Proses Wleidyddol

Ceir gwybodaeth gynhwysfawr ar y fframwaith cyfreithiol, eich hawliau a materion o bryder sydd angen eu herio ym Mhrydain ar wefan Stonewall. Cliciwch yma.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn benodol ynglŷn â chyd-destun, grym cyfreithiol, gwasanaethau cynghori a datblygiad polisi Cymru.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth y Cynulliad

Mae deddfau Senedd Prydain yn San Steffan yn parhau i fod yn berthnasol yng Nghymru. Serch hynny, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru rymoedd a chyfrifoldebau datganoledig i ddatblygu a gweithredu polisi ar ystod eang o faterion megis addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, tai, llywodraeth leol, amaeth a datblygiad economaidd. Yn fwy diweddar, gellir rhoi hawl i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddeddfu mewn meysydd penodol drwy wneud cais i San Steffan am Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO).

Sefydlwyd y Cynulliad drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae Adran 120 ac adran 48 o’r Ddeddf yn ymrwymo’r Cynulliad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraeth Leol a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad i hyrwyddo cydraddoldeb i BAWB yng Nghymru wrth gyflawni dyletswyddau a gweithredoedd.

Mae hon yn ddyletswydd cydraddoldeb unigryw, ac i bob pwrpas yn golygu y dylai pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru fod yn hyderus y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu’n gyfartal yng Nghymru. Yn fwy na hynny, y bydd anghyfiawnderau hanesyddol yn cael eu hwynebu drwy bolisïau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb i BAWB.

Mae Stonewall Cymru yn cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru am anghenion pobl LHD yng Nghymru o ran iechyd ac addysg ayyb., fel bod polisïau yn ystyried yr angen i herio camwahaniaethu, bwlio neu aflonyddu, a chyflawni anghenion defnyddwyr gwasanaethau LHD.

Statws y pleidiau yng Nghynulliad Cymru

  Llafur 30
  Plaid Cymru 12
  Ceidwadwyr 11
  Democratiaid Rhyddfrydol 6
  Annibynnol 1

Cyfanswm: 60

Mae’r Cynulliad yn dirprwyo’i rymoedd gweithredol (gwneud a gweithredu penderfyniadau a chyfreithiau) i’r Prif Weinidog. Mae’r Prif Weinidog yn ei dro yn dirprwyo’r cyfrifoldeb dros gyflawni gweithredoedd i Weinidogion y Cynulliad, sy’n ffurfio’r Cabinet. Mae’r Cabinet yn gwneud llawer o benderfyniadau dyddiol y Cynulliad, a’i Weinidogion yn gyfrifol am feysydd unigol megis iechyd, cyfiawnder cymdeithasol ac adfywiad ac addysg.

Am fwy o wybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Gymraeg ewch at: www.cynulliadcymru.org/index 
Am fwy o wybodaeth am Lywodraeth Cynulliad Cymru yn Gymraeg ewch at: www.cymru.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Saesneg ewch at: www.assemblywales.org 
Am fwy o wybodaeth am Lywodraeth Cynulliad Cymru yn Saesneg ewch at: www.wales.gov.uk.

* Nid yw Stonewall yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys safleoedd allanol.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.