Gweler ein rhestrau sefydliadau LHD o dan Traws Cymru am grwpiau ieuenctid LHD yng Nghymru.
Mae cyrff anllywodraethol a gwasanaethau a gefnogir gan y llywodraeth yng Nghymru, fel Achub y Plant, Barnardos, y Comisiynydd Plant, Partneriaethau Pobl Ifanc, Draig Ffynci ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, hefyd yn cynnig gwasanaethau neu'n datblygu polisi sy'n cynnwys anghenion pobl LHD ifanc yng Nghymru.
Prin iawn yw'r wybodaeth, y gefnogaeth a'r cyngor ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sy'n tyfu i'w rhywioldeb. Yn aml, nid oes gan bobl ifanc lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeuryw unrhyw gyswllt â phobl LHD eraill.
Yn aml, y tro cyntaf y gall pobl LHD ifanc ddechrau archwilio a mynegi eu hunaniaeth rywiol yw drwy symud oddi cartref, un ai drwy ddewis neu'n rhy aml ar ôl i ffrindiau neu deulu gefnu arnynt ar ôl iddynt 'ddod allan', neu drwy symud i ffwrdd i brifysgol. Yn wir, mae dewis prifysgol sy'n bell o gartref, neu symud o ardaloedd gwledig Cymru i'w dinasoedd, neu ymhellach i ffwrdd, yn strategaeth bwrpasol i lawer o bobl LHD ifanc yng Nghymru.
Gall y profiad o deulu neu ffrindiau yn cefnu arnynt wrth 'ddod allan' gael canlyniadau enbyd i bobl ifanc rhwng 16 i 18 oed nad oes ganddynt hawl i fudd-dal nawdd cymdeithasol. Mae'r YWCA (2004), sy'n dangos y daw pobl ifanc yn ymwybodol o'u rhywioldeb rhwng 10 a 15 oed ond o bosibl nid yw pobl sy'n teimlo atyniad tuag at bobl o'r un rhyw yn trafod eu rhywioldeb nac yn 'dod allan' nes gryn dipyn yn ddiweddarach, yn dweud bod cael eich gwrthod gan deulu a ffrindiau'n gallu bod yn ddinistriol iawn. Gall digartrefedd, maethu, gofal preswyl, ymosod corfforol neu rywiol, a phroblemau iechyd meddwl ddeillio o hyn.
Gall cyfnodau parhau o deimlo'n unig, neu'n wahanol arwain at unigedd difrifol, iselder, hunan-niwedio, hunanladdiad a phroblemau iechyd emosiynol eraill.
Mae'r adroddiad hefyd yn canfod bod pobl LHD yn anweledig mewn llawer o arweiniad yn yr ysgol ar ryw a pherthynas, gan mai atgenhedlu heterorywiol yw ei ffocws. Nid oes gwybodaeth am ffurfio perthnasoedd un-rhyw nac am arfer rhyw ddiogel.
Heblaw bod pobl LHD ifanc yn fwy agored i gael eu bwlio yn yr ysgol (cyswllt ag Addysg i Bawb), mae adroddiad yr YWCA yn datgan bod lesbiaid ifanc yn dioddef mwy o gam-drin/ymosodiadau rhywiol na dynion ifanc hoyw. Pan mae merched a menywod yn 'dod allan' gallant gael eu targedu gan aelodau gwrywaidd o'r teulu sy'n dymuno, rheoli, cosbi, 'trosi'.
Yng Nghymru yn ddiweddar, mae Draig Ffynci wedi cydnabod pobl ifanc LHD fel grŵp 'anodd eu cyrraedd'. Maent wedi cychwyn gwneud ymchwil i ddulliau o annog a rhoi grym i bobl ifanc LHD i siarad am eu profiadau a'u hanghenion.
Cysylltiadau: gweler Traws Cymru am restr o brosiectau i bobl ifanc yng Nghymru. Gweler yn benodol Brosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl - Viva! ac Swansea Young Gay Network (SYGNet)
Sylwadau am y dudalen