Oedran

Pobl LHD hŷn

Mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol hŷn (dros 55 oed) wedi byw drwy lawer o newidiadau cymdeithasol a deddfwriaethol. Mae newidiadau cadarnhaol bellach yn cynnwys dod â’r oedran cydsynio i lefel gydradd i lawr o 21 i 16, diddymu Adran 28, y lluoedd arfog yn caniatáu i ddynion hoyw a lesbiaid wasanaethu, rhoi hawliau cydradd i gyplau o’r un rhyw sy’n ceisio mabwysiadu, cyflwyno partneriaethau sifil a gwahardd gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau.

Bydd y frwydr i gyrraedd y lefel hon o driniaeth deg wedi effeithio ar fywydau pobl LHD hŷn. Efallai eu bod wedi bod yn ymgyrchu eu hunain, neu wedi dioddef oherwydd gwahaniaethu neu gyfreithiau troseddau rhyw yn ystod y blynyddoedd a’u bod yn dal i fod ag ofn datgelu eu cyfeiriadedd rhywiol.

Nid yw mynd yn hŷn yn hawdd i neb, ac yn aml mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn bryderus ac


Ymchwil - Lesbian, Gay and Bisexual People in Later Life

Yn 2011, cyhoeddodd Stonewall ddogfen Lesbian, Gay and Bisexual People in Later Life. Yn yr astudiaeth gyntaf o’i bath ym Mhrydain, comisiynwyd cwmni YouGov gan Stonewall i wneud arolwg o sampl o 1,050 o bobl heterorywiol a 1,036 o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol dros 55 oed ledled Prydain. Roedd yr arolwg yn gofyn am eu profiadau a’u disgwyliadau o ran mynd yn hŷn, ac roedd yn edrych ar eu strwythurau cefnogi personol, eu cysylltiadau teuluol a’u trefniadau byw. Roedd hefyd yn gofyn sut maen nhw’n teimlo ynghylch mynd yn hŷn, y cymorth maen nhw’n disgwyl y bydd arnynt ei angen, a’r hyn maen nhw’n gobeithio fydd ar gael iddynt gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Rhai o ganfyddiadau’r ymchwil i bobl LHD yn hwyrach yn eu bywydau

1. Mae tri ymhob pump yn dweud nad ydynt yn hyderus y bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth, fel gofalwyr cyflogedig, na gwasanaethau tai, yn gallu deall a diwallu eu hanghenion.
2. Mae mwy na dau ymhob pump yn dweud nad ydynt yn hyderus y byddai gwasanaethau iechyd meddwl yn gallu deall a diwallu eu hanghenion.
3. Mae un ymhob chwech yn dweud nad ydynt yn hyderus y byddai eu meddyg teulu a gwasanaethau iechyd eraill yn gallu deall a diwallu eu hanghenion.
4. Yn fwy tebygol o fod yn sengl: mae dynion hoyw a deurywiol bron â bod dair gwaith yn fwy tebygol o fod yn sengl na dynion heterorywiol, 40 y cant o gymharu â 15 y cant.
5. Yn fwy tebygol o fyw ar eu pen eu hunain: mae 41 y cant o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn byw ar eu pen eu hunain o gymharu â 28 y cant o bobl heterorywiol.
6. Yn llai tebygol o gael plant: ychydig dros chwarter y dynion hoyw a deurywiol, a hanner y lesbiaid a’r merched deurywiol sydd â phlant, o gymharu â bron â bod naw ymhob deg o ddynion a merched heterorywiol.
7. Yn llai tebygol o weld aelodau o’r teulu biolegol yn rheolaidd: mae llai na chwarter y bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn gweld aelodau o’u teulu biolegol o leiaf unwaith yr wythnos, o gymharu â mwy na hanner y bobl heterorywiol.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig sail dystiolaeth rymus am y tro cyntaf am bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol hŷn yn y wlad hon. Mae hefyd yn cynnig argymhellion ymarferol i amrywiaeth o asiantaethau ynghylch sut i wella pethau.

Darllenwch yr adroddiad llawn Lesbian, Gay and Bisexual People in Later Life

 

Canllaw – Gweithio gyda phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol hŷn: Canllaw ar gyfer Gwasanaethau Gofal a Chymorth
 

Cafodd y Canllaw hwn ei ddatblygu mewn ymateb i ganfyddiadau’r ddogfen ymchwil uchod sy’n edrych ar bobl LHD yn hwyrach yn eu bywydau. Mae’n cynnig cyngor ymarferol i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau gofal a chymorth ynghylch sut i ddiwallu anghenion pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Weithiau gall newid polisi, hyfforddi staff a gwybodaeth am y gyfraith wella pethau. Ond yn aml mae’n ymwneud â phethau syml fel ymwybyddiaeth a chyfathrebu – gall effaith fawr fod i weithredoedd unigol.

Gobeithiwn y bydd y cyngor a’r canllaw hwn yn helpu darparwyr gofal i wella’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol, ac i gynnig y gwasanaethau hynny gyda’r urddas a’r parch y mae pob person hŷn yn ei haeddu.

Mae’r canllaw hwn wedi ei rannu yn adrannau fel a ganlyn:

  • Yr hyn sydd ei angen ar bobl hoyw hŷn
  • Yr hyn mae’r gyfraith yn ei ddweud
  • Sut i gynnwys pobl hŷn
  • Yr hyn y gall gweithwyr gofal a chymorth ei wneud
  • Yr hyn y gall darparwyr gofal cartref ei wneud
  • Yr hyn y gall cartrefi gofal ei wneud
  • Yr hyn y gall darparwyr tai ei wneud
  • Yr hyn y gall gwasanaethau iechyd ei wneud
  • Yr hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud

Darllenwch y ddogfen gyfan: Gweithio gyda phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol hŷn: Canllaw ar gyfer Gwasanaethau Gofal a Chymorth

Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r sefydliadau sydd wedi eu cynnwys yn y canllaw hwn, sydd wedi rhannu eu barn ymarferol werthfawr ar wneud y gwasanaethau gofal a chymorth yn berthnasol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth