Mae’r wybodaeth ganlynol yn benodol ar gyfer cyd-destun, grym cyfreithiol, gwasanaethau cynghori a datblygiad polisi Cymru.
Mae’r CCHD yng Nghymru yn gweithio yng nghyd-destun cydraddoldeb yng Nghymru, ac yn medru gosod ei flaenoriaethau ei hun i raddau. Mae’n canolbwyntio ar waith 'traws ffrwd'; sef ystyried y person cyfan a’r anfanteision yn y gymdeithas a’r economi o ran cyfuniadau o gyfeiriadedd rhywiol, rhyw, oed ac ethnigrwydd ayyb.
Mae Stonewall Cymru yn gweithio’n agos gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Stonewall ledled Prydain, a’r comisiynau cydraddoldeb cyfredol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth am faterion anghydraddoldeb LHD ym myd cyflogaeth, addysg, darparu gwasanaethau lleol ayyb. Hefyd gweithiwyd gyda’r partneriaid hyn i sicrhau bod y corff newydd, wrth gychwyn, yn deall anghenion cydraddoldeb poblogaethau amrywiol yng Nghymru, a’i fod yn medru parhau gyda’r trefniadau gwaith consensws a ddatblygwyd dros gyfnod o amser rhwng ac ymysg y ffrydiau cydraddoldeb yng Nghymru.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y CCHD.
Mae Stonewall Cymru yn falch iawn bod Neil Wooding, cyn gyd-Gadeirydd Stonewall Cymru, wedi ei benodi fel Comisiynydd CCHD Cymru.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen