Ty'd Â'r Nwyddau: Lliw Eich Arian

Mae Stonewall Cymru yn lansio canllaw dwyieithog i'r amddiffyniad newydd i bobl lesbiaid, hoyw  a deurywiol (LHD) ym maes nwyddau a gwasanaethau. Wedi'i noddi gan Lloyds TSB, mae canllaw 'Lliw Eich Arian' yn esbonio'r cyfan sydd angen i bobl lesbiaid a hoyw ledled Cymru ei wybod am y rheoliadau newydd.

Lliw Eich Arian (Cymraeg)

The Colour of Your Money (Saesneg)

Ar y tudlen:

Ty'd Â'r Nwyddau: Gwybodaeth Cefndirol

Mae Stonewall Cymru yn falch iawn bod y llywodraeth wedi penderfynu peidio ag eithrio asiantaethau mabwysiadu crefyddol o'n amddiffyniad nwyddau a gwasanaethau.

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod y rheoliadau hyn yn cael effaith lle mae eu hangen fwyaf er mwyn rhoi stop ar gamwahaniaethu homoffobaidd. Rydym yn parhau i wthio am amddiffyniad nwyddau a gwasanaethau, heb eithriadau llethol sy'n caniatáu i grwpiau crefyddol i gamwahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd a hoyw.

Asiantaethau Mabwysiadu Crefyddol

Roedd arweinydd yr Eglwys Babyddol yng Nghymru a Lloegr, Cardinal Cormac Murphy-O'Connor, wedi bygwth yn gyhoeddus y byddai asiantaethau mabwysiadu Pabyddol yn cau oni fyddai'r Llywodraeth yn cytuno i'w heithrio rhag y rheoliadau nwyddau a gwasanaethau. Byddai hyn wedi eu caniatáu i wrthod cyplau lesbiaidd a hoyw.

Dadl Stonewall oedd, wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol gydag arian cyhoeddus, bod yn rhaid i les y plentyn fod uwchlaw dysgeidiaeth grefyddol.

Ar Ionawr 29 2007, cyhoeddodd y Prif Weinidog na fyddai eithriadau ar gyfer asiantaethau mabwysiadu crefyddol. Yn hytrach, byddant yn cael hyd at Nadolig 2008 i addasu eu gwasanaethau. Hyderwn, yn sgil y cyfnod hwn o drawsnewid, na fydd angen i unrhyw asiantaeth gau.

Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Dros Dro Stonewall: 'Rydym yn falch iawn bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio caniatáu eithriad. Byddai'r eithriadau yr oedd esgobion Catholig yn eu hawlio wedi rhwystro rhai o bobl ifanc mwyaf bregus Prydain rhag cael cartref cariadus, yn ogystal â chreu stigma o amgylch rhieni lesbiaidd a hoyw, a'r nifer o blant sy'n cael eu magu ganddynt mewn teuluoedd sefydlog, cariadus. Dyma fuddugoliaeth i oddefgarwch dros ragfarn.'

Rheoliadau Gogledd Iwerddon

Ar 9 Ionawr 2007, mewn buddugoliaeth hanesyddol dros gydraddoldeb hoyw, pleidleisiodd Tŷ'r Arglwyddi o 199 pleidlais i 68 i gadw rheoliadau cyfeiriadedd rhywiol yng Ngogledd Iwerddon, lle cawsant eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2007. Roedd hyn yn dilyn ymgyrch amhleserus yn erbyn y mesurau amddiffyn.

Edrychwn ymlaen nawr i weld y llywodraeth yn cyflwyno amddiffyniad cryf, cyfatebol i weddill Prydain.

Cefndir

Lobïodd Stonewall yn galed iawn dros yr amddiffyniad pwysig hwn, ac roedd nifer o unigolion a sefydliadau yn rhan o sicrhau y cam aruthrol hwn ymlaen.

Plygodd y llywodraeth i bwysau yn Nhŷ'r Arglwyddi a derbyniwyd gwelliannau Stonewall i'r Mesur Cydraddoldeb. Yn sgil hynny, bydd yn dod yn anghyfreithlon camwahaniaethu yn erbyn lesbiaid a dynion hoyw wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau - o ofal gan y GIC i westai a bwytai.

Cyhoeddodd y llywodraeth bapur ymgynghorol cyhoeddus 'Getting Equal' ym Mawrth 2006 yn gosod y modd y mae'n bwriadu i'r rheoliadau weithio. Daeth y cyfnod ymgynghorol i ben ar 5 Mehefin 2006.

Gellir llwytho ymateb Stonewall Cymru i'r ymgynghoriad Deddf Cydraddoldeb i lawr drwy glicio ar y cysylltiad isod.
Getting Equal (pdf)

Bydd y newid hwn yn y gyfraith yn cwmpasu bywydau bob dydd pobl lesbiaidd a hoyw ledled Prydain mewn ystod enfawr o feysydd. Mae rhai mudiadau crefyddol yn mynnu y dylid cerfio eithriadau llethol i mewn i'r diogelwch newydd. Rydym yn annog y llywodraeth i sicrhau rheoliadau cryf er mwyn sicrhau eu bod yn cwmpasu'r mathau o gamwahaniaethu yr ydym wedi clywed amdanynt yn Stonewall Cymru - y rheswm y gwnaethom lobïo dros y deddfau newydd hyn yn y lle cyntaf.

Dylai pobl lesbiaidd a hoyw, fel cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau, fedru disgwyl triniaeth deg fel pawb arall.

Cyhoeddodd y llywodraeth y bydd y rheoliadau yn cael eu cyflwyno yn Ebrill 2007.

Beth fedra i ei wneud?

Nid yw'n rhy hwyr i ysgrifennu at eich AC/AS yn eu hannog i wthio am amddiffyniad cadarn, yn rhydd rhag unrhyw eithriadau llethol ar gyfer grwpiau crefyddol a fyddai'n gwanhau a thanseilio'r cyfreithiau newydd hanfodol hyn. Am fwy o wybodaeth ar gysylltu gyda'ch AS cliciwch yma.

Am wybodaeth ar gysylltu gyda'ch AC/AS cliciwch yma.

A ydych yn fusnes neu'n ddarparwr gwasanaeth yn chwilio am fwy o wybodaeth ar yr hyn y mae'r rheoliadau nwyddau a gwasanaethau yn ei olygu i'ch sefydliad? Os felly, cliciwch yma.

Gweiddi ALLAN! Beth ydy eich stori chi? 

Trwy 'Roi'r Nwyddau' i ni ar eich profiadau, gallwch ein helpu i lobïo dros gael gwell gwasanaethau i bobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol yng Nghymru.  Byddwn yn 'adrodd yn ôl' yn anhysbys ar eich profiadau i Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn 'sgrifennu llythyron o gwyn neu longyfarchiadau i'r awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus/preifat 'rydych chi wedi dweud wrthym amdanynt.  Byddwn yn 'crynhoi' eich profiadau ac yn eu trafod ar y safwe fel y gall pawb weld beth yw'r materion hynny sy'n wynebu ein cymunedau.

Gallwch ddweud wrthym ynglyn â'ch profiadau trwy gwblhau ein ffurflen 'Ty'd â'r Nwyddau'.

Mae'r cyfryngau yng Nghymru hefyd wedi gwneud cais i Stonewall Cymru gyfweld â phobl ynglyn â neu ar achlysur eu Parteriaeth Sifil.  Gall hyn fod ar ffurf cyfweliadau dros y ffôn, cyfweliadau gyda newyddiadurwyr wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, a wedi eu recordio ymlaen llaw neu yn fyw ar gyfer y radio neu'r teledu.  Gallwch gymryd rhan yn anhysbys os y dymunwch wneud hynny, a bydd Stonewall Cymru yn siarad â newyddiadurwyr ymlaen llaw i asesu pa agwedd y byddant yn ei chymryd, ac yna'n eich darparu â gwybodaeth cyn i chi gytuno i gymryd rhan.  Nid ydym fyth yn rhoi rhifau ffôn yn uniongyrchol i newyddiadurwyr ond yn hytrach rhoi manylion cysylltu i chi - fel mai chi sy'n rheoli'r broses.

Ydych chi'n fodlon cael eich cyfweld?

Cysylltwch â ni i drafod o am llwythwch Ffurflen Astudiaeth Achos i lawr a’i lenwi.
E-bost: cymru@stonewallcymru.org.uk
Ffôn: 029 2023 7744
Cyfeiriad: Stonewall Cymru, 3ydd llawr, Transport House, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9SB.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.