Adrodd ar straeon lleoliadau rhyw cyhoeddus (criwsio)
Diffiniad:
Criwsio - chwilio am rhyw hamddenol. Nid yw bob dyn sydd yn 'criwsio' yn ystyried eu hunain fel person hoyw. Mae'n bosibl bod rhai mewn perthynas heterorywiol ac yn edrych am ddim byd mwy na rhyw hamddenol gyda dynion eraill.
Dynion sydd yn cael rhyw gyda dynion - term sy'n disgrifio dynion sydd yn cael rhyw hamddenol gyda dynion eraill. Ni fyddai'r dynion hyn yn ystyried eu hunain fel pobl hoyw, ac mae'n bosibl eu bod mewn perthynas heterorywiol.
Pan yn adrodd ar straeon am weithgaredd 'criwsio' mae'n bwysig cydnabod y pwyntiau canlynol:
- Mae gweithgaredd criwsio yn deillio o'r ffaith bod dynion sydd eisiau cael rhyw gyda dynion yn parhau i wynebu lefelau uchel o rhagfarn a chamwahaniaethu o fewn cymdeithas. Gall ofn unigrwydd a chael eu gwrthod gan deulu a ffrindiau wneud 'dod allan' , i'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny, yn anodd iawn.
- Mae'n bosibl bod dynion sy'n 'criwsio', ac sydd yn ystyried eu bod yn hoyw, heb ffordd o gyrraedd at y 'sîn.' Mae prinder llefydd diogel lle gall dynion hoyw gwrdd â dynion hoyw eraill y tu allan i'r sîn, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.
- Nid 'mater hoyw' yn unig yw criwsio. Yn aml ni fyddai'r dynion sydd ynghlwm â'r peth yn ystyried eu hunain fel pobl hoyw. Efallai bod rhai mewn perthynas heterorywiol ac yn edrych am ddim mwy na rhyw hamddenol gyda dynion eraill. Mae ei adrodd fel 'mater hoyw' yn cyffredinoli'n anheg am foesoldeb dynion hoyw. Gall hyn fod ag oblygiadau difrifol yn nhermau triniaeth o fewn cymdeithas, ac ar rai adegau gall annog camdrin homoffobaidd, ac ar ei waethaf, trosedd casineb. Felly, er mwyn diogelwch bob dyn hoyw mae'n bwysig peidio collfarnu y dynion, ond adrodd am y digwyddiad mewn arddull deg a sensitif.
- Mae'n werth nodi pan yn gwneud sylwadau am foesoldeb dynion hoyw bod bron i 65% o'r rhai a atebodd ein arolwg Eich Cyfri Neu'ch Eithrio wedi nodi eu bod wedi eu digio gan erthyglau neu golofnau golygyddol yn y wasg, ac adroddodd 68% eu bod wedi eu digio gan ddatganiadau cyhoeddus am foesoldeb pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD). Nid yn unig pobl LHD sydd yn cael eu tramgwyddo gan ddatganiadau o'r fath, ond hefyd eu cyfeillion a'u teuluoedd. Bydd adroddiadau anheg yn gelyniaethu cyfran sylweddol o'ch darllenwyr, gyda nifer ohonynt yn anhebygol o brynu eich cyhoeddiad eto.
- Chwiliwch am wybodaeth a sylwadau oddi wrth sefydliadau amrywiol. Mae gan THT Cymru, er enghraifft, dimau allanol sydd yn cydlynu gyda'r heddlu a'r dynion dan sylw er mwyn darparu gwybodaeth am iechyd rhywiol a chyngor am ddiogelwch personol.
Termau i'w hosgoi
Rhyw hoyw: mae hyn yn awgrymu rhywfaint o aflendid i'r stori. Mae diffinio pobl yn ôl y rhyw y maent yn ei gael yn anwybyddu agweddau emosiynol a phersonol bod yn hoyw.
Cyfunrywiol: gwelir hyn gan rai yn y gymuned LHD fel term dirmygus a sarhaus a ddefnyddid pan ystyriwyd atyniad/perthynas o'r un rhyw fel salwch meddwl. Defnyddiwch hoyw, lesbiad, dyn / menyw hoyw, deurywiol, dyn / menyw deurywiol.
Anweddus / gweithredoedd anweddus / ymddygiad anllad neu atgas: bydd eich darllenwyr yn ffurfio darlun negyddol o ddynion hoyw. Mae'r math hwn o derminoleg yn cysylltu dynion hoyw gydag ymddygiad troseddol ac anllad.
Sylwadau am y dudalen