Rheoliadau Cyfeiriadedd Rhywiol 2007

Mae ein canllaw nwyddau a gwasanaethau ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ar gael i’w lawrlwytho:
Lliw Eich Arian (Cymraeg) 
The Colour of Your Money (Saesneg)

Yn yr adran hon:

Gwybodaeth Cefndirol

Roedd Stonewall Cymru yn falch iawn gyda phleidlais Tŷ’r Arglwyddi i gyflwyno amddiffyniad newydd i atal camwahaniaethu yn erbyn pobl hoyw.

Pleidleisiodd yr Arglwyddi o 168 pleidlais i 122 o blaid y rheoliadau, rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb newydd, a gyflwynwyd ar 30 Ebrill. Byddant yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gamwahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd a hoyw wrth ddarparu gwasanaethau yn amrywio o ofal iechyd i ystafelloedd mewn gwestai.

Meddai Matthew Batten, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Stonewall Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod yr arglwyddi wedi cefnogi cydraddoldeb ar gyfer pobl lesbiaidd a hoyw mor bendant. Roedd yr ymgyrch sarhaus, a ariannwyd mor dda, i wrthwynebu’r amddiffyniadau angenrheidiol hyn yn un ddychrynllyd o annymunol, fel gwelwyd ger y Senedd ddoe pan wthiwyd plant bach chwech, saith ac wyth oed i chwifio baneri gwrth-hoyw. Fe’n atgoffodd faint o ragfarn sy’n parhau i fodoli ym Mhrydain, ac roedd yn dystiolaeth bellach o’r angen am yr amddiffyniadau newydd hyn."

"Edrychwn ymlaen at weld y rheoliadau yn cael eu gweithredu. Byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl lesbiaidd a hoyw yng Nghymru."

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol ) 2007 yn ei gwneud yn anghyfreithlon camwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau, adnoddau a gwasanaethau ar sail Cyfeiriadedd Rhywiol . Mae asiantaethau mabwysiadu wedi’i heithrio o’r rheoliadau hyd at Ragfyr 2008. Cyflwynodd Stonewall welliannau drafft i weinidogion am y tro cyntaf ym Mawrth 2005.

Asiantaethau Mabwysiadu Crefyddol

Mae Stonewall Cymru yn falch iawn bod y llywodraeth wedi penderfynu peidio ag eithrio asiantaethau mabwysiadu crefyddol o’r amddiffyniadau nwyddau a gwasanaethau.

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod y rheoliadau hyn yn cael effaith lle mae eu hangen fwyaf er mwyn atal camwahaniaethu homoffobaidd. Rydym yn parhau i wthio am amddiffyniad cadarn o ran nwyddau a gwasanaethau, heb eithriadau ysgubol sy’n caniatáu i grwpiau crefyddol gamwahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd a hoyw.

Roedd arweinydd yr eglwys Babyddol yng Nghymru a Lloegr, Cardinal Cormac Murphy-O'Connor, wedi bygwth yn gyhoeddus i gau asiantaethau mabwysiadu Pabyddol oni bai bod y Llywodraeth yn cytuno i’w heithrio o’r rheoliadau nwyddau a gwasanaethau. Byddai hyn wedi eu galluogi i wrthod cyplau lesbiaidd a hoyw.

Dadl Stonewall oedd, wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol gydag arian cyhoeddus, bod yn rhaid i les y plentyn ddod cyn athrawiaeth grefyddol.

Ar 29 Ionawr 2007, cyhoeddodd y Prif Weinidog na fyddai asiantaethau mabwysiadu crefyddol yn cael eu heithrio. Yn hytrach, byddant yn cael amser i addasu eu gwasanaethau erbyn Nadolig 2008. Rydym yn ffyddiog, yn sgil y cyfnod hwn o addasu, na fydd angen i unrhyw asiantaeth gau.

Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru: ‘Rydym yn falch iawn bod y Llywodraeth wedi penderfynu yn erbyn eithrio. Byddai’r eithriadau yr oedd esgobion Pabyddol yn eu hawlio wedi gwarafun cartref cariadus i rai o bobl ifanc mwyaf bregus Prydain, yn ogystal â chreu stigma am rieni lesbiaidd a hoyw a’r nifer o blant sy’n cael eu magu ganddynt mewn teuluoedd sefydlog, cariadus. Dyma fuddugoliaeth i oddefgarwch dros ragfarn.'

Rheoliadau Gogledd Iwerddon

Ar 9 Ionawr 2007, mewn buddugoliaeth hanesyddol i gydraddoldeb hoyw, pleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi o 199 pleidlais i 68 o blaid cynnal y rheoliadau Cyfeiriadedd Rhywiol yng Ngogledd Iwerddon, lle cyflwynwyd hwy ar 1 Ionawr 2007. Roedd hyn yn dilyn ymgyrch arbennig o annymunol yn eu herbyn.

Cefndir

Lobïodd Stonewall yn aruthrol o galed dros yr amddiffyniadau pwysig hyn, ac roedd nifer o unigolion a mudiadau yn weithgar wrth sicrhau'r cam enfawr hwn ymlaen.

Plygodd y llywodraeth i bwysau yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan dderbyn gwelliannau Stonewall i’r Mesur Cydraddoldeb. O ganlyniad, bydd yn anghyfreithlon camwahaniaethu yn erbyn lesbiaid a dynion hoyw wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau – o ofal GIC i westai a bwytai.

Cyhoeddodd y llywodraeth bapur ymgynghoriad cyhoeddus 'Getting Equal' ym mis Mawrth 2006 yn nodi sut mae’n bwriadu i’r rheoliadau weithio. Daeth y cyfnod ymgynghorol i ben ar 5 Mehefin 2006.
Gellir llwytho ymateb Stonewall Cymru i’r ymgynghoriad Deddf Cydraddoldeb drwy glicio ar y cysylltiad isod.
Getting Equal (pdf) 

Bydd y newid hwn i’r gyfraith yn cwmpasu bywydau bob dydd pobl lesbiaidd a hoyw ledled Prydain mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae rhai sefydliadau crefyddol yn mynnu y dylid cerfio eithriadau ysgubol i mewn i’r amddiffyniad newydd. Rydym yn annog y llywodraeth i gyflwyno rheoliadau cadarn er mwyn sicrhau bod y math o gamwahaniaethu y mae Stonewall Cymru yn clywed amdano – ein rheswm dros lobïo dros y deddfau newydd yn y lle cyntaf – yn cael eu cwmpasu.

Dylai pobl lesbiaidd a hoyw, fel cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau, fedru disgwyl triniaeth deg fel pawb arall.
A ydych yn fusnes neu ddarparwr gwasanaeth yn edrych am fwy o wybodaeth am oblygiadau’r rheoliadau nwyddau a gwasanaethau i’ch sefydliad? Os felly, cliciwch yma 

Gadewch i ni wybod am eich profiadau

A ydych wedi cael eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol? A ydych yn adnabod unrhyw un sydd wedi derbyn gwasanaeth israddol yn sgil eu rhywioldeb? Gadewch i ni wybod er mwyn i ni herio camwahaniaethu yng Nghymru.

Drwy rannu eich profiadau gallwch ein helpu i lobïo dros well gwasanaethau i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru. Byddwn yn adrodd am eich profiadau yn ddienw wrth Aelodau Cynulliad Cymru, neu ysgrifennu llythyron i gwyno neu longyfarch awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus/preifat yr ydych wedi ein hysbysu amdanynt. Byddwn yn casglu profiadau ac yn eu trafod ar y wefan fel y gall pawb weld pa faterion sy’n wynebu ein cymunedau.

Gallwch ddweud wrthym am eich profiadau drwy lenwi ein ffurflen adborth. 

Astudion Achos

Mae’r cyfryngau yn gofyn i ni yn aml am 'berson go iawn' i’w gyfweld i roi apêl ehangach i’w cynulleidfa. O ganlyniad, mae angen tîm o bobl y gallwn gysylltu gyda hwy i siarad gyda’r cyfryngau. Gall hyn fod drwy gyfweliadau ffôn, radio / teledu byw neu wedi’i recordio ac erthyglau yn y wasg, gyda neu heb luniau. Yn aml gallant fod yn ddienw.

Bydd Stonewall Cymru yn siarad gyda’r newyddiadurwyr yn gyntaf i asesu’r ongl sy’n cael ei gymryd, ac yna byddwn yn rhoi’r wybodaeth i chi cyn i chi gytuno i gyfranogi. Nid ydym fyth yn rhoi rhifau ffôn yn uniongyrchol i’r newyddiadurwyr, ond yn hytrach rydym yn rhoi’r manylion cyswllt i chi – felly chi sy’n rheoli’r broses.

Ydych chi’n fodlon cael eich cyfweld?

Cysylltwch gyda ni i drafod neu llwythwch a llenwch y ffurflen astudion achos 
Ebost: 
cymru@stonewallcymru.org.uk
Ffôn: 029 2023 7744
Cyfeiriad: Stonewall Cymru, Transport House, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9SB.
 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth