Iechyd

Mae’r wybodaeth ganlynol yn benodol ynglŷn â chyd-destun, pwerau cyfreithiol, gwasanaethau cynghori a datblygiad polisi Cymru.

Ar y dudalen hon:

Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru

Mae’r GIC yng Nghymru yn darparu gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd i filoedd o bobl ledled Cymru bob dydd. Yn draddodiadol darparwyd gwasanaethau mewn ffyrdd safonol, heb ystyried rhywioldeb y claf neu’r defnyddiwr. Serch hynny, yn fwy diweddar heriwyd y dull hwn o drefnu gofal iechyd gan ddynion hoyw a menywod lesbiaidd sy’n teimlo, yn sgil methiant gwasanaethau GIC i gydnabod a chyflawni eu hanghenion penodol, iddynt gael eu trin yn anghywir.

Gan gydnabod bod staff GIC yn aml yn dangos eu gwerthoedd a’u syniadau drwy’r ffyrdd y maent yn darparu gwasanaethau, cymerwyd camau gan adran y GIC o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno canllawiau ar gydnabod hawliau partneriaid cyfunrywiol o ran materion perthynas agosaf. Golyga hyn y bydd unigolion sy’n dod i gysylltiad gyda’r gwasanaethau iechyd drwy salwch partner yn derbyn yr un hawliau a chydnabyddiaethau â phobl heterorywiol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy’r Adran Iechyd, wedi’i gwneud yn glir nad yw’n dderbyniol i staff GIC, am unrhyw reswm, danseilio neu fychanu perthynas cyfunrywiol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd.

Mae’n anodd cadarnhau gwybodaeth am iechyd y boblogaeth lesbiaidd a hoyw yng Nghymru. Gan ddefnyddio tystiolaeth ymchwil a gasglwyd mewn arolygon iechyd yn Lloegr, gwyddom y gall unigolion sy’n lesbiaidd neu hoyw:

  • Fod yn hwyr yn troi at ymarferwyr meddygol gan eu bod yn ofni cwestiynau ymwthiol a beirniadol
  • Brofi lefelau uwch o wendid emosiynol a chorfforol wrth gael eu derbyn i’r ysbyty neu dderbyn gofal iechyd
  • Ddioddef nifer o’r afiechydon sy’n gysylltiedig gyda chamwahaniaethu, ar gyfradd uwch na’r boblogaeth yn gyffredinol
  • Fod mewn perygl o ddioddef lefelau uwch o faterion iechyd meddwl
  • Fod heb y strwythurau cymdeithasol sy’n hyrwyddo lles ac iechyd da.

Yng Nghymru, ymysg y boblogaeth lesbiaidd a hoyw, nid oes rheswm dros amau bod y ffactorau iechyd hyn yn wahanol o gwbl i weddill y DG. Serch hynny gall natur ddemograffig y gymuned lesbiaidd a hoyw olygu bod ystyriaethau o’r fath yn cael eu gwaethygu gan ynysiad gwledig, segurdod economaidd a gorthrwm cymheiriaid. Yn ddiweddar, rhyddhaodd Stonewall Cymru adroddiad yn edrych ar anghenion iechyd pobl LHD yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Er bod yr holl ffactorau hyn yn awgrymu bod menywod lesbiaidd a dynion hoyw angen gwasanaethau iechyd o safon uchel i wynebu rhai o effeithiau triniaeth anghyfartal, nid yw’r GIC wedi ymateb yn effeithiol i’r her hyd yma. Am y rhesymau hyn, mae pwysigrwydd ymestyn hawliau menywod lesbiaidd a dynion hoyw i gael eu hamddiffyn rhag dioddef camwahaniaethu wrth dderbyn nwyddau, adnoddau a gwasanaethau, yn hanfodol i ateb anghenion mewn ffordd effeithiol a phriodol.

I adeiladu gallu'r sefydliadau gwasanaeth iechyd i fod yn fwy ymatebol i anghenion menywod lesbiaidd a dynion hoyw, mae nifer o brosiectau yn y broses o gael eu cyflawni ar hyn o bryd. Dros y deuddeg mis nesaf, bydd bob aelod staff yn derbyn hyfforddiant cymhwyster diwylliannol i wella eu hymwybyddiaeth o amrywiaeth diwylliannol a chymdeithasol.Drwy raglen o E-ddysgu, bydd hyn yn edrych yn benodol ar bwysigrwydd cydnabod hawliau unigolion lesbiaidd neu hoyw. Bydd y gwaith yn cael ei ategu gan brosiect monitro cydraddoldeb sydd ar hyn o bryd yn cael ei ledaenu ledled bob sefydliad GIC. Pwrpas hyn fydd cofnodi hil, rhyw, rhywioldeb, oed, anabledd ac iaith bob claf sy’n defnyddio gwasanaethau ysbyty. Bwriad y prosiect yw gwerthuso darpariaeth gwasanaethau o ran effaith ar wahanol grwpiau yn y boblogaeth ehangach. Golyga hyn y gellid defnyddio profiad menywod lesbiaidd a dynion hoyw i ysgogi’r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu datblygu a’u gwella.

I gynorthwyo i wella dealltwriaeth o anghenion dynion a menywod hoyw yng ngweithlu’r GIC, cynhelir arolwg staff ledled y GIC yn gyfan yn hydref 2005. Am y tro cyntaf, bydd yn cynnwys cwestiwn am rywioldeb yr holl weithwyr. Yn ogystal â nodi maint y boblogaeth lesbiaidd a hoyw yn y GIC, bydd y wybodaeth hefyd yn cynorthwyo i werthuso profiadau gwaith dynion a menywod o ran eu rhywioldeb.

Prosiect Tu Mewn Tu Allan

Roedd Prosiect Tu Mewn Tu Allan Stonewall Cymru yn ddarn o ymchwil cymunedol yn edrych ar brofiadau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) o ddefnyddio gwasanaethau iechyd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, a oedd yn cydnabod mai pobl LHD eu hunain yw’r bobl orau i ddeall y materion iechyd perthnasol i bobl LHD eraill. Lansiwyd adroddiad ym mis Mawrth.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y prosiect.
Cliciwch yma i lawrlwytho copi o’r adroddiad Tu Mewn Tu Allan

Cysylltiadau

Canolfan GIC dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol, Bloc B, Llawr Cyntaf, Mamhilad House, Mamhilad Park Estate, Pont-y-pŵl. Ffôn 01495 332227

Cysylltwch gyda’ch Bwrdd Iechyd Lleol a siaradwch gyda’r swyddog cynnwys cleifion.

Siaradwch gyda’ch Cyngor Iechyd Cymunedol lleol.
Cysylltwch gyda’r Ymgynghorydd Cydraddoldeb yn y cyfleuster neu Ymddiriedolaeth Ysbyty perthnasol.

Gellir derbyn mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r dulliau ymholi hyn oddi wrth y Ganolfan dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth