Ffocws ar Iechyd

Diolch am gymryd rhan yng ngweithgareddau Mis Iechyd Stonewall Cymru! Yma yn Stonewall Cymru, byddwn wrthi drwy gydol mis Ebrill yn hybu ymwybyddiaeth a chyllid i’n gwaith hanfodol ynghylch anghenion gofal iechyd poblogaeth lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru.
Mae eich rhan chi’n allweddol. Ceir isod nifer o syniadau er mwyn ichi gychwyn arni, ond mae croeso ichi awgrymu’ch syniadau eich hun – edrychwn ymlaen at gael clywed amdanynt!
Sut allwch chi helpu…
- Cynhaliwch noson gwis i godi arian i Stonewall Cymru a phrofwch eich gwybodaeth am bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ar yr un pryd! I’ch rhoi ar ben ffordd, rydym wedi creu cwis a gallwch ei lwytho i lawr yma’n rhad ac am ddim!
- Cynhaliwch fore coffi er cymorth i Stonewall Cymru a gofynnwch i’ch ffrindiau / cydweithwyr / teulu roi £1 y coffi. Beth am ddefnyddio mwg ‘Mae Rhai Pobl yn Hoyw. Deliwch a’r Peth!’ – sydd ar gael o www.stonewallcymru.org.uk/nwyddau
- Byddwch yn Gyfaill i Stonewall Cymru – o ddim ond £5 y mis. Cofrestrwch yn http://www.stonewallcymru.org.uk/cyfrannu yn ystod mis Ebrill
Cofiwch droi at ein gwefan i edrych ar ein gwaith ymchwil www.stonewallcymru.org.uk/iechyd a hefyd dilynwch ni ar Facebook (stonewallcymru) a Twitter (@stonewallcymru).
Beth bynnag y dewiswch ei wneud, cofiwch sicrhau bod eich ffrindiau, teulu a chydweithwyr yn cymryd rhan!
Sylwadau am y dudalen