Gwyliwch Allan

Yma ceir mwy o fanylion ynglŷn â phrosiect cyfryngau Gwyliwch Allan.

Cliciwch yma i lawrlwytho Adroddiad Cyfryngau Gwyliwch Allan

Rhennir y wybodaeth yn 5 adran:

Ynglŷn â Gwyliwch Allan  - yma ceir gwybodaeth gefndir ynglŷn â'r prosiect

Adnoddau ar gyfer y gymuned LHD - mae gweithio gyda phobl a grwpiau cymunedol LHD yn allweddol ar gyfer llwyddiant Gwyliwch Allan, er mwyn hybu cefnogaeth ymarferol a chyngor ar berthynas gyda'r cyfryngau. Yma fe gewch gyngor ar ysgrifennu datganiad i'r wasg, ysgrifennu at y golygydd a chael cyfweliadau gyda'r cyfryngau. Rydym hefyd yn eich annog i leisio'ch barn ynglŷn ag unrhyw fath o sylw a roddir gan y cyfryngau i bobl a materion LHD, ac yn yr adran hon cewch restr o fanylion cyswllt cyfryngau lleol.

Adnoddau ar gyfer newyddiadurydd - yn yr adran hon gall newyddiadurydd gael gafael ar wybodaeth gywir am amrywiaeth o faterion LHD. Hefyd mae Geiriadur Defnydd Derbyniol sydd yn rhestru ymadroddion y dylid eu hosgoi, a'r ymadroddion gwell y dylid eu defnyddio, pan yn adrodd straeon LHD. Yn ogystal, mae rhestr cyswllt ar gyfer sefydliadau a phobl a fyddai o bosib yn fodlon siarad gyda newyddiadurydd.

Cysylltu â Gwyliwch Allan - cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad yn ymwneud â'r cyfryngau neu os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â'r prosiect.

Astudiaeth achos - Mae gan Stonewall Cymru fas data o unigolion sydd â phrofiadau i’w rhannu gyda’r cyfryngau. Yma fe welwch y ffurflen gyswllt gychwynnol ar gyfer astudiaethau achos.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth