Gan nad yw cwestiynau’r Cyfrifiad Cenedlaethol yn cwmpasu cyfeiriadedd rhywiol, nid oes tystiolaeth bod mwy o bobl LHD yn byw yn rhannau dinesig Cymru na’r ardaloedd gwledig. Gwyddom drwy glywed hanesion bod cyfeiriadedd rhywiol yn effeithio ar ddewisiadau bywyd ac y bydd nifer o bobl ifanc LHD yn mudo i fyw yn y dinasoedd – yng Nghymru neu Loegr – ac yn cyfarfod pobl eraill LHD.
Bellach mae gan Gaerdydd ac Abertawe nifer o leoliadau masnachol hoyw, Mardi Gras blynyddol a rhai grwpiau cefnogaeth neu gymdeithasol. Ond ychydig o ddinasoedd mawr sydd yng Nghymru, a mwy o drefi a phentrefi sy’n llai ac yn ddaearyddol anghysbell. Mae ardaloedd gwledig yn aml yn gweithredu ar system o gefnogaeth cymunedol a theuluol, a gall safon bywyd ar gyfer person LHD ddibynnu ar natur eu perthynas gyda’r systemau hyn. Pan fo’r berthynas hon yn dirywio neu fod person LHD yn teimlo na all ddod allan, gall bywyd fod yn ynysig ac ymylol iawn i’r person LHD hwnnw.
Mae casglu ystadegau ar gyfeiriadedd rhywiol yn gysylltiedig yn uniongyrchol gyda’r nifer o bobl LHD sy’n teimlo’n ddigon diogel i fod 'allan' a chael eu cyfrif. Dengys tystiolaeth bod mwy o bobl LHD allan ac agored mewn ardaloedd dinesig, ond nid yw hyn yn dangos a oes mwy o bobl LHD yn byw mewn ardaloedd dinesig neu os oes mwy neu lai o bobl LHD wedi’u geni mewn ardaloedd dinesig neu wledig.
Roedd arolwg Eich Cyfrif Neu’ch Eithrio Stonewall Cymru 2003 yn edrych ar bobl LHD a oedd yn dioddef anawsterau yn sgil eu gwasgariad ledled ardaloedd gwledig, ac fe gyrhaeddwyd at bobl drwy rwydweithiau mewnol ac yn Mardi Gras Caerdydd. Canfuwyd o’r 354 a ymatebodd yng Nghymru:
Bod 62% o’r dynion hoyw a 47% o lesbiaid yn byw yn y De, 22% o ddynion hoyw a 42% o lesbiaid yn byw yn y Canolbarth a 16% o ddynion hoyw a 11% o lesbiaid yn byw yn y Gogledd – ond efallai bod y ffigurau hyn wedi’u heffeithio gan yr anawsterau hunaniaeth a hygyrchedd.
Adroddiad gan Hybu Iechyd Cymru yn Hydref 1995:
Gellid damcaniaethu bod dynion hoyw yn mudo i’r ddinas i fod yn anhysbys ac mewn amgylchedd llai gelyniaethus a mwy cefnogol, tra bod menywod yn ceisio bod yn anhysbys mewn ardaloedd gwledig.
'Sexual Attitudes and Lifestyles in Wales: Implications for Health Promotion' – Adroddiad Technegol 15
*Nid yw Stonewall yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys safleoedd allanol
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen