Mae ymchwil a ddaeth yn bennaf o'r UD wedi cael ei adolygu gan Age Concern i lunio'r adroddiad a'r adnoddau hyfforddi 'Opening Doors'. Mae'r adroddiad llawn yn cynnig adolygiadau o lenyddiaeth a manylion cyswllt i academyddion sy'n gweithio yn y maes hwn yn y DU.
Mae'r ymchwil hwn yn dangos rhai agweddau cadarnhaol a rhai negyddol o fod yn berson LHD sy'n heneiddio. Wedi profiad o fod 'ar y tu allan' yn y gweithle yn ystod bywyd gwaith, mae'r adroddiad yn dadlau y gall pobl LHDT wir groesawu eu hymddeoliad. Fodd bynnag, gall yr un problemau o ran unigrwydd, salwch a phwysau ariannol beri pryder i bobl LHD hŷn ag i'w cyfoedion heterorywiol, er yn arwyddocaol, gallir eu profi mewn modd gwahanol.
Er enghraifft, mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad mai anaml iawn y mae darparwyr tai lle ceir cefnogaeth a thai preswyl i bobl hŷn yn cydnabod anghenion unigolion neu gyplau lesbiaid neu hoyw. Yn arwyddocaol, croesawodd 91% o lesbiaid a 75% o ddynion hoyw'r syniad o gael llety ar wahân ar gyfer lesbiaid a/neu ddynion hoyw.
Mae Age Concern Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cychwyn Rhwydwaith LHDT. Bydd y rhwydwaith yn gweithio i archwilio anghenion cymdeithasol, gweithgareddau, iechyd, economaidd, gofal cymdeithasol, tai lle ceir cefnogaeth a chynhwysiad cymdeithasol pobl LHDT yng Nghymru. Mae ymchwil gan LlCC yn yr arfaeth i ddechrau yn 2005.
Mae mwy o fanylion gan Rob Taylor, Cyfarwyddwr Age Concern Cymru.
Tŷ John Pathy, 13/14 Neptune Court, Vanguard Way, Caerdydd CF24 5PJ
Ffôn: (029) 2043 1555
Ffacs: (029) 2047 1418
E-bost: enquiries@accymru.org.uk
Mae Andrew Hinchliff, cyn Gynghorydd Stonewall Cymru a Chynghorydd Bwrdeistref Conwy yn cymryd diddordeb yn anghenion tai a gofal cymdeithasol pobl LHD yng Nghymru.
Sylwadau am y dudalen