Tu Mewn Tu Allan

Ar y tudalen:

Prosiect Tu Mewn Tu Allan

Gweithredwyd Prosiect Tu Mewn Tu Allan Stonewall Cymru rhwng Ebrill 2006 a Mawrth 2007 ac roedd yn ddarn o ymchwil dan arweiniad cymunedol, yn canolbwyntio ar brofiadau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) o ddefnyddio gwasanaethau iechyd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, gan gydnabod mai pobl LHD eu hunain yw'r bobl orau i ddeall materion iechyd sy'n berthnasol i bobl LHD eraill.

Gweithiodd Stonewall Cymru mewn partneriaeth gyda Thîm Ymgysylltiad Cymunedol Canolfan Ethnigrwydd ac Iechyd Prifysgol Canolbarth Lancashire (UCLAN) i gynnig hyfforddiant ac arweiniad i nifer o bobl LHD er mwyn dyfeisio'r ymchwil a chasglu'r canlyniadau.

Crynodeb Gweithredol Adroddiad Prosiect Tu Mewn Tu Allan

Cliciwch ar y cysylltiadau isod er mwyn llwytho i lawr:

Mae Stonewall Cymru wedi clustnodi'r anawsterau wrth gyrraedd at ac ymgynghori gyda phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) ledled Cymru. Mae pobl LHD (pobl â chyfeiriadedd cyfunrywiol) yn absennol o'r Cyfrifiad fel 'grwp poblogaeth' ac mae eu hanghenion yn cael eu hepgor yn aml wrth gynllunio a chyflawni gwasanaethau cyhoeddus.

Hefyd, ychydig o grwpiau/ sefydliadau cymunedol sydd ar gyfer pobl LHD, canfu Adroddiad Ninnau Hefyd! Stonewall Cymru yn 2004 bod 34 grwp amrywiol yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl LHD ledled Cymru, 20 ohonynt yn cael eu rhedeg gan wirfoddolion LHD ar gyfer pobl LHD, ac 14 arall yn cefnogi pobl LHD wrth weithio ar gyfer grwpiau targed penodol eraill, megis ieuenctid, undebau llafur a'r digartref, ac mae llai erbyn 2006.

Ychydig o allu sydd gan y grwpiau hyn i leisio pryderon a materion sy'n codi i bobl LHD wrth ddarparwyr gwasanaeth, neu ymateb i ymgynghoriad pan fo darparwyr yn ceisio eu barn. Mae'r prinder cyfathrebu a chefnogaeth yn cynyddu mewn ardaloedd gwledig.

Er mwyn wynebu'r mater hwn, mae Stonewall Cymru wedi ymuno â Thîm Ymgysylltiad Cymunedol Canolfan Ethnigrwydd ac Iechyd Prifysgol Canolbarth Lancashire (UCLAN) er mwyn dod â'u model Ymgysylltiad Cymunedol i Gymru am y tro cyntaf, a datblygu prosiect Tu Mewn Tu Allan. Mae model Ymgysylltiad Cymunedol UCLAN yn datblygu sgiliau a gwybodaeth o fewn cymuned benodol drwy recriwtio a hyfforddi ymchwilwyr cymunedol i ymchwilio i fater penodol o bryder i'r gymuned a chefnogi datblygiad at ddyfodol cynaliadwy.

Nod Prosiect Tu Mewn Tu Allan

Archwilio profiadau pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) o ddefnyddio gwasanaethau iechyd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, a chlustnodi rhai camau i'w gwneud yn fwy addas a sensitif i anghenion pobl LHD.

Amcanion

  • Ymchwilio i brofiadau pobl LHD o ddefnyddio gwasanaethau iechyd
  • Gwerthuso'r canfyddiadau
  • Ymateb gydag unrhyw argymhellion am newid
  • Cynyddu ymgysylltiad unigolion a grwpiau LHD yng ngogledd a chanolbarth Cymru
  • Codi hyder a sgiliau o fewn y gymuned LHD
  • Codi gallu o fewn y gymuned LHD

Trefnwyd digwyddiadau hyrwyddo yng nghanolbarth a gogledd Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r Prosiect Tu Mewn Tu Allan ac i recriwtio ymchwilwyr cymunedol. Pan glustnodwyd ymchwilwyr cymunedol, darparodd UCLAN raglen o weithdai ymchwil ar sail cymunedol. Gwahoddwyd cynrychiolwyr o'r asiantaethau iechyd, prifysgol a sefydliadau LHD lleol i sefydlu grwp llywio i ddarparu arweiniad a monitro'r prosiect. Sefydlwyd grwpiau trafod 'Google' ar-lein er mwyn i'r ymchwilwyr a'r grwp llywio fedru cyfathrebu dros bellter.

