Heini Hoyw

Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) mewn Chwaraeon: 
Deall Cyfranogiad LHD mewn Chwaraeon yng Nghymru 

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn

Mae Stonewall Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru er mwyn cynnal ymchwil arloesol i gyfranogiad pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn chwaraeon.

Mae’r ymchwil hwn yn rhoi cipolwg ar y ffyrdd mae pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol yn cymryd rhan mewn chwaraeon, neu yn wir pam y byddent yn dewis peidio gwneud hynny o bosibl.

Canfyddiadau Allweddol:

  • Mae 94% o bobl LHD wedi cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf
  • Mae 75% o ymatebwyr arolwg LHD wedi clywed cellwair homoffobaidd mewn chwaraeon
  • Dywedodd 49% o unigolion LHD eu bod wedi profi cam-drin geiriol oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol – mae 12% wedi profi cam-drin corfforol
  • Mae 33% o bobl LHD wedi profi eithrio o chwaraeon oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol
  • Byddai 72% o bobl LHD yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn clwb pe bai’n cael ei farchnata fel clwb LHD-gyfeillgar.
  • Byddai 51% o bobl LHD yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn clwb pe bai yn bennaf ar gyfer unigolion LHD

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn

Mae gwybodaeth bellach am weithgareddau a chlybiau chwaraeon yn eich ardal chi i’w gweld ar wefan Chwaraeon Cymru.

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth