De-Orllewin

Mae'r adran hon yn cynnwys awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe. Mae'n cynnig gwybodaeth am grwpiau LHD, yn ogystal â rhai sefydliadau prif ffrwd sydd yn cefnogi pobl LHD, a restrir dan y categoriau isod.

Mae gan Abertawe ei gwefan ei hun, sydd yn ceisio darparu ffynhonnell wybodaeth ar gyfer cymuned LHDT Abertawe a'r cyffiniau, a chysylltiadau gyda gwasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i bawb ar www.gayswansea.com/

Yn yr adran hon:

Cefnogaeth a Chymdeithasu LHD

Mae grwpiau LHD yn cynnig cefnogaeth grŵp cymheiriaid, cyfeillgarwch a chymorth rhywun yn yr un sefyllfa ac sy'n wynebu materion tebyg, er mwyn ymdrin â'r teimladau o unigrwydd ac anawsterau cysylltiedig â 'dod allan' ac i ddelio gydag agweddau o gamwahaniaethu cymdeithasol. Mae egwyddorion a dyletswyddau hanfodol y grwpiau hyn yn debyg i sefydliadau grwpiau cymheiriaid eraill, megis Gingerbread, y sefydliad cefnogaeth ar gyfer teuluoedd un rhiant.

Cliciwch yma am wybodaeth ar Linellau Cymorth LHD.

Llinell Gymorth LHDT Cymru
www.lgbtcymruhelpline.org.uk 

Mae Llinell Gymorth LHDT  Cymru  yn wasanaeth gofal proffesiynol rhad ac am ddim ar gyfer pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru sydd yn anelu i leddfu teimladau o unigrwydd cymdeithasol unigol a chryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau LHDT yn ein holl ardaloedd. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau LHDT, ac yn cefnogi teuluoedd a chyfeillion LHDT.
Llinell Gymorth - 0870 858828 ar agor Llun & Mer 7.00 - 9.00 pm (galwadau am 3.9c y funud)
Ebost: lgbtcymruhelpine@fsmail.net

Bi Abertawe

Grŵp ar gyfer unrhyw un sydd yn cael ei ddenu at fwy nag un rhyw, neu sy’n amau hynny.
Mae Bi Abertawe yn cyfarfod i drafod materion deurywiol, cymdeithasu a chyfarfod pobl deurywiol eraill. Mae cysylltiad gyda Bi Cymru/Wales wrth gynnal ymgyrchoedd a herio biffobia.
Cyfarfod yn fisol ar drydydd dydd Iau bob mis am 7pm yng nghanol Abertawe.
Nosweithiau cymdeithasol o 8:15pm ymlaen, yn agored i unrhyw un sy’n cefnogi pobl ddeurywiol, beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol.
Cymdeithasu dros goffi yn fisol mewn bar sy’n addas ar gyfer teuluoedd a  babanod. 12 – 2pm ar ddydd Sul olaf bob mis yn yr Icehouse ym marina Abertawe.
Ebost: BiSwansea1@yahoo.co.uk 
Testun: 08982 308812

Bi Cymru/Wales

Rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol Cymru ar gyfer pobl ddeurywiol a’r rhai sy’n meddwl efallai eu bod yn ddeurywiol.
Ebost:bicymru@yahoo.co.uk
Testun: 07982 308812

Dyfed Diners
www.dyfeddiners.freeuk.com/silent.htm

Mae'r Clwb Cinio misol hwn yng Ngorllewin Cymru yn rhoi cyfle i bobl hoyw gwrdd mewn awyrgylch gysurus, heb bwysau, dros bryd o fwyd a diod. Cynhelir cyfarfodydd mewn amrywiol leoliadau ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yng nghanol y mis ac ar benwythnosau . Hefyd mae Sadwrn Cymdeithasol ar ddechrau'r mis a Chinio Sul ar y diwedd.
Am fanylion, cysylltwch â philip_wathen@hotmail.com

Gay Ammanford

www.gayammanford.com 
Hoyw Rhydaman, yn cefnogi Cymuned LHDT ardal Rhydaman, y Gwendraeth a Tywi. Yn cynnig ac yn cydlynu cefnogaeth gymdeithasol, yn ogystal â man cyfarfod diogel ar gyfer ein haelodau.
Gwasanaeth cyfrinachol ar gyfer y Gymuned LHDT, eu teuluoedd a’u ffrindiau.
contact@gayammanford.com 

MCLH De Cymru

www.lgcm.org.uk
Mae MCLH De Cymru yn cynnig amgylchedd diogel a chroesawgar ar gyfer Cristnogion lesbiaidd a hoyw a'u cefnogwyr, gan greu cyfeillgarwch drwy gyfrwng digwyddiadau cymdeithasol a chyfarfodydd, a gynhelir ar y Gwener cyntaf a thrydydd Gwener bob mis ledled De Cymru.
Cysylltwch drwy ebost: john@berry7.fslife.co.uk 
Post: MCLH De Cymru, Blwch Post 11, Pont-y-pŵl NP4 5WY, neu ffoniwch: 07719 644581

Out and About

Mae Out and About yn grŵp amgylcheddol LHDT sy'n edrych ar faterion amgylcheddol o ogwydd LHDT Cymreig ac yn datblygu cyfleoedd ar gyfer ystod o brosiectau ymarferol. Mae gweithgareddau hyd yma yn cynnwys holiadur ymchwil, grwpiau ffocws a gweithdai i edrych ar faterion penodol, taith o amgylch Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a thaith gerdded ar y Gogarth, Llandudno, cynlluniau ar gyfer taith i Ynys Bŷr. Cysylltwch drwy'r:
Ffôn : 01792 892768
Ebost: rachauck@yahoo.co.uk

Cymdeithas LHDT Undeb Myfyrwyr Abertawe, Prifysgol Cymru, Abertawe

www.swansea-union.co.uk
Mae Cymdeithas LHDT Prifysgol Abertawe yn darparu gweithgareddau cymdeithasol, ymgyrchoedd, sesiynau taro-i-mewn a chefnogaeth ar gyfer myfyrwyr LHDT ym Mhrifysgol Abertawe.
Cysylltwch drwy Ebost: swanlgb@hotmail.com
Post: Cymdeithas LHDT Prifysgol Aberawe, d/o Undeb y Myfyrwyr, Tŷ'r Undeb, PCA, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PQ

Womenzone

www.womenzonewales.co.uk 
Sefydliad lesbiaidd yw Womenzone, yn cael ei redeg gan fenywod lesbiaidd ar gyfer menywod lesbiaidd, yn cynhyrchu cylchlythyr deu-fisol. Mae Womenzone hefyd yn ysgogi, cefnogi ac yn trefnu digwyddiadau ee: gwersylloedd syrffio, dawnsfeydd a brecwastau lesbiaidd misol.
Cysylltwch drwy Ganolfan Menywod Abertawe, 25 Stryd Mansel, Abertawe SA1 5SQ, ffôn 01792 411119
Ffon: 01792 411119
Ebost: womenzone@hotmail.co.uk 

Grwpiau Pobl Ifanc

Gweler adran Cymorth a Chymdeithasu LHD am fanylion Cymdeithasau LHD Undebau Myfyrwyr lleol.

Diogelwch

Trais yn y Cartref

Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref Cymru

Yn llinell ffôn 24 awr rhad ac am ddim sy’n wasanaeth cyfeirio a gwybodaeth i fenywod, plant a dynion yng Nghymru sy’n dioddef, neu wedi dioddef, camdriniaeth gan rywun agos atynt.
0808 80 10 800

Prosiect Dyn

www.dynproject.org.uk 
Mae Prosiect Dyn yn gweithio ledled Cymru i gefnogi dynion sy’n dioddef trais yn y cartref.
Llinell Gymorth - 0808 801 0321 – yn cefnogi dioddefwyr gwrywaidd ledled Cymru drwy ddarparu clust i wrando heb feirniadu.  Gall staff y llinell gymorth hefyd helpu i ddod o hyd i wasanaethau cefnogi lleol i’r sawl sy’n galw. Mae’r llinell gymorth yn gwbl gyfrinachol, a’r galwadau’n rhad ac am ddim.

Cymorth i Fenywod Cymru

www.welshwomensaid.org.uk 
Cymorth i Fenywod Cymru yw’r prif fudiad sy’n cynrychioli Grwpiau Cymorth i Fenywod lleol ledled Cymru. Mae eu grwpiau yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i fenywod a phlant sydd wedi dioddef trais yn y cartref yn y gorffennol, neu ar hyn o bryd. Gallant gynnig cyngor/lloches i fenywod mewn perthynas heterorywiol neu lesbiaidd / deurywiol, os ydynt yn dianc neu’n dioddef trais yn y cartref.

Heddlu

Heddlu Dyfed Powys

www.dyfed-powys.police.uk/en/contactus/reportcrime/
Mae gan Heddlu Dyfed Powys Swyddogion Cefnogaeth Troseddau Casineb hyfforddedig ledled y llu i helpu dioddefwyr pob trosedd casineb. Maent yn gweithio gyda’r swyddogion heddlu er mwyn sicrhau bod y drosedd yn cael ei datrys yn gyflym ac i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i’r dioddefwyr, yn cynnwys nodi mesurau i leihau’r tebygrwydd o ddioddef trosedd arall. Mae hyfforddiant Swyddogion Troseddau Casineb yn cynnwys siarad gydag aelodau cymunedau lleiafrifol am eu profiadau am droseddau casineb.

Deialwch 101 os nad yw’n argyfwng megis:
os oes angen presenoldeb yr heddlu i gynorthwyo mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng
os oes angen gwneud cwyn am drosedd neu ddigwyddiad
ar gyfer ymholiadau cyffredinol
Am gyngor a chefnogaeth gyfrinachol, gofynnwch i gael siarad â Swyddog Troseddau Casineb.

Deialwch 999 os oes argyfwng megis
Anaf difrifol wedi’i achosi, neu fygythiad o anaf difrifol
Trosedd yn digwydd ar y pryd, a’r drwgweithredwyr yn bresennol neu gerllaw
Post: d/o Adran Cymunedau a Phartneriaethau, Heddlu Dyfed-Powys, Pencadlys yr Heddlu, Blwch Post 99, Caerfyrddin SA31 2PF

Heddlu De Cymru

www.south-wales.police.uk

Deialwch 101 os nad yw’n argyfwng megis:
os oes angen presenoldeb yr heddlu i gynorthwyo mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng
os oes angen gwneud cwyn am drosedd neu ddigwyddiad
ar gyfer ymholiadau cyffredinol
Am gyngor a chefnogaeth gyfrinachol, gofynnwch i gael siarad â Swyddog Troseddau Casineb.

Deialwch 999 os oes argyfwng megis
Anaf difrifol wedi’i achosi, neu fygythiad o anaf difrifol
Trosedd yn digwydd ar y pryd, a’r drwgweithredwyr yn bresennol neu gerllaw

Post: Pencadlys Heddlu De Cymru, Cowbridge Road, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU

Cefnogaeth

Cymorth i Ddioddefwyr

www.victimsupport.org.uk/Contact us/Wales
Yng Nghymru yn 2010 datblygodd Cymorth i Ddioddefwyr brosiect mewn partneriaeth gyda Stonewall Cymru i annog mwy o ddioddefwyr a thystion troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd, boed yn ‘hoyw neu strêt’, i ddefnyddio gwasanaeth cefnogi gwell Cymorth i Ddioddefwyr¹. Mae Prosiect Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri wedi sicrhau fod staff a gwirfoddolwyr Cymorth i Ddioddefwyr y deall rhai o’r materion sy’n codi ac anghenion cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy’n dioddef troseddau casineb. Cliciwch yma am daflen Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n darparu cefnogaeth gyfrinachol, heb farnu, yn rhad ac am ddim i ddioddefwyr a’u teuluoedd, boed wedi gwneud cwyn wrth yr Heddlu am y drosedd neu beidio. Gallant ddarparu cefnogaeth emosiynol, cymorth ymarferol wrth newid cloeon ayyb, helpu tystion/dioddefwyr yn y llys, neu gynorthwyo wrth hawlio Iawndal Anafiadau Troseddol.

Lle bynnag yr ydych yng Nghymru, ffoniwch 0845 612 1900, mae ein swyddfeydd ar agor rhwng 8am a 8pm.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Diogelwch.

Cyngor a Iechyd

Canolfan Cynghori'r Cyhoedd CAB

www.citizensadvice.org.uk 
Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim gan swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.
Am eich Canolfan leol cliciwch yma 
Am gyngor CAB Arlein  cliciwch yma 

Ymddiriedolaeth Terence Higgins

www.tht.org.uk
Ymddiriedolaeth Terence Higgins yw prif elusen HIV ac AIDS y DG a'r mwyaf yn Ewrop. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau ar gyfer pobl sy'n byw gyda HIV/AIDS, ac yn ymgyrchu ar gyfer gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o faterion iechyd rhywiol. Maent hefyd yn cynnig addysg ac adnoddau gwybodaeth.

Rhieni

SPLAG Cymru - Cefnogaeth i Rieni i Lesbiaid a Hoywon

www.SPLAGWales.org.uk 
Llinellau cymorth cyfrinachol yn cael eu rhedeg ledled y DG yn wirfoddol gan rieni pobl LHD er mwyn cefnogi rhieni a'u plant.
Llinell gymorth ar gyfer Cymru - 0845 652 0321 neu 0845 652 0322 ar agor gyda'r hwyr ac ar benwythnosau
E-bost: janet.jeffries@btinternet.com 

Os ydych yn aelod o grŵp a’ch bod am i ni gynnwys eich sefydliad cliciwch yma i anfon ebost at y tîm.

*Ni all Stonewall Cymru warantu cywirdeb, cyfrinachedd, na rhoi achrediad sicrwydd safon ar gyfer unrhyw wasanaeth a restrir

*Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.