Yngyln â Gwyliwch Allan

Cyflwyniad

Gwyliwch Allan yw Grŵp Cyfryngau Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol Cymru sydd yn anelu at leihau y lefelau o gamwahaniaethu a brofir gan rai aelodau o'r gymuned LHD gan y cyfryngau yng Nghymru. Cyllidir Gwyliwch Allan gan Comic Relief.

Cefndir

Dangosodd Ninnau Hefyd!, ein arolwg cyntaf erioed o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru, bod cyfran uchel o bobl LHD yn teimlo eu bod wedi dioddef camwahaniaethu a chamdriniaeth o achos y ffordd y portreadir pobl LHD ar deledu ac yn y wasg. Yn ôl yr adroddiad, y math mwyaf cyffredin o gamwahaniaethu oedd 'teimlo na allwch fynegi eich hunan yn gyhoeddus fel person hoyw', a brofwyd gan 71% o bawb a atebodd. Yr enghreifftiau mwyaf cyffredin o gamwahaniaethu ar ôl hyn, a brofwyd gan rhwng 65 - 69% o bawb a atebodd, oedd 'cael eu tramgwyddo gan ddatganiadau cyhoeddus am foesoldeb pobl cyfunrhywiol', 'cael eu tramgwyddo gan erthyglau neu golofnau golygyddol yn y wasg', a 'cael eu tramgwyddo gan y modd y portreadir pobl cyfunrhywiol ar y teledu' a 'galw enwau neu wawdio cyhoeddus.'

Cysylltodd nifer o bobl â Stonewall Cymru er mwyn mynegi eu pryder ynglŷn â'r sylw i faterion LHD yn y cyfryngau Cymreig. Yn arbennig, siomwyd rhai a gwynodd gan y nifer o sylwadau dilornus sydd wedi ymddangos ar dudalennau llythyrau papurau newydd lleol. O ganlyniad uniongyrchol i gryfder teimladau ymysg pobl LHD ynglŷn â'r cyfryngau yng Nghymru, sefydlwyd Gwyliwch Allan gan Stonewall Cymru.

Noddau

Ein amcanion yw herio camwahaniaethu a rhagfarn yn y cyfryngau yng Nghymru yn gyhoeddus, a byddwn yn cyflawni hyn drwy:

  • Adeiladu perthynas gyda'r Cyfryngau Cymreig
  • Darparu cyngor a gwybodaeth cywir ar faterion LHD i newyddiaduryddion
  • Gweithio gyda pobl a grwpiau cymunedol LHD er mwyn hybu cefnogaeth a chyngor ymarferol ar gysylltiadau gyda'r cyfryngau
  • Adnabod dulliau o gyrraedd at bobl nad sy'n defnyddio cyfryngau Cymreig.

(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth