
I ddathlu tadau hoyw, a'r rôl mae tadau yn chwarae ym mywydau pobl hoyw, rydym yn cynnal cystadleuaeth ddyddiol tan Sul y Tadau (17 Mehefin) gyda chefnogaeth gan Charlie Condou, sy'n dad i ddau o blant ac wedi chwarae rôl y tad hoyw mewn bywyd go iawn ac fel actor ar Coronation Street. Pob dydd bydd un enillydd lwcus yn enill Crys T 'Mae rhai pobl yn hoyw. Deliwch a'r peth! ', ac ar 17 Mehefin - Sul y Tadau - y stori orau oll bydd yn ennill Tocynnau VIP iddynt hwy a’i dad/thad. Bydd Charlie Condou, a Chyfarwyddwr Stonewall Cymru yn dewis ac enwi yr enillydd ar Sul y Tadau.
I gymryd rhan, i gyd sydd rhaid i chi wneud yw dweud wrthym sut mae’ch tad wedi’ch cefnogi chi fel lesbiad, person hoyw neu ddeurywiol. Gall tadau cystadlu hefyd, i siarad am fod yn dad hoyw neu gefnogi plentyn hoyw.
Naill ai llwytho ffilm YouTube am eich stori (dim mwy na 90 eiliad) ac anfon cyswllt ar Facebook neu Twitter, neu ddweud wrthym mewn dim mwy na 250 o eiriau trwy anfon neges atom ar Facebook neu Twitter (byddwn yn gadael i chi ddefnyddio dau drydar ar gyfer hyn!). Rhannwch eich stori gyda'ch ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol, a bydd yn siŵr i ddefnyddio’r hashtag #DiolchDad - ni allwn ystyried eich cais os nad ydym yn gwybod am y peth!
Mae gan Stonewall Cymru ystod eang o adnoddau am fagu plant magu plant. Os oes angen rhagor o wybodaeth, ffoniwch ein Llinell Wybodaeth ar 08000 50 20 20.
Manylion y wobr
Gwyl Gwobr Iris - Pass VIP x 2
Phas Mynediad i Bobman, fydd yn sicrhau lle i chi ymhob un o’r dangosiadau, y trafodaethau, y partion a’r derbyniadau gan gynnwys y Sioe Wobrwyo.
Caerdydd 10 – 14 Hydref 2012
www.irisprize.org
Rheolau
Gweler ein telerau ac amodau safonol.
Yn ychwanegol:
1.Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf mynediad (pwnc a fformat) y nodwyd uchod.Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 .30 pm ar 16 Mehefin 2012.Ni fydd unrhyw geisiadau a dderbyniwn yn hwyrach na'r amser hwnnw fod yn gymwys ar gyfer unrhyw wobr.
2.Bydd staff Stonewall Cymru yn dewis un cais buddugol bob dydd am 5.30pm.Bydd rhestr fer yn cael eu beirniadu gan Andrew White a Charlie Condou ar 16 Mehefin, gyda'r enillydd terfynol a gyhoeddwyd ar 17 Mehefin. Os bydd y naill barnwr na’r llall yn ddim ar gael bydd Stonewall Cymru yn dewis barnwr/wyr amgen a hysbysu enwau’r rhai newydd ar y gwefan hon cyn bydd y beirniadu yn digwydd.
3.Rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhannu eich cofnod neu rannau ohonynt yn rhydd ledled y byd ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn llenyddiaeth hyrwyddo Stonewall a datganiadau i'r wasg heb ganiatâd pellach am byth.
.
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen