Newid y diwylliant: mynd i’r afael â homoffobia mewn ysgolion
09.30am - 12.30pm
16 Rhagfyr 2013
Mae angen arweinyddiaeth gan athrawon, staff nad ydynt yn addysgu a’r uwch dîm rheoli i fynd i’r afael â homoffobia. Mae’r cwrs hwn yn amlygu sut gallwch ddod yn arweinydd wrth fynd i’r afael ag agweddau homoffobig sy’n cael effaith negyddol ar allu disgyblion i gyflawni eu potensial.
Yn gallu adnabod beth yw homoffobia mewn amgylchedd ysgol, o ran ei weld a’i glywed.
Deall cyfrifoldebau cyfreithiol yr ysgol i fynd i’r afael â bwlio.
Cydnabod yr effaith y gallai bwlio ei chael ar unigolion a’r ysgol.
Nodi ffyrdd o wneud yr ysgol yn gynhwysol i fyfyrwyr a staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Mwy o wybodaeth ebost cymru@stonewallcymru.org.uk neu ffoniwch 02920 237 744
Sylwadau am y dudalen