Yn yr adran hon:
Bydd eich cyfarfod cyntaf yn gosod sail ar gyfer datblygu a chynnal y grŵp, felly bydd angen i chi gymryd amser i ddod i adnabod eich gilydd a thrafod amcanion a gweithgareddau'r grŵp. Penderfynwch pwy fydd yr aelodau a beth yr ydych am ei weld yn bwrpas i'r grŵp. Bydd yn ddefnyddiol nodi pa sgiliau a phrofiad sydd gan bobl i'w gyfrannu i'r grŵp.
Mae cysylltiadau cyfathrebu cadarn yn bwysig ar gyfer llwyddiant eich grŵp. Os oes cyfeiriad e-bost gan bob un ohonoch, gellid sefydlu e-grŵp drwy amrywiol weinyddion rhyngrwyd, megis Yahoo neu Google.
Os ydych am gyfyngu eich aelodaeth i bobl LHD yn unig, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a all fod â chyfyngiadau ar gynnwys cyfeiriadedd rhywiol arbennig fel amod aelodaeth ar gyfer clybiau a sefydliadau aelodau preifat. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae'r sefydliadau canlynol yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar sefydlu grŵp.
www.volresource.org.uk
Bwriad VolResource yw cynnig gwybodaeth ddefnyddiol, yn gyflym ac yn syml, ar unrhyw fater yn ymwneud â rhedeg sefydliad gwirfoddol (boed yn grŵp cymunedol, elusen neu gorff arall heb elw).
www.communitymatters.org.uk
Community Matters yw Ffederasiwn Genedlaethol Sefydliadau Cymunedol, gyda dros 1100 aelod-sefydliad ledled y DG.
Mae ganddynt adnoddau gwych ar ffurf Taflenni Gwybodaeth ar ystod eang o bynciau defnyddiol, megis:
a sawl agwedd arall o fod yn grŵp cymunedol. Cysylltwch neu ymunwch:
12-20 Baron Street, Llundain N1 9LL
Ffôn: 020 7837 7887 Ffacs: 020 7278 9253
Ebost: communitymatters@communitymatters.org.uk
www.groundswell.org.uk
Mae Groundswell wedi cynhyrchu llawlyfr o'r enw 'Toolkit for Change', gyda gwybodaeth ymarferol ar sefydlu a rhedeg prosiect, y gellir ei lwytho i lawr o'u gwefan. Mae Groundswell yn elusen genedlaethol sy'n cefnogi rhwydweithiau o bobl a phrosiectau sydd wedi ymrwymo at agweddau cynhwysol o daclo digartrefedd, tlodi ac eithriad.
Groundswell
Elmfield House 5 Stockwell Mews Llundain SW9 9GX
Ffôn: 020 7737 5500 Ffacs: 020 7733 1305
E-bost: info@groundswell.org.uk
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am gryfhau eich grŵp er mwyn eich galluogi i ymgeisio am gyllid. Mae'r camau nesaf yn hanfodol er mwyn datblygu a chynnal eich grŵp.
Cyfansoddiad yw dogfen sy'n disgrifio'r rheolau sy'n rheoli dulliau gweithredu eich grŵp. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer y ffordd y bydd eich grŵp yn gweithredu. Mae'r cyfansoddiad yn egluro beth yw eich grŵp, ar gyfer beth y mae'n bodoli, pwy all ymaelodi a beth yw hawliau a chyfrifoldebau yr aelodau. Mae'n gosod y rheolau ariannol megis pwy sy'n rheoli'r arian a rheolau dros adroddiadau ariannol a chadw cyfrifon cywir.
Mae cyfansoddiad yn ddefnyddiol gan ei fod yn sicrhau bod pawb yn gwybod sut y mae penderfyniadau yn cael eu cymryd a phwy sy'n gorfod wynebu'r canlyniadau. Mae hefyd yn dangos i eraill y tu allan i'ch grŵp, megis arianwyr neu aelodau posibl, beth yw pwrpas eich grŵp a sut y mae ei gyllid yn cael ei reoli. Efallai y byddwch hefyd am gynnwys cymalau sy'n delio gyda'r broses ddisgyblu a chwynion ar gyfer aelodau, cod ymddygiad, ffurfio a diddymu'r grŵp a chyflogi staff a sicrhau eiddo os yn berthnasol.
Os yw eich incwm yn llai na £1000 mae'n bosibl nad oes angen i chi gofrestri fel elusen ac y gallwch ddefnyddio cyfansoddiad ar gyfer sefydliad bychan cymunedol anelusennol.
Clicwch yma am enghraifft o gyfansoddiad.
Am statws elusennol a chofrestri ewch at y Comisiwn Elusennau dros Gymru a Lloegr. Mae'r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol o'r enw 'Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol' (Cyf:CC22), sydd wedi ei anelu at helpu elusennau i baratoi cyfansoddiad, ond a all fod yn ddefnyddiol i grwpiau bychain eraill mewn sefyllfa debyg.
Bydd cofrestri fel elusen yn eich cynorthwyo i gyrraedd at adnoddau cefnogol megis:
www.itforcharities.co.uk
Canllaw adnoddau TG ar gyfer elusennau a sefydliadau di-elw yn y DG, gan gynnwys cysylltiadau gyda sefydliadau sy'n cynnig prisiau arbennig i elusennau ar offer cyfrifiadurol wedi'i ailgylchu.
Gall elusennau neu grwpiau cymunedol bychain gael bancio 'am ddim' ond gall hyn olygu colli llog a chostau uwch fesul trafodiad. Mae'n werth asesu pa fath o drafodion yr ydych yn eu prosesu fwyaf (e.e. nifer o dderbyniadau bach ar ffurf siec yn hytrach nag un credyd uniongyrchol mawr megis grant) gan y gall hyn effeithio'n fawr ar ba fanc yw'r gorau i chi. Mae gan VolResource restr o fanciau ar gyfer sefydliadau elusennol sy'n darparu cyfrifon cyfredol, derbyn adneuon a gwasanaethau buddsoddi.
Mae sefydliadau gwirfoddol yn amrywio o sefydliadau cymunedol bychain i rai mwy, a mwy adnabyddus. Gall bod yn rhan o'r sector wirfoddol fod o fantais i grwpiau.
www.lgbconsortium.org.uk
Mae'r Consortiwm yn gweithredu yn Lloegr yn bennaf. Mae ganddo'r blaenoriaethau canlynol:
Consortiwm o Sefydliadau Gwirfoddol a Chymunedol Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol
Uned J414, Tower Bridge Business Complex, 100 Clements Road
Southwark, Llundain SE16 4DG
Ffôn:020 7064 8383, E-bost: admin@lgbtconsortium.org.uk
www.wcva.org.uk
Y WCVA yw llais y sector wirfoddol yng Nghymru. Maent yn cynrychioli ac yn ymgyrchu dros sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolion a chymunedau gan gynrychioli barn ei aelodau a'r sector wirfoddol ehangach yn y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiwn Elusennau, yr Undeb Ewropeaidd a chyrff eraill. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth a chyngor i sefydliadau gwirfoddol drwy ei desg gymorth, cyhoeddiadau, cylchgrawn Network News, digwyddiadau a rhwydweithiau gwybodaeth.
www.wcva.org.uk
Mae Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol neu Gynghorau Gwirfoddol ym mhob un o'r awdurdodau lleol ac maent yn annog cyfranogaeth grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol mewn gweithgaredd gwirfoddol ac yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth i'r grwpiau gwirfoddol sy'n aelodau.
www.cymruarywe.org
Mae Cymru ar y We yn darparu canllaw helaeth a chysylltiadau at y sector wirfoddol yng Nghymru a'r prif sefydliadau cysylltiedig.
* Nid yw Stonewall yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys safleoedd allanol.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen