Yn 2003, roedd adroddiad yn gwerthuso argaeledd gwasanaethau cynghori ar gyflogaeth yng Nghymru, wedi disgrifio'r sefyllfa fel 'anialdir cyngor' Snakes and Ladders 2002 (Yn Saesneg yn unig).
Comisiynwyd yr ymchwil ar y cyd gan gomisiynau cydraddoldeb statudol Cymru; EOC, DRC a CRE. Wrth ganolbwyntio ar y ddeddfwriaeth a oedd yn bodoli ar y pryd, ni ystyriwyd Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (2003) ynghylch tueddfryd rhywiol, crefydd a chredo, ac oedran (ddaw i rym yn 2006). Mae hyn yn golygu y gallwn ragweld y bydd y sefyllfa enbyd o ran darpariaeth rhoi gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â chenedl, hil ac anabledd, lawer gwaeth ar gyfer tueddfryd rhywiol.
Darganfu'r adroddiad bod:
O ganlyniad i'r diffyg darpariaeth hwn yng Nghymru, mae'r adroddiad yn nodi bod gwahaniaeth sylweddol rhwng cael cyfraith cydraddoldeb cyflogaeth ffurfiol a gallu cael cyfiawnder yn ymarferol:
Nid yw ymgeiswyr o Gymru yn mynd i'r system dribiwnlysoedd ar delerau sy'n gydradd â rheiny eu cymheiriaid yn rhannau eraill o'r DU ac mae'n bosibl nad ydynt yn gallu sicrhau canlyniadau cyffelyb (t. 4)
Mae ariannu darparwyr cyffredinol y pen yng Nghymru yn is o gymharu â Lloegr (t.10)
Mae angen sylweddol yng Nghymru nad yw'n cael ei ateb. Nid yw cynifer o ymgeiswyr posibl yn mynd i'r system ennill iawn yn dilyn gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd rhwystrau daearyddol, economaidd, seicolegol a diwylliannol (t.8)
Ers yr adroddiad, mae'r EOC a'r DRC wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Ar Bopeth ar faterion trosglwyddo arbenigedd. Adviceguide - Cymru
Mae MEWN Cymru, y sefydliad ymgyrchu i ferched o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru, wedi comisiynu adroddiad pellach ar oresgyn rhwystrau diwylliannol i ddarparu gwasanaethau cynghori mewn modd priodol www.mewn-cymru.org.uk
Mae'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol wedi cyhoeddi strategaeth gynghori newydd i Gymru ar sail gweithio mewn partneriaeth. Ei nod yw sicrhau bod cydraddoldeb cyfreithiol ffurfiol yn cael ei droi'n gyfiawnder cymdeithasol drwy helpu pobl i fynnu eu hawliau.
Gwefan LSC: Cymru (Caerdydd)
Yn benodol, bydd y wefan a'r gwasanaeth llinell ffôn gymorth gan Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Uniongyrchol yn cynnig gwybodaeth am gyflogaeth a'r ystod lawn o faterion cyfreithiol yn uniongyrchol i'r cyhoedd
Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Uniongyrchol neu Ffôn: 0845 3454345
Serch hynny, ar hyn o bryd nid oes gwasanaeth penodol yn darparu gwybodaeth i lesbiaid, dynion hoyw na phobl ddeurywiol yng Nghymru. Nid oes chwaith arbenigedd i weithio gyda darparwyr cyngor a chomisiynau statudol cyfredol i drosglwyddo gwybodaeth, mewnwelediad i rwystrau diwylliannol nac arbenigedd o ran materion cyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle.
Sylwadau am y dudalen