newydd a bod yn rhan o grwp cefnogol a hwyliog mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.
 
Mae Encompass yn cyfarfod ar ddydd Mercher cyntaf bob mis am 7.30pm yng Nghaffi Cymunedol Cyngor ar Bopeth, Cable Street, Cei Connah, CH5 4DZ.
 
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at: encompass@live.co.uk neu ewch at y wefan.

Mesmac Gogledd Cymru

www.mesmac.com
Mae Mesmac Gogledd Cymru yn darparu mynediad i ystafell sgwrsio ac amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol yn ardal Gogledd Cymru.

Llinell Gymorth - 01248 363431 ar agor Dydd Mawrth 7.00 - 9.00 pm, e-bost keith@mesmac.com. Post d/o Keith Parry, 2 Bryn Difyr, Bangor Gwynedd LL57 1HY

Sefydliad LHDT Gogledd Ddwyrain Cymru

www.lgbtfoundation.co.uk 
Cychwynnodd y Sefydliad yn 2006 er mwyn edrych ar ffyrdd o ddatblygu gwasanaethau ar gyfer cymunedau LHDT a’u cyfeillion.
Mae’n ceisio cynrychioli a bod yn llais ar gyfer cymunedau LHDT, cynnig gofod diogel a chyfrinachol ar gyfer cyfarfodydd ac i gymdeithasu, cysylltu’n agos gyda mudiadau statudol ac an-statudol, darparu cyngor, gwybodaeth, arweiniad, cefnogaeth a hyfforddiant sy’n briodol ar gyfer anghenion cymunedau LHDT a’u cyfeillion. Rydym hefyd yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau.
Ffôn: 01978 318813
E-bost: info@lgbtfoundation.co.uk
Post: Sefydliad LHDT,
TY AVOW,
Egerton Street,
Wrecsam.
LL11 1ND.

Grwpiau Pobl Ifanc

Fusion - Grŵp Ieuenctid LHDTA (14-19) - Sir y Fflint

Mae Fusion (grŵp ieuenctid ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 - 19 oed, sy'n LHDTA) bellach yn cael ei gynnal yn Sir y Fflint! Bydd y grŵp yn cyfarfod bob yn ail wythnos ar nos Iau (am 7yr hwyr) a bydd yn cynnig cyfle i bobl ifanc LHDTA gymdeithasu a chyfarfod cyfeillion newydd mewn awyrgylch diogel, yn ogystal â darparu cefnogaeth cymheiriaid.

I wybod mwy (o ran lleoliad ayyb) cysylltwch gyda'r gweithiwr ieuenctid Mick Holt drwy
Ffonio: 01352 758139 neu 07786126898 
EbostL: mick.holt@flintshire.gov.uk;
neu Louise Blackwell  drwy
Ffonio: 01352 744002 
Ebost: louise.blackwell@flvc.org.uk

ISIS - Grŵp Ieuenctid LHDTA (13-25) - Wrecsam

Grŵp cefnogol dan arweiniad cymheiriaid yw ISIS, ar gyfer pobl rhwng 13 - 25 ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.  Ei nod yw clustnodi a wynebu materion perthnasol i ieuenctid Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Cwestiynu (LHDTC). Cynllunir sesiynau galw-i-mewn wythnosol yn fuan ar gyfer pobl ifanc LHDTC, er mwyn cymdeithasu a chwrdd â chyfeillion newydd mewn amgylchedd ddiogel, tra'n darparu cefnogaeth i'w gilydd. Bydd y grŵp yn cael ei redeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, gan ofyn iddynt am eu dymuniadau a'u hanghenion, a gweithredu ar y wybodaeth honno.

Cysylltwch â Joshua Hughes ar e-bost: urieldivine@yahoo.co.uk neu drwy Laura Proffit, Swyddog Cefnogi Plant a Phobl Ifanc yn: AVOW (Association of Voluntary Organisations in Wrexham),  Ty AVOW, 21 Egerton St, Wrecsam LL11 1ND, ffôn: 01978 318810.

Viva - Grŵp Ieuenctid LHDT (14-25) - Rhyl, Sir Ddinbych

Mae Viva yn wasanaeth i bobl ifanc LHDT ym Mhrosiect Pobl Ifanc Gorllewin Rhyl. Mae'n cynnal 1 x grŵp wythnosol ar gyfer pobl LHDT rhwng 14-25 oed, ac mae gwasanaeth un i un hefyd ar gael drwy apwyntiad. Mae gan Viva lyfrgell adnoddau fach ac mae'n darparu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i sefydliadau lleol sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Cysylltwch drwy:

Ebost: info@rhylyouth.co.uk
Ffôn: 01745 351293
Post: Viva, Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin Rhyl, 30 Bedford St, Rhyl, Sir Ddinbych LL18 1SY

Gweler adran Cefnogaeth a Chymdeithasu LHD am fanylion Cymdeithasau LHD Undeb Myfyrwyr lleol.

Diogelwch

Trais yn y Cartref

Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref Cymru

Yn llinell ffôn 24 awr rhad ac am ddim sy’n wasanaeth cyfeirio a gwybodaeth i fenywod, plant a dynion yng Nghymru sy’n dioddef, neu wedi dioddef, camdriniaeth gan rywun agos atynt.
0808 80 10 800

Prosiect Dyn

www.dynproject.org

Mae Prosiect Dyn yn gweithio ledled Cymru i gefnogi dynion sy’n dioddef trais yn y cartref.
Llinell Gymorth - 0808 801 0321 – yn cefnogi dioddefwyr gwrywaidd ledled Cymru drwy ddarparu clust i wrando heb feirniadu.  Gall staff y llinell gymorth hefyd helpu i ddod o hyd i wasanaethau cefnogi lleol i’r sawl sy’n galw. Mae’r llinell gymorth yn gwbl gyfrinachol, a’r galwadau’n rhad ac am ddim.

Cymorth i Fenywod Cymru

www.welshwomensaid.org/index.html
Cymorth i Fenywod Cymru yw’r prif fudiad sy’n cynrychioli Grwpiau Cymorth i Fenywod lleol ledled Cymru. Mae eu grwpiau yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i fenywod a phlant sydd wedi dioddef trais yn y cartref yn y gorffennol, neu ar hyn o bryd. Gallant gynnig cyngor/lloches i fenywod mewn perthynas heterorywiol neu lesbiaidd / deurywiol, os ydynt yn dianc neu’n dioddef trais yn y cartref

Heddlu

Heddlu Gogledd Cymru

www.north-wales.police.uk/about_us/equality__diversity.aspx?lang=cy-gb 
Ers lansio yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009 mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dosbarthu 90,000 o fatiau diod ledled Gogledd Cymru, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am droseddau casineb homoffobaidd ac annog dioddefwyr a thystion i adrodd am ddigwyddiadau wrth yr heddlu. Yn 2010 unodd Heddlu Gogledd Cymru hefyd gyda Bysys Arriva i arddangos posteri â’r neges hon yng ngherbydau’r cwmni.
Cliciwch yma am ddatganiad i’r wasg gan Heddlu Gogledd Cymru

Deialwch 101 os nad yw’n argyfwng megis:
os oes angen presenoldeb yr heddlu i gynorthwyo mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng
os oes angen gwneud cwyn am drosedd neu ddigwyddiad
ar gyfer ymholiadau cyffredinol
Am gyngor a chefnogaeth gyfrinachol, gofynnwch i gael siarad â Swyddog Troseddau Casineb.

