Cyllid

Yn yr adran hon:

Cynllunio ac ysgrifennu cais

Er mwyn cael cyllid bydd rhaid i chi:

  • Llunio cynnigion prosiect
  • Prisio eich prosiect
  • Clustnodi ffynonellau cyllid

Mae'n hanfodol bod cynnigion eich prosiect yn nodi'r newidiadau y bydd eich gwaith yn ei wneud. Gelwir y newidiadau hyn yn 'ganlyniadau'. Mae clustnodi'r canlyniadau hyn yn allweddol wrth wneud cais am gyllid. Pan fyddwch yn glir am eich canlyniadau, bydd y gwasanaethau a'r gweithgareddau sydd eu hangen arnoch i gyflawni'r newidiadau yn syrthio i'w lle.

Cliciwch yma (yn saesneg yn unig) am ganllawiau 'canlyniadau' Cronfa Loteri Fawr.

Dod o hyd i ffynonellau ariannu

WCVA

www.wcva.org.uk 
Mae CGGC yn rheoli nifer o gynlluniau grant sy'n cefnogi mudiadau gwirfoddol lleol ledled Cymru.
Cyllid Cynaliadwy Cymru: www.sustainablefundingcymru.org.uk 

Institute of Fundraising

www.institute-of-fundraising.org.uk
Mae'r Institute of Fundraising yn cynnal hyfforddiant rheolaidd ar swyddogaeth person sy'n codi arian, technegau codi arian, gwneud ceisiadau i Ymddiriedolaethau a Sefydliadau a llunio ceisiadau llwyddiannus. Mae Rhwydwaith Codi Arian Cymru yn cynnwys dros 650 o bobl sy'n codi arian o bob cwr o Gymru. Mae e-nodyn dwywaith y mis yn rhoi newyddion, dyddiadau digwyddiadau, awgrymiadau a ffynonellau cyllid, sy'n berthnasol i Gymru.

Am fwy o fanylion cysylltwch â:
Dot Griew, Cydlynydd y Sefydliad yng Nghymru
Institute of Fundraising Cymru, 14-16 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 1DG
Ffôn: 0292052 0250
Ebost: cymru@institute-of-fundraising.org.uk 

Funder Finder

www.funderfinder.org.uk 
Mae FunderFinder yn datblygu ac yn dosbarthu meddalwedd er mwyn cynorthwyo unigolion a sefydliadau di-elw yn y DG i glustnodi ymddiriedolaethau elusennol a all roi arian iddynt. Gallwch lwytho dau becyn o feddalwedd rhad ac am ddim o'u gwefan, ar sut i lunio cais am gyllid a sut i lunio cyllideb.

Directory of Social Change

Os ydych yn chwilio am ymddiriedolaeth sy'n rhoi grantiau, gallwch geisio'r amrywiol gyfeirlyfrau a gyhoeddir gan Directory of Social Change. Fel arfer mae copïau ar gael mewn llyfrgelloedd lleol.

Directory of Social Change
24 Stephenson Way
Llundain
NW1 2DP
Ffôn: 020 7391 4800
E-bost:  books@dsc.org.uk
Gwefan: www.dsc.org.uk 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.