Llinellau Cymorth

Ni all Stonewall Cymru warantu cywirdeb, cyfrinachedd, na rhoi achrediad sicrwydd safon ar gyfer unrhyw linell gymorth a restrir.

Yn yr adran hon:

Llinellau Cymorth Cymreig ar gyfer Pobl LHD

Llinellau Cymorth DG ar gyfer Pobl LHD

Llinellau Cymorth Cymraeg ar gyfer pobl LHD

Cyffredinol

Llinell Gymorth LHDT Cymru

www.lgbtcymruhelpline.org.uk 
Mae Llinell Gymorth LHDT  Cymru  yn wasanaeth gofal proffesiynol rhad ac am ddim ar gyfer pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru sydd yn anelu i leddfu teimladau o unigrwydd cymdeithasol unigol a chryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau LHDT yn ein holl ardaloedd. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau LHDT, ac yn cefnogi teuluoedd a chyfeillion LHDT.
Llinell Gymorth - 0870 858828 ar agor Llun & Mer 7.00 - 9.00 pm (galwadau am 3.9c y funud) Ebost: lgbtcymruhelpine@fsmail.net

Mesmac Gogledd Cymru

www.mesmac.com
Mae Mesmac Gogledd Cymru yn darparu mynediad i ystafell sgwrsio ac amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol yn ardal Gogledd Cymru.

Llinell Gymorth - 01248 363431 ar agor Dydd Mawrth 7.00 - 9.00 pm.
E-bost keith@mesmac.com.
Post d/o Keith Parry, 2 Bryn Difyr, Bangor Gwynedd LL57 1HY

Arbenigol

Camdriniaeth yn y Cartref

Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref Cymru

www.wdah.org 
Rhif y llinell gymorth yw 0808 80 10 800
Mae Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref Cymru yn cwmpasu pob math o gamdriniaeth yn y cartref, gan gynnwys cam-drin dynion gan ddynion a menywod gan fenywod mewn cartrefi ledled Cymru. Mae’r Llinell Gymorth ar agor 24 awr y dydd ac yn cynnig cefnogaeth ddwyieithog, gyfrinachol yn rhad ac am ddim i fenywod, plant a dynion. Mae’n darparu gwasanaeth cefnogi a chyfeirio i’r rhai sy’n dioddef neu sydd wedi profi camdriniaeth yn y cartref, cyfeillion a theulu'r rhai sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref a gwybodaeth i asiantaethau eraill.

Llinell Gymorth Dyn Cymru / Dyn Wales

www.dynproject.co.uk 
Mae'r llinell gymorth yn helpu dynion, o bob cwr o Gymru, sy'n dioddef trais yn y cartref gan bartner, i gael cefnogaeth sylfaenol a chynlluniau diogelwch. Mae'r gwasanaeth hwn yn defnyddio sefydliadau cyfredol ledled Cymru ac yn cyfeirio dioddefwyr at ddarparwyr gwasanaeth lleol.
Oriau agor:
10am - 4pm Llun a Mawrth
10am - 1pm Mercher
Llinell gymorth - 0808 801 0321
Ebost: support@dynwales.co.uk  

Nodwch - os ydych chi neu unrhyw un o'ch teulu mewn perygl o achos trais yn y cartref neu unrhyw achos arall, ffoniwch yr heddlu bob tro ar 999

Cartrefi

Llinell Gymorth Cartrefi Triongl Cymru

www.trothwy.com 
Mae Triongl Cymru yn darparu cyngor a chefnogaeth cartrefi ar gyfer pobl LHDT ledled Cymru.
Llinell Gymorth: 0808 801 0306 ar agor 36 awr yr wythnos
Ebost: claire.purvis@gwalia.com neu sarah.l.jones@gwalia.com
Post: Triongl Cymru, 4 Dock Chambers, Stryd Bute, Caerdydd CF10

Defnyddwyr Iechyd Meddwl

MindOut Cymru

Website 
Rhwydwaith iechyd meddwl lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol sydd naill ai yn, neu wedi, dod i gysylltiad gyda gwasanaethau iechyd meddwl drwy fod yn ddefnyddwyr neu'n weithwyr, cyflogedig neu'n ddi-gyflog.  Mae'r grŵp yn cefnogi datblygiad ymrwymiad Mind i raglen ymwybyddiaeth hawliau iechyd meddwl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD).
Mae'r grŵp yn:

  • Codi proffil lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl; a materion iechyd meddwl o fewn y gymuned LHD
  • Cynnal cyfarfodydd rheolaidd yng Nghymru
  • Gweithio tuag at ddatblygiad pecyn hyfforddiant wedi ei anelu at grwpiau a sefydliadau eraill.

Cysylltiadau:
Ffôn: 02920 - 39 51 23
ebost: mindoutcymru@mind.org.uk

Post: Mind Cymru
3ydd Llawr
Quebec House
Castlebridge
Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AB

Rhieni pobl LHD

SPLAG Cymru - Cefnogaeth i Rieni i Lesbiaid a Hoywon

www.SPLAGWales.org.uk 
Llinellau cymorth cyfrinachol yn cael eu rhedeg yn wirfoddol ledled y DG gan rieni pobl LHD er mwyn cefnogi rhieni a'u plant
Llinell gymorth ar gyfer Cymru - 0845 652 0321 neu 0845 652 0322 ar agor gyda'r hwyr a phenwythnosau,
Ebost: janet.jeffries@btinternet.com 

Llinellau Cymorth Prydeinig ar gyfer Pobl LHD

Gwasanaeth Gwybodaeth Stonewall

Gwasanaeth ffôn rhad ac am ddim i ymateb i gwestiynau sydd gan bobl am faterion Hoyw, Lesbiaidd a Deurywiol. Gall y gwasanaeth gwybodaeth hefyd eich cyfeirio at gyngor cyfreithiol, a rhoi ffeithiau ac arweiniad ar bob mater sy'n effeithio ar fywyd Lesbiaidd a Hoyw - o bartneriaethau sifil a magu plant i dai ac iechyd, yn ogystal â phopeth yn y canol. Hefyd, gall y gwasanaeth gyfeirio galwadau at gannoedd o sefydliadau arbenigol a rhanbarthol eraill a all fod o gymorth.

Ni all Stonewall roi cyngor cyfreithiol na'ch cynorthwyo i ddilyn eich achos neu gwyn, ond ceisiwn eich cyfeirio at bobl a all wneud hynny.

Llinell Wybodaeth Stonewall: 08000 50 20 20. (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9.30am hyd at 5.30pm.
Ebost: info@stonewall.org.uk

Cyffredinol

London Lesbian and Gay Switchboard

www.llgs.org.uk     
Mae'r Switsfwrdd yma yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cefnogaeth a chyfeirio ledled y DG.
Llinell Gymorth - 020 7837 7324 ar agor 24 awr 7 diwrnod

Manchester Lesbian and Gay Switchboard

www.lgf.org.uk
Mae'r Switsfwrdd yma yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cefnogaeth a chyfeirio ar gyfer ardal Manceinion a'r Gogledd Orllewin.
Llinell Gymorth: 0161 235 8000 ar agor gyda'r hwyr 6pm-10pm

Arbenigol

Trais yn y Cartref - cyfunrywiol

Broken Rainbow

www.broken-rainbow.org.uk
Cefnogaeth ledled y DG ar gyfer y rhai sy'n goroesi trais cyfunrywiol yn y cartref
Llinell Gymorth - 020 8539 9507 ar agor 9am hyd at 1pm a 2pm hyd at 5pm Llun - Gwe.

Cartrefi

Ymddiriedolaeth Albert Kennedy

www.akt.org.uk
Yn darparu gwasanaeth cynghori, cyngor a chefnogaeth cartrefi ar gyfer pobl ifanc. Am fanylion pellach cysylltwch â enquiries@akt.org.uk

Rhieni

Rhieni Lesbiaidd a Hoyw

Pink Parents

www.pinkparents.org.uk 
Cefnogaeth cenedlaethol ar gyfer rhieni a theuluoedd LHDT
Llinell Gymorth - 08701 273 274 ar agor Llun - Gwe 9am - 12 canol dydd (ag eithrio gwyliau banc).

D'Arcy Lainey Foundation (DALAFO)

www.dalafo.org.uk
Mae The D'Arcy Lainey Foundation wedi ei leoli yn Oldham ac yn cefnogi rhieni LHDT a'u plant drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth ar ystod o faterion y mae teuluoedd LHDT yn eu hwynebu
Llinell Gymorth - 01706 84 99 79 ar agor yn ystod oriau swyddfa

Rhieni pobl LHD

FFLAG Cymru

www.fflag.org.uk 
Llinellau cymorth cyfrinachol yn cael eu rhedeg yn wirfoddol ledled y DG gan rieni pobl LHD er mwyn cefnogi rhieni a'u plant
Llinell Gymorth Ganolog 01454 852418

Cliciwch yma am adnoddau pellach ewch at safle Gymreig Addysg i Bawb - tudalen sefydliadau Ieuenctid LHD DG.

*Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.