Cyngor a Iechyd

Yn yr adran yma:

Cyngor

Canolfan Cynghori'r Cyhoedd CAB

www.citizensadvice.org.uk
Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Gellir derbyn y cyngor wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.  Cynigir ymweliadau cartref gan y mwyafrif o ganolfannau, ac mae rhai hefyd yn darparu cyngor ar ebost.  Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.

Am gyngor CAB Arlein  cliciwch yma www.adviceguide.org.uk
Am wybodaeth ymarferol, dibynadwy, cyfoes yn Gymraeg, Saesneg, Bengali, Gujarati, Punjabi, Urdu a Tsienëeg ar ystod eang o themau. Adolygir gwybodaeth yn barhaus gan eu tîm o gynghorwyr, ac mae'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cynnwys

Mae Cynnwys yn cefnogi lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a thrawsrywiol, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yng Ngwynedd a Mon. Bwriad Cynnwys yw cynorthwyo'r unigolion yma i gael gwell mynediad i gyngor a gwybodaeth yn y ddwy sir.

Lanswyd Adroddiad Terfynol Prosiect Cynnwys yng Nghaernarfon Dydd Gwener, 23 Mawrth 2007.  Prosiect Cynhwysiant Cymunedol yw Prosiect Cynnwys a sefydlwyd yn 2004 i gefnogi unigolion a grwpiau lleiafrifol, sef pobl anabl, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a thrawsrywiol
yng Ngwynedd a Môn i gael gwell mynediad at wasanaethau’r ddwy sir sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth i’r cyhoedd.
 
Mae’r ddogfen hon yn ffrwyth llafur tair blynedd o waith ymchwil gan Dim Cynnwys. Gobeithiwn y bydd canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn adnodd defnyddiol i fudiadau sy’n cynnig gwasanaethau cyngor a gwybodaeth yn y ddwy sir, ac yn dylanwadu ar bolisiau a strategaethau lleol.

Cliciwch yma i fynd at wefan Cynnwys ac Adroddiad Terfynol Cynnwys 07
Ffon : 0845 6019686
Ebost: cynnwys@cynnwys.com
Post : Ty Silyn, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6LY

Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol

www.communitylegaladvice.org.uk
Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn cynorthwyo pobl sydd yn gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol er mwyn amddiffyn eu hawliau a chynorthwyo pobl sydd angen cyngor am dor-perthynas neu broblemau gyda dyledion, cartrefi, trais yn y cartref a budd-daliadau. Mae cymorth hefyd ar gael am loches a mewnfudo, addysg, cyflogaeth, materion iechyd meddwl a gofal cymunedol.
Llinell Cymorth: 08453454345

Triongl Cymru

www.trothwy.com
Mae Triongl Cymru yn darparu cyngor a chefnogaeth Cartrefi ar gyfer pobl LHDT ledled Cymru.
Llinell gymorth: 0808 801 0306,
Ebost: triangle@gwalia.com Post: Triongl Cymru, 4 Dock Chambers, Stryd Bute, Caerdydd CF10

Iechyd

HIV AIDS

Llinell Aids Powys

www.tht.org.uk
Mae PALS yn elusen wedi'i lleoli yn Llandrindod, Powys. Mae'n wasanaeth cefnogi dan arweiniad defnyddwyr ac yn cael ei redeg gan wirfoddolion, ar gyfer pobl sy'n byw gyda HIV ym Mhowys, yn cynnig cyngor cyn ac ar ôl prawf HIV . Cysylltwch drwy ebost: info@powysaidsline.org.uk ffôn: 01597 82911 yn y prynhawn, drwy'r post: pals Blwch Post 24 Llandrindod, Powys.

Ymddiriedolaeth Terence Higgins

www.tht.org.uk
Ymddiriedolaeth Terence Higgins yw prif elusen HIV ac AIDS y DG a'r mwyaf yn Ewrop. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau ar gyfer pobl sy'n byw gyda HIV/AIDS, ac yn ymgyrchu ar gyfer gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o faterion iechyd rhywiol. Maent hefyd yn cynnig addysg ac adnoddau gwybodaeth.

Mae THT Cymru Caerdydd ar agor rhwng 9.30am-5.30pm Llun - Gwe yn Canton House 435-451 Cowbridge Road East, Treganna, Caerdydd CF5 1WE.
Ffôn 029 2066 6465.
Ebost info@thtcymru.org.uk

Mae THT Cymru Abertawe ar agor rhwng 10am-5pm Llun - Gwe yn 109 Heol Walter, Abertawe SA1 5QQ. Cysylltwch â Joseph Chambers yn swyddfeydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins.
Ffôn: 01792 477540
Ebost: thtcymru@ukf.net

Iechyd Meddwl

MindOut Cymru

Gwefan
Rhwydwaith iechyd meddwl lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol sydd naill ai yn, neu wedi, dod i gysylltiad gyda gwasanaethau iechyd meddwl drwy fod yn ddefnyddwyr neu'n weithwyr, cyflogedig neu'n ddi-gyflog.  Mae'r grŵp yn cefnogi datblygiad ymrwymiad Mind i raglen ymwybyddiaeth hawliau iechyd meddwl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD).

Mae'r grŵp yn:

  • Codi proffil lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl; a materion iechyd meddwl o fewn y gymuned LHD
  • Cynnal cyfarfodydd rheolaidd yng Nghymru
  • Gweithio tuag at ddatblygiad pecyn hyfforddiant wedi ei anelu at grwpiau a sefydliadau eraill

Cysylltiadau:
Ffôn: 02920 - 39 51 23
ebost: mindoutcymru@mind.org.uk
Post: Mind Cymru
3ydd Llawr
Quebec House
Castlebridge
Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AB


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.