HEDDLU TRAFNIDIAETH PRYDAIN ANGEN AELODAU PANEL CYMUNEDOL DYLANWADOL


Ydych chi erioed wedi dymuno lleisio eich barn am drefn plismona eich rheilffordd a’ch gorsaf leol, neu ddarparu adborth ar agwedd o waith yr heddlu?


Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) yn cynnig cyfle i chi wneud hynny… drwy wirfoddoli i ymuno â Phanel Dinasyddion sy’n cynnwys pobl o gymunedau amrywiol ledled Cymru a gorllewin Lloegr.

Mae BTP yn chwilio am aelodau brwdfrydig o’r cyhoedd a staff rheilffordd o bob cwr o’r rhanbarth i ymuno gyda’r panel newydd. Un o’r nodau allweddol yw cryfhau perthynas rhwng BTP a grwpiau cymunedol lleol.
Mae’r Llu yn edrych am bobl sydd â diddordeb cyffredinol mewn rheilffyrdd a’r gymuned rheilffordd, yn arbennig rhai â chysylltiadau cryf gyda chymunedau lleol, i gynghori a darparu adborth ar y ffordd y mae’r cyhoedd yn gweld gweithredoedd BTP.
Yr Arolygydd Stuart Middlemas sy’n gyfrifol am sefydlu panel BTP yng Nghymru a Gorllewin Lloegr, ardal sy’n cynnwys Cymru, de orllewin Lloegr a gorllewin canolbarth Lloegr.
Meddai’r Arolygydd Middlemas: “Rydym am i aelodau’r cyhoedd gyfranogi mwy wrth ein cynghori am blismona’r rheilffyrdd.
“Mae gan BTP Grŵp Cynghori Annibynnol Cenedlaethol eisoes, gydag aelodau o groestoriad eang o gefndiroedd, cymunedau a grwpiau amrywiol. Maent yn gwerthuso polisïau a gweithdrefnau BTP, ar sail eu barn, profiadau a gwybodaeth arbennig am eu cymunedau.
“Nawr rydym am ddatblygu grŵp ardal a all gynrychioli cymuned rheilffordd Cymru a Gorllewin Lloegr, er mwyn i aelodau o’r cyhoedd a staff rheilffordd gael llais yn y ffordd yr ydym yn plismona’r rheilffordd ar lefel leol.”

Ychwangeodd “Rydym am i aelodau’r panel gael cysylltiadau gyda’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu plismona, i bontio rhwng y grwpiau a BTP.

“Y nod yw i aelodau’r cyhoedd a staff rheilffordd gyfranogi a bod yn llais i’r gymuned. Rydym am iddynt ddarparu adborth a’n herio pan nad ydym yn gwneud yn iawn, yn eu barn hwy.
“Rydym am iddynt fod yn feirniadol a herio gweithdrefnau cyfredol, i adeiladu hyder ac ymddiriedaeth ynddom, a chael effaith wirioneddol ar ein plismona a’n polisïau.”

Cynhelir cyfarfodydd chwarterol ledled yr ardal, gan roi cyfle i gynrychiolaeth o bobl leol roi barn am blismona’r rheilffordd. Ni fydd aelodau’r Panel yn cael eu talu am eu gwaith, ond bydd hawl ganddynt i dderbyn ad-daliad costau cysylltiedig megis costau teithio.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r Panel Dinasyddion gysylltu gyda Barry Boffy drwy ebost ar ww-diversity-action-group@btp.pnn.police.uk, neu ffonio 0121 654 2072 / 07880 503813 am fwy o wybodaeth.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth