Ar y dudalen hon:
Os ydych wedi dioddef camwahaniaethu, aflonyddu, bwlio, cael gwrthod eich hawliau neu wasanaethau ym maes tai, addysg, iechyd, cyflogaeth neu os ydych am lobïo dros hawliau LHD, gall cyfarfod neu lythyr amserol at eich AC/AS arwain at ganlyniadau sylweddol.
Cliciwch yma i ddod o hyd i'ch AC.
Gallwch ddarganfod pwy yw eich AS drwy ymweld â gwefan y westminster a nodi eich côd post.
Er ei fod yn well mynd i weld eich AC/AS, efallai eich bod yn dymuno ysgrifennu atynt yn lle hynny.
Os ydych yn ymwneud â grwpiau neu brosiectau cymunedol lleol, dylech hefyd ystyried gwahodd eich AC/AS i ymweld â'ch grŵp neu weithgaredd wrth eu gwaith.
Gallwch ddefnyddio unrhyw ymweliad fel cyfle i drafod y materion sy'n eich wynebu. Byddwch yn uniongyrchol ac yn fanwl yn eich trafodaeth. Os fydd yr ymgeiswyr yn dweud rhywbeth sy'n eich tramgwyddo, neu os ydynt yn gwrthwynebu cefnogi cydraddoldeb lesbiaidd a hoyw, gwnewch nodyn o'r hyn sy'n cael ei ddweud. Peidiwch â cholli eich tymer - mae hynny'n ei gwneud yn haws i ymgeiswyr ddiystyru eich barn. Yn hytrach, ymatebwch yn dawel gyda dadleuon rhesymegol i gefnogi eich safbwynt.
Sut bynnag fydd eich ymweliad gyda'ch AC/AS yn mynd, mae'n syniad da i ddilyn eich ymweliad gyda llythyr yn diolch iddynt am eu hamser. Yn y llythyr, rhowch grynodeb o bwyntiau allweddol eich trafodaethau.
Er mwyn ein cynorthwyo gyda'n gwaith lobïo ac ymgyrchu yn y dyfodol, anfonwch gopi o'r llythyr hwnnw at Stonewall Cymru, yn ogystal ag unrhyw ymateb y byddwch yn ei dderbyn. Lle bo'n bwrpasol, byddwn yn gosod rhywfaint o'r wybodaeth ar ein gwefan.
Am fanylion cyswllt ar gyfer Stonewall Cymru cliciwch yma
* Nid yw Stonewall yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys safleoedd allanol.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen