Ceir gwybodaeth gynhwysfawr ar wefan Stonewall am Bartneriaethau Sifil - y fframwaith gyfreithiol, eich hawliau, a materion sydd yn achosi pryder ac sydd angen eu herio ym Mhrydain. Cliciwch yma i ymweld â'r safle.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn benodol i'r cyd-destun Cymreig - y pwerau cyfreithiol, gwasanaethau cynghori a datblygiadau polisi.
Ar y dudalen hon:
Cliciwch yma i lawrlwytho 'Clymwch y Cwlwm! Canllaw i Bartneriaeth Sifil.'
Bydd Deddf Partneriaeth Sifil 2004 yn dod i rym ar 5 Rhagfyr 2005. Bydd hyn yn galluogi'r partneriaethau sifil cyntaf o dan y drefn safonol i gael eu ffurfio ar 21 Rhagfyr, 2005.
Mae Partneriaeth Sifil yn berthynas gyfreithiol cyfangwbl newydd, ar gyfer cyplau o'r un rhyw yn unig, sydd yn wahanol i briodas. Mae'n galluogi cyplau i dderbyn cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u perthynas, gan greu statws gyfreithiol newydd o "bartner sifil". Bydd gan gyplau lesbiaidd a hoyw sydd yn cofrestri fel partneriaid sifil gydnabyddiaeth gyfreithiol ffurfiol o'u perthynas, a bydd ganddynt hawliau a chyfrifoldebau tuag at ei gilydd ac at drydydd parti a'r wladwriaeth.
Er mwyn creu Partneriaeth Sifil, bydd angen i gyplau gofrestri eu bwriad, fel priodas sifil. Os yw'r berthynas yn chwalu bydd proses ddiddymu, tebyg i ysgariad.
Bydd partneriaid sifil yn cael eu trin fel partneriaid priod at bwrpas treth, cenedligrwydd a mewnfudiad, etifeddiaeth, cyfrifoldeb cynhaliaeth partner a chynhaliaeth plant, tenantiaeth, budd-daliadau cyflogaeth a phensiwn a diogelwch rhag drais yn y cartref.
Er mwyn creu Partneriaeth Sifil rhaid i bartneriaid sifil:
Bydd hawliau a chyfrifoldebau partneriaid sifil yn cynnwys:
Rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu adeilad ar gyfer Partneriaethau Sifil. Cliciwch yma am restr o Swyddfeydd Cofrestri Cymru
O'r 5ed o Ragfyr 2004 gellir defnyddio adeiladau cydnabyddedig ar gyfer priodasau sifil a phartneriaethau sifil. Mae gan bob Awdurdod Lleol restr o adeiladau cydnabyddedig: maent yn cynnwys adeiladau awdurdodau lleol, gwestai, cestyll ayyb
Ar hyn o bryd nid oes amddiffyniad dan ddeddfwriaeth sy'n cwmpasu nwyddau, adnoddau a gwasanaethau, felly gall lleoliadau preifat wrthod cynnal seremonïau Partneriaethau Sifil
Oes rhywun wedi gwrthod lleoliad i chi? -dywedwch wrthym
Ar hyn o bryd mae'r system budd-daliadau yn cydnabod perthynas heterorywiol yn unig, ac o ganlyniad mae cyplau lesbiaidd a hoyw yn wynebu nifer o faterion. Nid yw lesbiaid a hoywon sydd yn colli eu partneriaid yn gymwys i dderbyn budd-daliadau marwolaeth na phensiynau goroesi, ac nid yw partneriaid o'r un rhyw yn gymwys ar gyfer y cynyddion oedolyn dibynnol a delir mewn budd-daliadau Yswyriant Cenedlaethol megis Pensiwn Ymddeol a Budd-dal Anabledd.
Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â budd-daliadau prawf-modd yn cymryd yn ganiataol bod gan gyplau o'r rhyw gwahanol ddyletswydd i gynnal ei gilydd, ond nid ydynt yn cymryd yr un peth yn ganiataol am gyplau o'r un rhyw. Pan fo rhywun priod (neu sy'n byw gyda rhywun fel petai yn briod) yn gwneud cais am fudd-dal prawf-modd, bydd y prawf modd yn ystyried anghenion ac adnoddau y ddau bartner.
Mae partneriaid o'r un rhyw wedi cael eu hasesu ar wahân hyd yma. Nid yw incwm ac adnoddau eraill partner o'r un rhyw yn cael eu hystyried wrth gyfrif faint o fudd-dal sydd yn ddyledus i ymgeisydd.
Bydd y safbwynt hwn yn newid pan fydd partneriaethau sifil yn cael eu gweithredu. Bydd y newidiadau pwysicaf i bensiynau. Bydd gan weithwyr yr un hawl i bensiwn goroesi ar gyfer eu partneriaid sifil ag sydd ganddynt ar hyn o bryd ar gyfer eu priod.
Bydd partneriaid sifil yn cael eu trin yn yr un ffordd â chyplau priod wrth gyfrifo haeddiant ar gyfer budd-daliadau prawf modd. Mae'r llywodraeth yn bwriadu dyblygu y rheolau yngl?n â 'byw ynghyd fel g?r a gwraig' ar gyfer cyplau sydd yn byw gyda'i gilydd "fel partneriaid sifil". Bydd y rheolau newydd yn berthnasol o'r dyddiad y daw'r Ddeddf Partneriaeth Sifil i rym, heb unrhyw amddiffyniad dros dro.
Yr un rheolau ag ar gyfer priodas - gweler LG Immigration Group: www.uklgig.org.uk
Gellir cofrestri dramor os yn cwrdd â rheolau Atodlen 20 o'r Ddeddf
Am fwy o fanylion ynglŷn â'r Ddeddf ewch at www.womenandequalityunit.gov.uk
www.tuc.org.uk/welfare/tuc-9672-f0.pdf
Cliciwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
*Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen