Ar y Tudalen:
Mae grwpiau LHD yn cynnig cefnogaeth grŵp cymheiriaid, cyfeillgarwch a chymorth rhywun yn yr un sefyllfa ac sy'n wynebu materion tebyg, er mwyn ymdrin â'r teimladau o unigrwydd ac anawsterau cysylltiedig â 'dod allan' ac i ddelio gydag agweddau o gamwahaniaethu cymdeithasol. Mae egwyddorion a dyletswyddau hanfodol y grwpiau hyn yn debyg i sefydliadau grwpiau cymheiriaid eraill, megis Gingerbread, y sefydliad cefnogaeth ar gyfer teuluoedd un rhiant.
Cliciwch yma am wybodaeth ar Linellau Cymorth LHD.
http://users.aber.ac.uk/scty04/
Mae AberBalch yn darparu adloniant, ymgyrchoedd a chefnogaeth i holl fyfyrwyr LHDT Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn ogystal â'u cyfeillion.
Ebost: cym@aberbalch.org.uk neu soc@aberpride.org.uk
Post: AberBalch, d/o Undeb y Myfyrwyr, Campws Penglais, PCA, Aberystwyth SY23 3DX.
Rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol Cymru ar gyfer pobl ddeurywiol a’r rhai sy’n meddwl efallai eu bod yn ddeurywiol.
Ebost:bicymru@yahoo.co.uk
Testun: 07982 308812
Mae'r Clwb Awyr Agored Hoyw yn gweithredu ledled Cymru ac yn darparu ystod eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden yn yr awyr agored ac o dan do ar gyfer dynion a menywod LHDT. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys cerdded, beicio, nofio, badminton, ayyb.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: info@goc.org.uk
Ar gyfer Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru cysylltwch â Rycharde ar 01630 653842, eu patrwm cerdded yw ail Sul bob mis.
Mae Cymdeithas LHD Llambed yn cefnogi myfyrwyr LHD, yn amddiffyn eu hawliau ac yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol.
Ebost: lgb@lamp.ac.uk
Post: Cymdeithas Myfyrwyr LHD Llambed, d/o Undeb y Myfyrwyr, PCLl, Llambed, Ceredigion SA48 7CD
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Powys wedi cychwyn Gr?p Ieuenctid LHDTA wedi'i anelu at bobl 13 - 25 oed. Rydym yn darparu lle diogel i gymdeithasu a chyfarfod gyda pobl ifanc eraill LHDTA ym Mhowys. Am fwy o wybodaeth a manylion am y cyfarfodydd, cysylltwch gydag un o'n gweithwyr ieuenctid yng Ngwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid Powys ar 0300 111 0234 neu drwy anfon ebost at freedom@powys.gov.uk
Yn llinell ffôn 24 awr rhad ac am ddim sy’n wasanaeth cyfeirio a gwybodaeth i fenywod, plant a dynion yng Nghymru sy’n dioddef, neu wedi dioddef, camdriniaeth gan rywun agos atynt.
0808 80 10 800
www.dynproject.org.uk
Mae Prosiect Dyn yn gweithio ledled Cymru i gefnogi dynion sy’n dioddef trais yn y cartref.
Llinell Gymorth - 0808 801 0321 – yn cefnogi dioddefwyr gwrywaidd ledled Cymru drwy ddarparu clust i wrando heb feirniadu. Gall staff y llinell gymorth hefyd helpu i ddod o hyd i wasanaethau cefnogi lleol i’r sawl sy’n galw. Mae’r llinell gymorth yn gwbl gyfrinachol, a’r galwadau’n rhad ac am ddim.
www.welshwomensaid.org.uk
Cymorth i Fenywod Cymru yw’r prif fudiad sy’n cynrychioli Grwpiau Cymorth i Fenywod lleol ledled Cymru. Mae eu grwpiau yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i fenywod a phlant sydd wedi dioddef trais yn y cartref yn y gorffennol, neu ar hyn o bryd. Gallant gynnig cyngor/lloches i fenywod mewn perthynas heterorywiol neu lesbiaidd / deurywiol, os ydynt yn dianc neu’n dioddef trais yn y cartref.
www.dyfed-powys.police.uk
Mae gan Heddlu Dyfed Powys Swyddogion Cefnogaeth Troseddau Casineb wedi’u hyfforddi’n arbennig ledled y llu, i helpu dioddefwyr pob trosedd casineb. Maent yn gweithio gyda swyddogion heddlu i sicrhau fod y drosedd yn cael ei datrys yn gyflym, ac yn darparu cefnogaeth ychwanegol i’r dioddefwr, yn cynnwys clustnodi mesurau i leihau’r tebygrwydd o ddioddef trosedd arall. Mae hyfforddiant y Swyddogion Troseddau Casineb yn cynnwys siarad gydag aelodau o gymunedau lleiafrifol am eu profiadau o droseddau casineb.
Deialwch 101 os nad yw’n argyfwng megis:
os oes angen presenoldeb yr heddlu i gynorthwyo mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng
os oes angen gwneud cwyn am drosedd neu ddigwyddiad
ar gyfer ymholiadau cyffredinol
Am gyngor a chefnogaeth gyfrinachol, gofynnwch i gael siarad â Swyddog Troseddau Casineb.
Deialwch 999 os oes argyfwng megis
Anaf difrifol wedi’i achosi, neu fygythiad o anaf difrifol
Trosedd yn digwydd ar y pryd, a’r drwgweithredwyr yn bresennol neu gerllaw
Post: d/o Adran Cymunedau a Phartneriaethau, Heddlu Dyfed-Powys, Pencadlys yr Heddlu, Blwch Post 99, Caerfyrddin SA31 2PF
www.victimsupport.org.uk/Contact us/Wales
Yng Nghymru yn 2010 datblygodd Cymorth i Ddioddefwyr brosiect mewn partneriaeth gyda Stonewall Cymru i annog mwy o ddioddefwyr a thystion troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd, boed yn ‘hoyw neu strêt’, i ddefnyddio gwasanaeth cefnogi gwell Cymorth i Ddioddefwyr¹. Mae Prosiect Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri wedi sicrhau fod staff a gwirfoddolwyr Cymorth i Ddioddefwyr yn deall rhai o’r materion sy’n codi ac anghenion cefnogi pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy’n dioddef troseddau casineb. 'No Joke' leaflet am daflen Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n darparu cefnogaeth gyfrinachol, heb farnu, yn rhad ac am ddim i ddioddefwyr a’u teuluoedd, boed wedi gwneud cwyn wrth yr Heddlu am y drosedd neu beidio. Gallant ddarparu cefnogaeth emosiynol, cymorth ymarferol wrth newid cloeon ayyb, helpu tystion/dioddefwyr yn y llys, neu gynorthwyo wrth hawlio Iawndal Anafiadau Troseddol.
Lle bynnag yr ydych yng Nghymru, ffoniwch 0845 612 1900, mae ein swyddfeydd ar agor rhwng 8am a 8pm.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Diogelwch.
www.citizensadvice.org.uk
Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim gan swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.
Am eich Canolfan leol cliciwch yma
Am gyngor CAB Arlein cliciwch yma
www.SPLAGWales.org.uk
Llinellau cymorth cyfrinachol yn cael eu rhedeg ledled y DG yn wirfoddol gan rieni pobl LHD. Cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i rieni sydd yn yr un sefyllfa.
Llinell gymorth ar gyfer Cymru - 0845 652 0321 neu 0845 652 0322
E-bost: janet.jeffries@btinternet.com
www.overtherainbowwales.co.uk
Gwesty llysieuol yng ngorllewin Cymru. Trwyddedig ar gyfer Seremonïau Partneriaeth Sifil.
Ffôn: 01239 811155
Ebost: info@overtherainbowwales.co.uk
Post: Plas Tyllwyd, Tanygroes, Ceredigion, SA43 2JD
Os ydych yn aelod o grŵp a’ch bod am i ni gynnwys eich sefydliad cliciwch yma i anfon ebost at y tîm.
*Ni all Stonewall Cymru warantu cywirdeb, cyfrinachedd, na rhoi achrediad sicrwydd safon ar gyfer unrhyw wasanaeth a restrir.
*Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen