blog: http://sewlgbforum.blogspot.com/
Mae Fforwm De Ddwyrain Cymru yn gweithio er mwyn grymuso pobl LHD sy’n byw yn ne ddwyrain Cymru, drwy eu galluogi i leisio’u anghenion a’u pryderon ynglŷn â darpariaeth gwasanaeth yn eu hardal.
Bwriad y Fforwm yw sicrhau gwasanaethau addas ac atebol ar gyfer pobl LHD yn ne ddwyrain Cymru drwy annog rhwydweithio a chreu pwynt cyfathrebu rhwng y gymuned LHD, awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau prif ffrwd. Mae’r Fforwm yn cwmpasu 10 awdurdod lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tydfil, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.
Rydym angen pob llais, barn a phrofiad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r Fforwm, a byddwn yn falch iawn o groesawu pobl newydd.
Ebost: cymru@stonewallcymru.org.uk
Ffôn: 029 20237744
http://sewlgbforum.blogspot.com/
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen