Iechyd Meddwl

Mae astudiaethau olynol yn nodi’r perygl i bobl LHD ddioddef afiechyd emosiynol neu feddyliol o ganlyniad i unigrwydd, eithrio neu wrthod gan deulu a chyfeillion, camdriniaeth gorfforol neu ar lafar, neu aflonyddu. Mae dros 60% o bobl LHD yng Nghymru yn dweud eu bod wedi dioddef camdriniaeth ar lafar neu gorfforol (Stonewall Cymru, 2003).

Yn Social exclusion, absenteeism and sexual minority youth (Rivers, I. 2000), nododd  72% o oedolion lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) hanes o absenoldeb o’r ysgol yn sgil aflonyddu homoffobaidd.  Roedd 50% o’r rhai a gafodd eu bwlio yn yr ysgol wedi ystyried hunan-anafu neu hunan laddiad – a 40% wedi hunan-anafu o leiaf unwaith.

Mae taflenni gwybodaeth ar gael oddi wrth Mind 

Ac PACE 

Mae Stonewall Cymru yn parhau i boeni am y diffyg darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd sy’n ceisio rhoi gwybodaeth i bobl LHD yng Nghymru am eu gwasanaethau, neu dawelu eu meddyliau eu bod yn 'LHD gyfeillgar'. I gynyddu hyder wrth ddefnyddio darparwyr gwasanaethau mae angen i bobl LHD wybod y bydd gwasanaethau yn cyflawni eu hanghenion mewn ffyrdd priodol.

Yn anffodus, rydym yn aml yn clywed am ddiffyg cyffredinol mewn darpariaeth, cefnogaeth a gwasanaethau i gyflawni anghenion iechyd meddwl y boblogaeth yn gyfan. Hefyd, gall bobl LHD gael eu hatal rhag defnyddio rhai gwasanaethau, neu gael eu trin fel pe bai eu rhywioldeb yn rheswm dros eu hanawsterau emosiynol ac yn rhywbeth sydd angen ei ‘wella’. Gallant beidio derbyn triniaeth wedi’i deilwra i’w hanghenion pan fo darparwyr yn dweud nad oes angen iddynt wybod am hunaniaeth rywiol oherwydd eu bod yn 'trin pawb yr un fath'.

Mae’r agwedd hon yn gwastraffu adnoddau, ac yn atal cydraddoldeb wrth i wasanaethau fethu cyflawni anghenion yr unigolion. Mae’n gorfodi lesbiaid a dynion hoyw i batrymau o drafodaeth a thriniaeth ar sail swyddogaethau, hunaniaeth a phatrymau bywyd heterorywiol.

Mae Stonewall Cymru newydd gwblhau prosiect ymchwil yn edrych ar anghenion a phrofiadau pobl LHD â materion iechyd meddwl yng
Nghymru.
Cliciwch yma i lwytho’r adroddiad i lawr
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y prosiect

Cysylltiadau:

MIND OUT Cymru – y rhwydwaith ymgyrchu ar gyfer gweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl LHD:

Ffôn: 02920 - 39 51 23
ebost: mindoutcymru@org.uk 
Post: Mind Cymru
3ydd Llawr
Quebec House
Castlebridge
Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AB
Ffôn: 02920 - 39 51 23


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth