Mae Stonewall Cymru yn chwilio am straeon a phrofiadau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol er mwyn ysbrydoli ein gwaith ymgyrchu a lobïo. Os ydych wedi dioddef camwahaniaethu neu os oes gennych brofiad arall a fyddai yn ddefnyddiol i'n gwaith, hoffem gadw cofnod o'ch stori. Yn achlysurol iawn, a gyda'ch caniatâd yn unig, gallwn gynnig eich stori i'r cyfryngau er mwyn tynnu sylw at y materion y mae cymunedau LHD yn eu hwynebu.
Mae Stonewall Cymru hefyd yn derbyn nifer o ymholiadau gan y cyfryngau yn gofyn am bobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol i siarad am eu profiadau cadarnhaol. Rydym yn ceisio hyrwyddo enghreifftiau cadarnhaol o lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol er mwyn herio rhagdybiaethau negyddol. Os oes gennych ddiddordeb mewn herio'r rhagdybiaethau negyddol hyn o lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol, llenwch y ffurflen hon gan nodi pa fath o waith yr ydych yn hapus i'w wneud gyda'r cyfryngau.
Mae nifer o feysydd lle mae angen eich cymorth arnom:
Magu Plant - Rhieni lesbiaidd a hoyw, naill ai rhieni biolegol neu rieni an-fiolegol sydd wedi cael plant drwy fabwysiadu neu faethu.
Addysg - Pobl ifanc sydd wedi wynebu homoffobia ym myd addysg yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad cadarnhaol o'r ffordd y deliwyd â'r peth gan yr ysgol/coleg.
Addysg - Athrawon neu staff addysg sydd wedi gweld homoffobia yn erbyn myfyrwyr neu staff, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad cadarnhaol o'r ffordd y deliwyd â'r digwyddiadau gan yr ysgol/coleg.
Cyflogaeth - Pobl sydd wedi dod ar draws camwahaniaethu, bwlio neu aflonyddu mewn cyflogaeth yn sgil eu rhywioldeb neu ragdybiaeth o'u rhywioldeb.
Iechyd Lesbiaidd - Menywod lesbiaidd a deurywiol sydd wedi cael profiadau cadarnhaol neu negyddol o ofal iechyd yn y DG o achos eu rhywioldeb.
Tai - Pobl sydd wedi wynebu problemau tai o achos eu rhywioldeb.
Troseddau Casineb - Pobl sydd wedi profi troseddau casineb homoffobaidd.
Annog Casineb - Pobl sydd wedi wynebu galwadau, naill ai ar lafar neu mewn cyhoeddiadau, am ymosodiadau ar lafar neu yn gorfforol yn erbyn pobl hoyw.
Nwyddau a Gwasanaethau - Pobl sydd wedi profi camwahaniaethu yn y DG wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau o achos eu rhywioldeb neu ragdybiaeth o'u rhywioldeb, e.e. gwrthod ystafell mewn gwesty neu eu gwrthod mewn tafarn neu far.
Partneriaethau Sifil - Pobl sy'n bwriadu cael partneriaeth sifil yn y dyfodol agos.
Cyffredinol - Pobl sy'n barod i siarad am eu profiadau, cadarnhaol neu negyddol, o fod yn hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol ac a hoffai gael eu hystyried ar gyfer eu cynnwys mewn straeon cyffredinol yn y cyfryngau yn y dyfodol.
Os oes modd i chi helpu yn unrhyw un o’r meysydd hyn, llenwch y Ffurflen astudiaeth achos a nodwch eich hanes.
Diolch am eich cymorth.
I ddysgu mwy am ffyrdd o gyfranogi yn y Prosiect Cyfryngau Gwyliwch Allan cliciwch yma
Sylwadau am y dudalen