Troseddau Casineb

Diffiniad

Troseddau Casineb yw unrhyw drosedd a gyflawnir yn erbyn person neu eiddo sydd wedi ei ysgogi gan gasineb y troseddwr o bobl sy'n cael eu gweld yn wahanol. Troseddau casineb homoffobaidd yw pan fo rhagfarn y troseddwr yn erbyn unrhyw berson lesbiaidd, hoyw neu deurywiol yn ffactor o ran pwy sy'n dioddef.

Ystadegau

Dangosodd canfyddiadau arolwg Stonewall Cymru o bobl lesbiadd, hoyw a deurywiol 2002 - 2003 bod: Mwy nag 1 ymhob 3 o'r rhai a atebodd yn dweud eu bod wedi dioddef trais corfforol neu fwlio.

  • Bron i 57% o'r rhai a atebodd yn dweud eu bod wedi profi camdriniaeth ac aflonyddu ar lafar o achos eu rhywioldeb.
  • 64% wedi dioddef galw enwau neu wawdio cyhoeddus.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am droseddau casineb.

Adrodd am Droseddau Casineb

  • Mae'r cyfryngau yn chwarae rhan hanfodol wrth ddylanwadu ar farn yngl?n â phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD). Mae'r ffordd yr ydych chi yn adrodd am drosedd casineb yn penderfynu sut y bydd eich darllenwyr yn ymateb i'r un sy'n dioddef.
  • Mae ensynio bod yr un sy'n dioddef yn 'agored hoyw' neu yn 'fflawntio ei rhywioldeb' yn awgrymu i'r rhai sy'n darllen eu bod wedi 'dod â'r peth ar eu hunain' ac yn cyfiawnhau'r drosedd. Mae'n anfon neges glir i'r gymuned LHD y medrant ddisgwyl cael eu targedu gan eu bod yn cael eu gweld yn 'wahanol'. Gall hyn gael oblygiadau difrifol yn nhermau ymdriniaeth yn y gymdeithas, a gall arwain at fwy o droseddau casineb. Er mwyn diogelwch y gymuned LHD yn gyfan, mae'n bwysig adrodd am droseddau casineb mewn ffordd deg a sensitif.
  • Gall Gwyliwch Allan ddarparu mwy o wybodaeth am droseddau casineb, enghreifftiau a manylion cyfweliadau posib.



(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth