Presgripsiwn am Newid: Archwiliad iechyd menywod Lesbiaidd a Deurywiol 2008

Yn 2007, gwahoddodd Stonewall fenywod lesbiaidd a deurywiol i gwblhau arolwg am eu hanghenion iechyd ac am eu profiadau o’r sector iechyd. Mae’r ymateb wedi’n rhyfeddu. Cwblhawyd yr arolwg gan fwy na 6,000 o fenywod, felly hwn yw’r arolwg mwyaf o anghenion iechyd menywod lesbiaidd a deurywiol y tu allan i America. Dylai’r darlun a gyfleant beri gofid i unrhyw ymarferwr gofal iechyd:                

Presgripsiwn am Newid [Saesneg yn Unig] 

Mae ystadegau pellach i Gymru i’w gweld yma:

Cymru Gyfan
Cymraeg
 

Canfyddiadau allweddol

Ysmygu, alcohol a chyffuriau:

  • Mae dwy o bob tair menyw lesbiaidd a deurywiol wedi ysmygu o’u cymharu â hanner o fenywod yn gyffredinol.
  • Mae ychydig dros chwarter yn ysmygu ar hyn o bryd.
  • Mae naw o bob deg menyw lesbiaidd a deurywiol yn yfed ac mae 40 y cant yn yfed tair gwaith yr wythnos o’u cymharu â chwarter o fenywod yn gyffredinol.
  • Mae menywod lesbiaidd a deurywiol bum gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cymryd cyffuriau.
  • Mae mwy nag un o bob deg wedi cymryd cocên, o’u cymharu â thri y cant o fenywod yn gyffredinol.

Iechyd rhywiol:

  • Llai na hanner o fenywod lesbiaidd a deurywiol sydd wedi’u sgrinio erioed am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
  • Roedd haint a drosglwyddir yn rhywiol ar hanner y rheini sydd wedi’u sgrinio ac roedd chwarter o’r rheini â heintiau felly wedi cael rhyw gyda menywod yn unig yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Sgrinio ar gyfer canser:

  • Nid yw pymtheg y cant o fenywod lesbiaidd a deurywiol dros 25 oed wedi cael prawf ceg y groth erioed, o’u cymharu â saith y cant o fenywod yn gyffredinol.   
  • Dywedwyd wrth un o bob pump sydd heb gael prawf nad ydynt mewn perygl.                      
  • Gwrthodwyd prawf i un o bob hanner cant.                         
  • Mae un o bob deuddeg o fenywod lesbiaidd a deurywiol rhwng 50 a 79 oed wedi cael diagnosis o ganser y fron, o’u cymharu ag un o bob ugain o fenywod yn gyffredinol.

Iechyd meddwl:

  • Mae un o bob pum menyw lesbiaidd a deurywiol wedi niweidio eu hunain yn bwrpasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o’u cymharu â 0.4 y cant o’r boblogaeth gyffredinol.
  • Mae hanner o fenywod dan 20 oed wedi hunan-niweidio o’u cymharu ag un o bob pymtheg sydd yn eu harddegau’n gyffredinol.
  • Mae pump y cant wedi gwneud ymgais at hunanladdiad yn y flwyddyn ddiwethaf ac mae un deg chwech y cant o fenywod dan 20 oed wedi gwneud ymgais at hunanladdiad.   
  • Mae ChildLine yn amcangyfrif bod 0.12 y cant o bobl dan 18 wedi gwneud ymgais at hunanladdiad. 
  • Dywed un o bob pump fod anhwylder bwyta arnynt, o’u cymharu ag un o bob 20 o’r boblogaeth gyffredinol.         

Trais domestig:

  • Mae un o bob pedair menyw lesbiaidd a deurywiol wedi cael profiad o drais domestig, yr un fath â menywod yn gyffredinol. Mewn dau o bob tri achos, menyw arall a gyflawnodd y trais.
  • Nid yw pedair o bob pump wedi rhoi gwybod i’r heddlu am achosion o drais domestig ac, o’r rheini a wnaeth, dim ond hanner a oedd yn fodlon ar ymateb yr heddlu. 

Ffitrwydd cyffredinol ac ymarfer:

  • Dywed pedair o bob pum menyw lesbiaidd a deurywiol eu bod yn credu eu bod mewn iechyd da.                  
  • Mae’r BMI ar gyfer menywod lesbiaidd a deurywiol yr un fath ag ar gyfer menywod yn gyffredinol.
  • Mae hanner yn ymarfer tair gwaith yr wythnos.


Gwahaniaethu mewn gofal iechyd:

  • Mae hanner wedi cael profiadau negyddol yn y sector iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er ei bod bellach yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn menywod lesbiaidd a deurywiol.    
  • Nid yw hanner o fenywod lesbiaidd a deurywiol wedi sôn wrth eu meddyg teulu eu bod yn lesbiaidd neu’n ddeurywiol. Dywed un o bob deg fod gweithiwr gofal iechyd wedi’u hanwybyddu wrth iddynt sôn eu bod yn lesbiaidd neu’n ddeurywiol.
  • Dim ond tair o bob deg menyw lesbiaidd a deurywiol sy’n dweud na wnaeth gweithwyr gofal iechyd sylwadau amhriodol wrth iddynt sôn wrthynt eu bod yn lesbiaidd neu’n ddeurywiol.
  • Dim ond un o bob deg a oedd yn teimlo bod croeso i’w partner yn ystod ymgynghoriad.

Mae’r adroddiad yn gwneud deg argymhelliad allweddol i’r GIG:

1. Deall anghenion iechyd lesbiaid:     

Dim ond un o bob deg menyw lesbiaidd a deurywiol a ddywedodd fod eu gweithwyr gofal iechyd wedi rhoi gwybodaeth iddynt sy’n berthnasol i’w hanghenion gofal iechyd.         

2. Hyfforddi staff:

Dim ond tair o bob deg menyw lesbiaidd a deurywiol a ddywedodd na wnaeth gweithwyr gofal iechyd sylwadau amhriodol am eu cyfeiriadedd rhywiol.

3. Peidio â thybio:    

Dywedodd dwy o bob pum menyw lesbiaidd a deurywiol fod gweithwyr gofal iechyd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi tybio eu bod yn heterorywiol.                        

4. Polisïau penodol:

Dim ond un o bob un ar ddeg sy’n dweud bod eu meddygfa deulu wedi arddangos polisi anwahaniaethol.

5. Rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar lesbiaid                                                

Mae tri chwarter o fenywod lesbiaidd a deurywiol yn credu nad ydynt mewn perygl o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.       

6. Monitro’n well:

Dywedodd un o bob deg menyw lesbiaidd a deurywiol fod gweithiwr gofal iechyd wedi’u hanwybyddu ar ôl iddynt sôn eu bod yn lesbiaidd neu’n ddeurywiol, neu wedi dal i dybio eu bod yn heterorywiol.

7. Cynyddu gwelededd:

Mae hanner o fenywod lesbiaidd a deurywiol ifanc wedi hunan-niweidio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd gweled cynyddol i fenywod lesbiaidd a deurywiol yn helpu i wella hunan-barch a morâl.   

8. Gwneud polisïau cyfrinachedd yn glir:

Mae un o bob wyth menyw lesbiaidd a deurywiol yn ansicr ynghylch polisi eu meddyg teulu am gyfrinachedd. 

9. Gwneud gweithdrefnau cwyno’n glir:

Mae hanner o fenywod lesbiaidd a deurywiol wedi cael profiad negyddol yn y sector iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

10. Datblygu gwasanaethau wedi’u teilwra:

Dim ond dau y cant o fenywod lesbiaidd a deurywiol sydd wedi cael gwasanaeth wedi’i deilwra i’w hanghenion. 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth