Ceir gwybodaeth gynhwysfawr ar wefan Stonewall ar faterion Rhyngwladol a Mewnfudo - y fframwaith gyfreithiol, eich hawliau, a materion sydd yn achosi pryder ac sydd angen eu herio ym Mhrydain. Cliciwch yma (Yn Saesneg yn unig) i ymweld â'r safle.
'Pan gyrhaeddais, ni wyddwn a oeddwn yn cael bod yn hoyw yn y wlad hon. Roedd arnaf ormod o ofn siarad gyda phobl eraill. Yn y DG, mae'n ddigon drwg eich bod yn geisydd lloches, mae bod yn lesbiad yn ei wneud hyd yn oed yn waeth.'
Person o Kenya sy'n ceisio lloches yn y DG
Mae gan bawb gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywiol. Mae medru mynegi a mwynhau ein rhywioldeb a'n rhyw yn un o'n hawliau dynol sylfaenol, ond mewn nifer o wledydd yn y byd mae'r hawliau hyn yn cael eu gwrthod a phobl sydd yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn cael eu herlid, carcharu, poenydio, herwgipio a'u lladd. Dyna pam mae pobl LHDT yn ceisio lloches yn y DG.
Mae dros saith deg o wledydd yn y byd yn cyfri perthynas o'r un rhyw fel trosedd ac mae'r gosb eithaf yn weithredol yn o leiaf saith ohonynt. Mae deddfau sydd yn gwneud pobl LHDT yn droseddwyr a gweithredoedd sydd yn camwahaniaethu yn eu herbyn yn torri yr hawl i breifatrwydd, rhyddid oddi wrth gamwahaniaethu a rhyddid mynegiant a chyfeillach.
Mewn rhai gwledydd defnyddir honiadau o fod yn hoyw am gymhelliad gwleidyddol, er mwyn mygu beirniadaeth, rhoi terfyn ar drefniadaeth a thawelu gwrthwynebwyr gwleidyddol. Gall hyn arwain at yr unigolyn yn dianc o'r wlad yn sgîl ofn canlyniad honiadau o'r fath.
Mae'r rhai sydd yn amddiffyn hawliau rhywiol hefyd mewn perygl o gael eu gorthrymu a'u gwthio i'r cyrion.
Mae nifer o'r bobl sydd yn hawlio lloches ar sail ofn camdriniaeth o achos eu cyfeiriadedd rhywiol hefyd yn wynebu rhwystrau yn y gwledydd lle maent yn chwilio am ddiogelwch. Mewn rhai gwledydd lloches, gall hyn fod yn erlidigaeth o'r un math neu yn debyg i'r hyn y maent yn dianc oddi wrtho. Dros y blynyddoedd diweddar, yng Nghanada, yr UDA, Awstralia, Seland Newydd a gwledydd yng ngogledd Ewrop, caniatawyd statws ffoaduriaid i nifer cynyddol o lesbiaid a dynion hoyw ar ffo rhag erlidigaeth, ond mae'n parhau i fod yn anodd cael cydnabyddiaeth ar y sail hwn. De Affrica yw'r wladwriaeth gyntaf, a'r unig wladwriaeth, i gynnwys cyfeiriadedd rhywiol o fewn darpariaeth gwrth-gamwahaniaethu ei chyfansoddiad.*2
Cyn mis Mawrth 1999, gwrthodwyd lloches i lesbiaid a dynion hoyw yn y DG ar y sail nad oeddent yn ffurfio 'gr?p cymdeithasol'. Newidiodd penderfyniad yn Nh?'r Arglwyddi y dyfarniad hwn. Serch hynny, mae'n bosibl nad yw rhai pobl LHDT sydd yn dianc rhag erlidigaeth yn gwybod y medrant hawlio lloches ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol yn y DG, ac y gall peidio â gwneud hynny ar unwaith arwain at anawsterau neu fethiant eu ceisiadau.
Mae'n bosibl bod eraill wedi profi erlidigaeth mewn gwledydd y mae'r Swyddfa Gartref yn eu hystyried fel rhai 'diogel', a gall eu ceisiadau fethu o ganlyniad.
Gorfodwyd 'Matthew' o Jamaica, sydd bellach yn ffoadur yn y DG, i adael ei deulu, a chafodd ei ddiarddel o achos ei rywioldeb. Cafodd ei guro a'i aflonyddu yn barhaus gan gr?p o ddynion. Pan aeth at yr heddlu, gwrthodwyd ei helpu. Meddai:
'Gallaf gofio y teimlad o gerdded drwy Leicester Square gyda'm cariad, yn dal dwylo. Mae rhai pobl yma yn edrych ac yn syllu - ond yn Jamaica nid oes modd breuddwydio am wneud hynny. Nid oes modd rhoi coflaid frawdol i rywun, gan y bydd pobl yn taflu cerrig atoch. Mae Jamaica yn hardd iawn o'i gymharu ag yma, ond mae bod yn hoyw yno yn uffernol. Mae'n erchyll,yn hunllef. Rwy'n hapus iawn ac yn falch o fod yn fyw. Buaswn wedi marw erbyn hyn yn Jamaica.'
www.uklgig.org.uk
Prosiect cefnogi ceiswyr lloches Lesbiadd a Hoyw, sydd yn darparu cefnogaeth a chyngor ar gyfer ceiswyr lloches LHDT.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen