Partneriaethau Sifil

Diffiniad

Partneriaeth Sifil yw'r cydnabyddiaeth gyfreithiol i berthynas o'r un rhyw. Nid yw'n 'briodas' yn synnwyr crefyddol y gair, ond bydd yn rhoi yr un buddiannau cyfreithiol i gyplau lesbiaidd a hoyw ag sydd gan gyplau priod heterorywiol, fel priodas swyddfa gofrestri.

Cliciwch yma i lwytho 'Get Hitched! A Guide to Civil Partnerships' i lawr

Gwybodaeth cefndir

Ar 17 Tachwedd 2004 pleidleisiodd Tŷ'r Arglwyddi dros gyflwyno Mesur Partneriaethau Sifil ar gyfer cyplau o'r un rhyw. Ennillwyd y bleidlais allweddol o 251 pleidlais i 136. Mae oedolion o'r un rhyw nad sydd eisoes mewn partneriaeth gofrestredig neu briodas, ac nad sy'n perthyn yn agos, yn gymwys i gofrestri eu partneriaeth. Daw y Ddeddf Partneriaeth Sifil i rym ar 5ed o Ragfyr 2005, a gan bod 15 diwrnod o gyfnod hysbysu, gall y partneriaethau cyntaf gael eu creu o'r 21ain o Ragfyr ymlaen.

Bydd modd i gyplau o'r un rhyw gofrestri eu partneriaeth mewn ffordd debyg i wasanaeth swyddfa gofrestri. Yng Nghaerdydd, mae Cyngor y Ddinas yn cymryd y cyfle i weithio gyda pobl LHD er mwyn datblygu ffurf i'r seremoni. Bydd modd cynnal seremoniau partneriaethau sifil yn union yr un lleoliadau â phriodasau sifil, o swyddfeydd cofrestri i blasdai.

Hawliau a Chyfrifoldebau

Bydd gan gyplau o'r un rhyw yr un hawliau a chyfrifoldebau â chyplau priod. Ymysg yr hawliau mae:

  • Medru hawlio pensiwn goroesi yn sgîl marwolaeth partner
  • Ymdriniaeth ar y cyd ar gyfer budd-daliadau incwm
  • Cydnabyddiaeth gyfreithiol fel perthynas agosaf
  • Yn sgîl marwolaeth, bydd hawl gan y partner arall i gofrestri marwolaeth eu partner, byddant yn gymwys ar gyfer budd-daliadau profedigaeth ac yn medru gwneud cais am iawndal damweiniau angeuol neu anafiadau troseddol
  • Cydnabyddiaeth dan ddeddfau etifeddu a diewyllysedd, a'r hawl i etifeddu ystâd y partner
  • Hawliau olyniad tenantiaeth
  • Cyfrifoldeb rhieni dros blant ei gilydd
  • Esgusodiad rhag tystio yn erbyn ei gilydd yn y llys

Bydd partneriaid o'r un rhyw yn cael eu clymu yn gyfreithiol yn yr un modd â chyplau priod, felly bydd diddymu'r bartneriaeth yn dilyn proses debyg, wedi'i seilio yn y llys.

Cliciwch yma i lwytho canllaw Partneriaethau Sifil Stonewall i lawr.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Bartneriaethau Sifil.

Adrodd ar Bartneriaethau Sifil

  • Cred rhai sefydliadau crefyddol bod partneriaethau sifil yn dibrisio sancteiddrwydd priodas. Ond nid yw partneriaethau sifil yn bygwth priodas. Mae gan lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol berthynasau cariadus, sefydlog fel pawb arall. Bydd y Ddeddf Partneriaethau Sifil yn ei gwneud yn bosibl i gyplau o'r un rhyw fwynhau yr un hawliau a chyfrifoldebau, a'r un cyfrifoldebau cyfreithiol â chyplau priod heterorywiol.
  • Hyd nes i'r Ddeddf Partneriaethau Sifil ddod yn gyfraith nid oedd gan gyplau o'r un rhyw hawliau pensiwn, yn aml roedd eu cartrefi dan fygythiad neu yn cael eu colli drwy dreth etifeddiant ac nid oedd ganddynt statws fel perthynas agosaf yn sgîl marwolaeth un partner. Mae'r Ddeddf Partneriaethau Sifil yn rhoi ymdriniaeth a chydnabyddiaeth gyfreithiol cydradd i gyplau o'r un rhyw.
  • Dylid cydbwyso sylwadau oddi wrth sefydliadau crefyddol gyda dyfyniadau oddi wrth sefydliadau ac unigolion sydd yn cefnogi partneriaethau o'r un rhyw. Gall Gwyliwch Allan ddarparu gwybodaeth gywir am bartneriaethau sifil, enghreifftiau a manylion cyfweliadau posibl.

Termau i'w hosgoi

'Priodas hoyw' - Nid yw Partneriaeth Sifil yn briodas yn yr ystyr crefyddol. Mae rhai sefydliadau crefyddol yn defnyddio'r term hwn mewn ffordd ddirmygus, bron yn wawdiol. Defnyddiwch partneriaeth sifil.

Cyfunrywiol: ystyrir hyn gan rai yn y gymuned LHD fel term israddiol a sarhaus a ddefnyddid pan ystyriwyd atyniad/perthynas o'r un rhyw fel salwch meddwl. Defnyddiwch hoyw, lesbiad, dyn / menyw hoyw, deurywiol, dyn / menyw deurywiol, neu'r acronym LHD (Lesbiaidd, hoyw a deurywiol).


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth