Prosiect LHD Merthyr

Stonewall Cymru yn lansio prosiect newydd i daclo troseddau casineb homoffobaidd ym Merthyr

Mae Stonewall Cymru a Fforwm Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol De Ddwyrain Cymru yn lansio prosiect newydd i daclo troseddau casineb homoffobaidd ym Merthyr.

Bydd Prosiect LHD Merthyr yn hwyluso cyfres o gyfarfodydd rhwng pobl leol lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) a Swyddogion Troseddau Casineb Heddlu De Cymru i edrych ar faterion troseddau casineb homoffobaidd yn yr ardal, yn ogystal â chlustnodi argymhellion a fydd o gymorth wrth daclo troseddau casineb homoffobaidd.

Mae rhaglen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cymunedau yn Gyntaf Merthyr Tudful yn ariannu'r prosiect tri mis a fydd yn cael ei gynnal rhwng Chwefror a diwedd Ebrill. Gobeithir y bydd y prosiect hwn yn cynorthwyo i sefydlu rhwydwaith LHD lleol yn ardal Merthyr.

Meddai Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru, "Dyma brosiect sydd ei angen yn ddirfawr ar Ferthyr gan fod pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn dweud eu bod yn teimlo'n ynysig ac yn anniogel yn yr ardal hon.  Rydym wedi cael cyfle unigryw i weithio ar lefel sylfaenol gyda phobl LHD a Heddweision Cymunedol i ddatblygu llwybrau cyfathrebu effeithiol ac adnabod ffyrdd o wneud Merthyr yn le diogelach ar gyfer pob cymuned. Rydym hefyd yn hapus o weithio mewn partneriaeth gyda phobl drawsrywiol lleol sydd yn cysylltu gyda ni."

Dydd Llun 21ain Ebrill, byddwn yn cynnal cyfarfod ar gyfer cynrychiolwyr darparwyr gwasanaethau lleol megis Cyngor Merthyr Tudful, Cymunedau yn Gyntaf, asiantaethau iechyd a chymunedol a Huw Lewis, Aelod Cynulliad Merthyr Tydfil a Rhymni, i glywed am y materion sy'n codi ar gyfer pobl leol lesbiaidd, hoyw a deurywiol ym Merthyr.

Am fwy o wybodaeth am ymuno gyda'r grwp google neu fynychu digwyddiad, cysylltwch â Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru, ar 0845 4569823 neu jenny.porter@stonewallcymru.org.uk neu ewch at grwp Facebook Gay-friendly-in-Merthyr.

Mae'r Prosiect LHD yn darparu mynediad uniongyrchol at Swyddogion Troseddau Casineb Heddlu De Cymru er mwyn wynebu materion troseddau casineb homoffobaidd yn yr ardal, yn ogystal â nodi argymhellion a fydd yn cynorthwyo i daclo troseddau casineb homoffobaidd. Rydym yn cynnal arolwg bychan ar deimladau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) am fywyd yn y Cymoedd.

Sut beth yw bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD) a byw yn y Cymoedd?
A ydych yn teimlo'n fwy diogel yng Nghaerdydd / Abertawe nag yn y Cymoedd?

Gadewch i ni wybod drwy gwblhau'r Holiadur byr hwn, a'i ebostio at jenny.porter@stonewallcymru.org.uk


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.