Deialwch 999 os oes argyfwng megis
Anaf difrifol wedi’i achosi, neu fygythiad o anaf difrifol
Trosedd yn digwydd ar y pryd, a’r drwgweithredwyr yn bresennol neu gerllaw
Post: Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Glan-y-Don Ffordd Abergele, Bae Colwyn, Conwy LL29 8AW

Cefnogaeth

Cymorth i Ddioddefwyr

www.victimsupport.org.uk/Contact us/Wales
Yng Nghymru yn 2010 datblygodd Cymorth i Ddioddefwyr brosiect mewn partneriaeth gyda Stonewall Cymru i annog mwy o ddioddefwyr a thystion troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd, boed yn ‘hoyw neu strêt’, i ddefnyddio gwasanaeth cefnogi gwell Cymorth i Ddioddefwyr¹. Mae Prosiect Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri wedi sicrhau fod staff a gwirfoddolwyr Cymorth i Ddioddefwyr yn deall rhai o’r materion sy’n codi ac anghenion cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy’n dioddef troseddau casineb. Cliciwch yma am daflen Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n darparu cefnogaeth gyfrinachol, heb farnu, yn rhad ac am ddim i ddioddefwyr a’u teuluoedd, boed wedi gwneud cwyn wrth yr Heddlu am y drosedd neu beidio. Gallant ddarparu cefnogaeth emosiynol, cymorth ymarferol wrth newid cloeon ayyb, helpu tystion/dioddefwyr yn y llys, neu gynorthwyo wrth hawlio Iawndal Anafiadau Troseddol.

Lle bynnag yr ydych yng Nghymru, ffoniwch 0845 612 1900, mae ein swyddfeydd ar agor rhwng 8am a 8pm.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Diogelwch.

Cyngor a Iechyd

Canolfan Cynghori'r Cyhoedd CAB

www.citizensadvice.org.uk
Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim gan swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.
Am eich Canolfan leol cliciwch yma
Am gyngor CAB Arlein  cliciwch yma

Cynnwys

Mae Cynnwys yn cefnogi lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a thrawsrywiol, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yng Ngwynedd a Mon. Bwriad Cynnwys yw cynorthwyo'r unigolion yma i gael gwell mynediad i gyngor a gwybodaeth yn y ddwy sir.

Lanswyd Adroddiad Terfynol Prosiect Cynnwys yng Nghaernarfon Dydd Gwener, 23 Mawrth 2007.  Prosiect Cynhwysiant Cymunedol yw Prosiect Cynnwys a sefydlwyd yn 2004 i gefnogi unigolion a grwpiau lleiafrifol, sef pobl anabl, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a thrawsrywiol yng Ngwynedd a Môn i gael gwell mynediad at wasanaethau’r ddwy sir sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth i’r cyhoedd.
 
Mae’r ddogfen hon yn ffrwyth llafur tair blynedd o waith ymchwil gan Dim Cynnwys. Gobeithiwn y bydd canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn adnodd defnyddiol i fudiadau sy’n cynnig gwasanaethau cyngor a gwybodaeth yn y ddwy sir, ac yn dylanwadu ar bolisiau a strategaethau lleol.

Cliciwch yma i fynd at wefan Cynnwys ac Adroddiad Terfynol Cynnwys 07

Ffon : 0845 6019686
Ebost: cynnwys@cynnwys.com
Post : Ty Silyn, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6LY

Triongl Cymru

www.trianglewales.co.uk
Mae Triongl Cymru yn darparu cyngor a chefnogaeth Cartrefi ar gyfer pobl LHDT ledled Cymru.
Cysylltwch â'r Llinell Gymorth: 0808 801 0306
Ebost: contact@trianglewales.co.uk
Post: Triongl Cymru, 4 Dock Chambers, Stryd Bute, Caerdydd CF10 6AG

Rhieni

SPLAG Cymru - Cefnogaeth i Rieni i Lesbiaid a Hoywon

www.SPLAGWales.org.uk

Rhedir llinellau cymorth cyfrinachol ledled y DG yn wirfoddol gan rieni pobl LHD er mwyn cefnogi rhieni a'u plant

Llinell Gymorth Cymru - 0845 652 0321 neu 0845 652 0322 ar agor gyda'r hwyr a phenwythnosau
E-bostiwch: janet.jeffries@btinternet.com

Os ydych yn aelod o grŵp a’ch bod am i ni gynnwys eich sefydliad cliciwch yma i anfon ebost at y tîm. 

*Ni all Stonewall Cymru warantu cywirdeb, cyfrinachedd, na rhoi achrediad sicrwydd safon ar gyfer unrhyw wasanaeth a restrir.

*Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.