Datblygodd yr ymchwilwyr cymunedol yr offer ymchwil ar gyfer grwpiau ffocws a holiaduron. Cytunwyd y byddai'r ymatebion yn dod gan unigolion lesbiaidd, hoyw a deurywiol dros 17 oed sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd lleol yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Defnyddiwyd technegau samplo caseg eira a manteisiol drwy rwydweithiau a oedd eisoes yn bodoli ac fe ddefnyddiwyd lleoliadau hoyw lleol er mwyn targedu'r grwp sampl. Anogwyd y rhai a ymatebodd i ddarparu gwybodaeth  ansoddol drwy sylwadau ac adrodd am eu profiadau.

Dadansoddwyd cyfanswm o 67 o ymatebion gan bobl LHD, ymatebodd 52 drwy holiaduron a 15 drwy grwpiau ffocws a chyfweliadau ffôn. Y grwp oedran mwyaf (23%) oedd 30-39. O ran cydbwysedd y rhywiau, roedd 48% yn wrywaidd a 49% yn fenywaidd, a 3% yn drawsrywiol. O'r rhain, roedd 40% yn galw'u hunain yn ddynion hoyw, 46% yn lesbiaidd / menywod hoyw, 11% yn ddeurywiol ac un dyn ac un fenyw (3%) yn dweud eu bod 'yn cael rhyw gyda rhywun o'r un rhyw'. Roedd 86% o'r grwp sampl 'allan'.

Roedd y canfyddiadau'n tynnu sylw at faterion ynglyn â datgelu cyfeiriadedd rhywiol (a elwir hefyd yn 'dod allan'), y newidiadau mewn agwedd staff o ganlyniad, profiadau gofal cadarnhaol a negyddol, derbyn gofal iechyd addas ar gyfer bobl LHD a'r angen i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fewn y system gofal iechyd o anghenion gofal iechyd penodol pobl LHD.

Roedd 62% o'r rhai a ymatebodd drwy holiadur naill ai wedi dod 'allan' neu wedi cael eu gorfodi 'allan' tra'n defnyddio gwasanaeth iechyd, o'r rhain roedd 26% yn teimlo bod hyn wedi newid ymateb neu agwedd y darparwr gofal iechyd. Amrywiodd y profiadau o newid agwedd rhwng awyrgylch llai cyfeillgar, newid agwedd, staff yn teimlo cywilydd a'r rhai a ymatebodd yn teimlo'n anghysurus, i staff yn bod yn feirniadol. Trafododd y grwpiau ffocws eu profiadau o agweddau a gwerthoedd amhroffesiynol gan staff GIC, disgrifiwyd un meddyg fel:
"Cristion asgell dde iawn, efengylaidd iawn, ond pan mae yn y gwaith, mae yn y gwaith, ac mae'n amhroffesiynol iawn"

Nododd 67% o'r rhai a ymatebodd iddynt dderbyn profiad cadarnhaol a 15% brofiad negyddol wrth dderbyn gofal neu driniaeth, ac fe gwynodd 3% wrth reolwr y practis neu'r Bwrdd Iechyd lleol.  Serch hynny, mae'r data ansoddol yn dangos bod disgwyliadau'r rhai a ymatebodd mor isel nes iddynt gyfrif absenoldeb rhagfarn amlwg fel rhywbeth 'cadarnhaol'. Y profiadau cadarnhaol a nodwyd oedd: diffyg ymateb negyddol gan staff pan ddatgelwyd cyfeiriadedd rhywiol, cael eu trin am y salwch, a phartneriaid yn cael eu trin gyda pharch ac yn gyfartal gyda chyplau heterorywiol.

Teimlai 10% o'r rhai a ymatebodd iddynt dderbyn cyngor iechyd anaddas ar gyfer eu cyfeiriadedd rhywiol ar: ddulliau atal cenhedlu (er eu bod 'allan') , yr angen i gael profion ceg y groth, a phrofion HIV/AIDS. Trafododd y grwpiau ffocws y cyngor atal cenhedlu a roddir i fenywod, gan fynegi:
"Cynigiwyd dulliau atal cenhedlu mewn ffordd gadarn, ac ar ôl dod allan, roedd yn lletchwith, ac ni roddwyd cyngor arall"

O'r 25 menyw a ymatebodd, mae 20 yn derbyn profion ceg y groth yn rheolaidd.  Hefyd roedd 1 yn credu nad oedd angen prawf ceg y groth arni o achos ei chyfeiriadedd rhywiol, dywedwyd wrth 1 gan weithiwr iechyd nad oedd angen prawf ceg y groth arni o achos ei chyfeiriadedd rhywiol, ac ni atebodd 3. Rhoddwyd pwysau ar 4 dyn ac 1 fenyw i gael prawf HIV/ AIDS o achos eu cyfeiriadedd rhywiol, nododd 3 dyn iddynt gael eu profi heb eu caniatâd, ac roeddent yn meddwl bod rhagdybiaeth y dylent gael prawf HIV/AIDS gan eu bod yn ddynion hoyw.

Byddai 81%, petai gofyn, yn cofrestru eu partner cyfunrywiol fel perthynas agosaf.  O'r rhai na gofrestrodd eu partneriaid cyfunrywiol, y rhesymau a roddwyd oedd: ofn camwahaniaethu, teimlo na fyddai eu cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei gadw'n breifat, ac ofn y byddai'n effeithio ar eu triniaeth.

Byddai 65% o'r rhai a ymatebodd drwy holiadur yn teimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd petai gweithwyr gofal iechyd yn cydnabod statws cyfartal i berthynas cyfunrywiol yn eu llenyddiaeth a'u diwylliant.  Rhoddwyd pwyslais uchel ar yr angen am fwy o hyfforddiant ar ymwybyddiaeth am faterion cyfeiriadedd rhywiol.

Argymhellion

  • Dylai'r holl staff gofal iechyd dderbyn hyfforddiant ar faterion cyfeiriadedd rhywiol, o ran gofal iechyd a chydraddoldeb triniaeth.
  • Dylai asiantaethau gofal iechyd wella adnabyddiaeth, cydnabyddiaeth a thriniaeth cyfeiriadedd cyfunrywiol fel hunaniaeth.
  • GIC Cymru i gynyddu mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol penodol i bobl LHD.
  • Staff gofal iechyd i dderbyn hawl y claf i enwebu eu partner cyfunrywiol / aelod teulu o ddewis fel eu pwynt cyswllt cyntaf neu brif ofalwr (perthynas agosaf).
  • Cyrff statudol i ddarparu cyllid a chefnogaeth gynaliadwy i gyfranogiad rhyngweithwyr / ymchwilwyr cymunedol LHD wrth greu pwynt mynediad a deialog gyda'r gymuned 'anodd cyrraedd ati' hon.

Ymchwilwyr Prosiect Tu Mewn Tu Allan Gogledd Cymru

O ganlyniad i'w cyfranogaeth yn y prosiect, cwblhaodd 4 ymchwilydd cymunedol y Tystysgrif Prifysgol achrededig mewn Ymchwil Cymunedol.

Kim Cook
Gareth Davies
Craig Semple
Shirley Ann Jones
Lowri Williams

Model Ymgysylltiad Cymunedol Canolfan Ethnigrwydd ac Iechyd Prifysgol Canolbarth Lancashire (UCLAN)

Mae prosiect Tu Mewn Tu Allan yn brosiect ymgysylltiad cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Ethnigrwydd ac Iechyd Prifysgol Canolbarth Lancashire (UCLAN), ac yn defnyddio'u model ymgysylltiad cymunedol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am fodel ymgysylltiad cymunedol UCLAN.

Mae prosiect Tu Mewn Tu Allan yn brosiect ymgysylltiad cymunedol, wedi'i ariannu gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol er mwyn cynyddu gallu o fewn y gymuned lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru cyn gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae prosiect Tu Mewn Tu Allan yn brosiect partneriaeth gyda Chanolfan Ethnigrwydd ac Iechyd Prifysgol Canolbarth Lancashire (UCLAN).


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth