Byw yng Nghymru Wledig

Dengys canfyddiadau Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio, arolwg cyntaf Stonewall Cymru o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yng Nghymru, bod cyfran uchel o bobl LHD yng Nghymru yn anhebygol o fod 'allan' gyda'u cymdogion neu gyd-weithwyr, ac mae'n bosibl bod hyn yn arbennig o wir yng Nghymru wledig lle gall prinder cymuned weledol LHD gynyddu teimladau o unigrwydd.

Tanlinellwyd yr eithrio cymdeithasol hwn yn adroddiad asesu Stonewall Cymru, Ninnau Hefyd!, a ddangosodd bod darparwyr gwasanaethau LHD yng Nghymru wedi'u hesgeuluso a'u cyllido'n annigonol. Adroddodd 36% o grwpiau cefnogol LHD na chawsant unrhyw gyllid blynyddol, ac roedd 36% arall yn gweithredu ar lai na £1000 o incwm.

Mae prinder grwpiau cymunedol a strwythur cymunedol ar draws rhan helaeth o Gymru wledig wedi ei gwneud yn anodd i bobl LHD gyrraedd at wasanaethau, a gall hynny arwain at nifer o bobl yn teimlo fel 'yr unig berson hoyw yn y pentref.' Mae pobl LHD mewn ardaloedd gwledig yn aml nid yn unig yn methu cyfranogi mewn diwylliant a gwleidyddiaeth prif ffrwd, ond hefyd yn methu cyrraedd at ddigwyddiadau cymdeithasol, gwleidyddol neu ddiwylliannol LHD. Yn aml, mae hyn yn gwneud iddynt adael ardaloedd gwledig. Bydd pethau'n dechrau gwella bellach gan bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cydnabod y boblogaeth LHD yng Nghymru fel 'cymuned ddiddordeb.' Bydd hyn yn sicrhau gwell darpariaeth ar gyfer gwasanethau LHD ac yn arwain at gynhwysiad cynyddol bobl sydd wedi'u hymylu yn gymdeithasol.

Mae'r cymeriad ar 'Little Britain' yn ddoniol gan ei fod bron yn union i'r gwrthwyneb o'r ffordd y gall bywydau lesbiaid a dynion hoyw fod mewn pentrefi gwledig.  Tra'u bod hwy yn debygol o guddio eu rhywioldeb oddi wrth eu cymdogion ond yn chwilio am bobl hoyw eraill i gysylltu â hwy, mae Dafydd yn dangos, yn feiddgar, ei gyfeiriadedd rhywiol ac nid yw'n chwilio am bobl hoyw eraill.  Beiddgarwch ei ymddygiad yw'r hyn sy'n denu bobl LHD i'w gymeriad.  Hefyd, mae'r ffaith bod y pentref mewn gwirionedd yn llawn pobl LHD eraill (y ferch lesbiaidd sy'n gweithio yn y dafarn, er enghraifft), ac nad yw Dafydd yn sylwi arnynt, yn ein hatgoffa bod anweledigrwydd yn brofiad allweddol o fod yn lesbiaidd neu hoyw.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth