Cwestiynau Cyffredin - Partneriaethau Sifil a’ch hawl i breifatrwydd

1. A fydd ein henwau a’n cyfeiriadau yn gyhoeddus pan fyddwn yn cofrestru?

  • Bydd y cyhoeddiad cyntaf gydag enwau’r partneriaid sifil yn ymddangos yn safleoedd y Cyngor o’r 5ed o Ragfyr ymlaen. Yn wahanol i gyplau heterorywiol, ni fydd y cyhoeddiadau hyn yn rhoi cyfeiriadau unigol, ond yn hytrach enw, oedran a swydd yn unig. Serch hynny, bydd y cyhoeddiad yn enwi’r swyddfa gofrestru a dyddiad cofrestru’r Bartneriaeth Sifil. Mae’n bosibl bod y ffaith nad oes cyfeiriad wedi’i nodi yn ei gwneud yn amlwg ei bod yn Bartneriaeth Sifil ac nid yn seremoni sifil heterorywiol. 
  • Pan fydd seremoni Partneriaeth Sifil wedi digwydd gall cyplau naill ai gael tystysgrif lawn, sy’n dangos holl fanylion y Bartneriaeth Sifil gan gynnwys cyfeiriad (au), neu ddetholiad nad yw’n dangos eich cyfeiriad (au). Gall hwn fod ar gael fel cofnod cyhoeddus.

2. A yw’n debygol y bydd y cyfryngau’n bresennol y tu allan i’r swyddfeydd cofrestru ar y diwrnod cyntaf?

  • Bydd Partneriaethau Sifil yn newyddion pwysig ac mae posibilrwydd y bydd rhywun yn gofyn i chi am gyfweliad neu lun ar y dydd. Os oes rhywun yn dod atoch, ac nad ydych am gyfranogi dylech ddweud yn glir wrth y newyddiadurwr nad ydych am i’ch manylion, na manylion y seremoni, i gael eu cyhoeddi. 3. Oes modd i newyddiadurwyr dynnu lluniau heb fy nghaniatâd?

3. Oes modd i newyddiadurwyr dynnu lluniau heb fy nghaniatâd?

  • Nid yw lluniau eich diwrnod mawr yn cyfrif fel diddordeb cyhoeddus, a byddai eu cyhoeddi heb eich caniatâd yn codi materion 'amharu ar breifatrwydd.' Os nad ydych am dynnu eich llun, dylech egluro hynny i’r newyddiadurwr. Os fyddwch yn gweld newyddiadurwr yn tynnu llun tyrfa, bydd angen i chi siarad gyda’r newyddiadurwr a dweud nad ydych am fod yn y llun. Os oes gennych unrhyw bryderon eraill, gallwch siarad gyda’r cofrestrydd.

4. Ar ôl y Cofrestru byddwn yn symud ymlaen i leoliad arall am ddathliad. A oes angen i ni boeni am y ffordd y byddwn yn cael ein trin?

  • Os ydych yn poeni o gwbl, mae’n syniad siarad gyda’r rheolwr yn y lleoliad am natur eich dathliad. Os fyddwch yn cael unrhyw anhawster, gallwch ddweud wrthym drwy ein hymgyrch 'Tyrd â’r Nwyddau'. Drwy adael i ni wybod am eich profiadau gallwch ein cynorthwyo i lobïo am well gwasanaethau i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru. Byddwn yn adrodd am eich profiadau, yn ddienw os mai dyna’ch dymuniad, wrth Aelodau Cynulliad Cymru, neu’n ysgrifennu llythyrau i gwyno neu longyfarch yr awdurdodau lleol a’r darparwyr gwasanaethau cyhoeddus/preifat yr ydych wedi sôn amdanynt. Byddwn yn casglu profiadau ac yn eu trafod ar y wefan fel y gall pawb weld pa faterion sy’n wynebu’n cymunedau. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.