Prosiect Bys yn y Dŵr

Ymchwi yn edrych ar amgylchiadau a phrofiadau unigolion o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig (BME) sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD) ac yn byw yng Nghymru.

 

Roedd Bys yn y Dŵr yn ddarn bach o ymchwil archwiliadol yn edrych ar amgylchiadau a phrofiadau unigolion o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig (BME) sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD) ac yn byw yng Nghymru.

 

Roedd y prosiect yn rhoi cyfle i bobl ystyried a rhannu effeithiau cadarnhaol a negyddol bod yn unigolyn o fewn y ddwy ‘gymuned’ leiafrifol. Llwyddodd y prosiect bychan arloesol i estyn allan at is-boblogaeth yng Nghymru a oedd hyd yma heb ei gydnabod ac wedi’i anwybyddu.

 

“Mae astudiaethau cychwynnol megis Bys yn y Dŵr yn bwysig, nid yn unig am yr hyn sy’n cael ei ddarlunio a’i egluro am brofiadau bywyd yr unigolion hyn, ond hefyd i gael mwy o wybodaeth am orgyffwrdd a chydadwaith cymhleth rhwng ffurfiau o gamwahaniaethu, a’u heffaith ar les unigolyn. Felly mae astudiaethau fel hyn yn darparu cyfeiriad ar gyfer darparwyr gwasanaethau ac ymchwil yn y dyfodol.’

Charlotte Williams OBE, Athro Cyfiawnder Cymdeithasol, Prifysgol Keele.

 

Dyma ddarn unigol o ymchwil o Gymru, gyda’i ganfyddiadau ei hun o siarad gyda phobl sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD) ac o gefndir du neu leiafrif ethnig (BME), drwy ddefnyddio amrywiol ddulliau. Fodd bynnag, yn sgil prinder ymchwil Prydeinig sy’n edrych ar y gorgyffwrdd rhwng materion hil a hunaniaeth rywiol, credwn ei bod yn bwysig edrych ar yr ymchwil hwn wrth ochr gwaith prosiect Everyone IN, the Minority Ethnic LGBT Project (2009) a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar lefel asiantaeth / sefydliadol.

 

Cynlluniwyd yr ymchwil yng Nghanolfan Cydraddoldeb Gogledd Cymru, ac fe’i cyflawnwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru mewn cydweithrediad gyda Stonewall Cymru, ac ariannwyd gan Nawdd Menter ar y Cyd Gwasanaeth Ymchwil a Chefnogi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Am copi o’r adroddiad Cliciwch yma 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth