
Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) mewn Chwaraeon:
Deall Cyfranogiad LHD mewn Chwaraeon yng Nghymru
Darllenwch yr adroddiad - Yr hyn y gallwch ei wneud
Mae Stonewall Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru er mwyn cynnal ymchwil arloesol i gyfranogiad pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn chwaraeon.
Mae’r ymchwil hwn yn rhoi cipolwg ar y ffyrdd mae pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol yn cymryd rhan mewn chwaraeon, neu yn wir pam y byddent yn dewis peidio gwneud hynny o bosibl.
Canfyddiadau Allweddol:
Mae 94% o bobl LHD wedi cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf
Mae 75% o ymatebwyr arolwg LHD wedi clywed cellwair homoffobaidd mewn chwaraeon
Dywedodd 49% o unigolion LHD eu bod wedi profi cam-drin geiriol oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol – mae 12% wedi profi cam-drin corfforol
Mae 33% o bobl LHD wedi profi eithrio o chwaraeon oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol
Byddai 72% o bobl LHD yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn clwb pe bai’n cael ei farchnata fel clwb LHD-gyfeillgar.
Byddai 51% o bobl LHD yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn clwb pe bai yn bennaf ar gyfer unigolion LHD
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn
Yr hyn y gallwch ei wneud
Annog cyrff llywodraethu cenedlaethol, eich clwb lleol, neu eich ysgol i fynd i’r afael â homoffobia mewn chwaraeon drwy lwytho un o’n cardiau post i lawr:

Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol – Clybiau – Ysgolion
Cofiwch sôn wrth bobl!
• Rhannwch nhw ar Facebook.
• Anfonwch nhw at eich ffrindiau, eich teulu a’ch Aelod Cynulliad lleol
• Trydarwch ni drwy @stonewallcymru neu drwy ddefnyddio #HeiniaHoyw
• Dilynwch ein hymgyrch ar Twitter neu Facebook.
Mae gwybodaeth bellach am weithgareddau a chlybiau chwaraeon yn eich ardal chi i’w gweld ar wefan Chwaraeon Cymru.