Yn yr adran hon:
Ceir gwybodaeth gynhwysfawr ar wefan Stonewall am faterion Cyflogaeth - y fframwaith gyfreithiol, eich hawliau, a materion sydd yn achosi pryder ac sydd angen eu herio ym Mhrydain. Cliciwch yma i ymweld â'r safle.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn benodol i'r cyd-destun Cymreig - y pwerau cyfreithiol, gwasanaethau cynghori a datblygiadau polisi.
Gyda Deddfau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003, daeth deddfwriaeth i rym i amddiffyn lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a heterorywiol rhag peidio â chael eu cyflogi, colli eu swyddi, cael eu haflonyddu neu ddioddef camwahaniaethu ym mholisïau'r cyflogedig.
Mae polisiau cyfeiriadedd rhywiol yn cael eu hychwanegu fwyfwy at gynlluniau rheoli amrywiaeth cyflogwyr mawr yn y sector breifat a chyhoeddus sydd yn gwybod bod eu hepgor yn niweidiol i'r brand ac sydd eisiau anfon neges gref o gynhwysiad. Dylai bob polisi i'r cyflogedig sôn yn benodol am gymhwyster perthynas o'r un rhyw.
Serch hynny, bychan iawn a wyddir am ble, ac o dan pa amodau, mae pobl LHD yn gweithio yng Nghymru. Nid oes un o'r setiau data cenedlaethol sy'n mesur cyflogaeth yn casglu unrhyw wybodaeth a fyddai yn taflu goleuni ar fywydau gwaith bobl lesbiaidd a hoyw, eu dewisiadau galwedigaethol neu neilltuad, cyflog na datblygiad gyrfa. Yn ogystal, prin iawn yw'r cyflogwyr yng Nghymru sydd yn monitro'r gweithlu, yn gwneud arolygon staff, neu yn hybu rhwydweithiau'r cyflogedig LHD, fel y gallant ddeall ble mae canolbwynt posibl o bobl lesbiaidd a hoyw yn eu sefydliadau neu ddeall rhwystrau penodol y maent o bosib yn eu hwynebu. Mae monitro er mwyn chwilio am getoau galwedigaethol yn allweddol.
Cliciwch yma am wybodaeth ar Stonewall Cymru - Hyrwyddwyr Amrywiaeth.
Dyma rwydwaith cydraddoldeb lle mae cyflogwyr sector gyhoeddus a phreifat yn gweithio gyda’i gilydd a gyda Stonewall i ddatblygu arfer da ar bolisïau cyflogaeth a gweithwyr, recriwtio, cadw a monitro ac ymgynghori gyda gweithwyr LHD.
Cliciwch yma am ganllawiau arfer da i gyflogwyr.
Yn 2003, disgrifiwyd Cymru fel 'anialwch cyngor' mewn adroddiad a gomisiynwyd gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal, Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a'r Comisiwn Hawliau'r Anabl. Nid oes comisiwn cydraddoldeb sy'n codi ymwybyddiaeth, ymgymeryd ag ymchwil, gweithio gyda chyflogwyr nac yn darparu cyngor i'r rhai cyflogedig sydd yn credu eu bod wedi dioddef camwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.
Serch hynny, yn 2005 sicrhaodd Stonewall Cymru gyllid er mwyn i ADM sefydlu llinell gymorth er mwyn cefnogi pobl LHD drwy ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am gamwahaniaethu yn y gweithle ac yn eu bywydau a'u cynorthwyo wrth fynd a'u achosion i Dribiwnlys Cyflogaeth drwy rwydwaith o bobl broffesiynol hyfforddedig. Hefyd, mae ystod o ddarparwyr cyngor sydd o bosibl yn medru trafod eich amgylchiadau, awgrymu ffyrdd o negydu gyda'ch cyflogwr neu gynghori ar eich hawliau cyfreithiol a'r broses i'w dilyn er mwyn sicrhau cyfiawnder. Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol a Chanolfan Cynghori'r Cyhoedd yn cydnabod bod cydraddoldeb cyfreithiol ffurfiol yn annigonol pan na all pobl gael y cyngor sydd ei angen arnynt er mwyn cyfryngu gyda chyflogwyr neu wneud cwyn. Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru hefyd yn gweithio er mwyn herio anghydraddoldeb yn y gweithle, ac mae ganddynt rwydwaith o negydwyr a swyddogion cydraddoldeb a fydd yn ceisio cynorthwyo aelodau unigol o undebau llafur sydd â chwyn. Mae gan ACAS gyfres o lyfrynnau defnyddiol am eich hawliau yn y gweithle, a sut i drafod materion gyda chyflogwr.
Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Gellir derbyn y cyngor wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Cynigir ymweliadau cartref gan y mwyafrif o ganolfannau, ac mae rhai hefyd yn darparu cyngor ar ebost. Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.
Cyngor CAB Arlein www.adviceguide.org.uk am wybodaeth ymarferol, dibynadwy, cyfoes yn Gymraeg, Saesneg, Bengali, Gujarati, Punjabi, Urdu a Tsienëeg ar ystod eang o themau. Adolygir gwybodaeth yn barhaus gan eu tîm o gynghorwyr, ac mae'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Uniongyrchol yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd ar ystod o faterion cyfreithiol cyffredin. Mae'n wasanaeth hawdd i'w ddefnyddio, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, drwy linell gymorth genedlaethol neu wefan. Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn ceisio sicrhau bod pobl yn derbyn gwybodaeth a chyngor yngl?n â'u hawliau cyfreithiol a chymorth i'w sicrhau drwy uno cyfreithwyr cymorth cyfreithiol, Canolfannau Cynghori'r Cyhoedd, Canolfannau Cyfreithiol, Gwasanaethau Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill mewn rhwydweithiau lleol, ledled Cymru. Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yno er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaethau cyfreithiol o safon, sydd yn taclo eu anghenion real.
Cyfrifoldeb y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yw sefydlu, cynnal a datblygu y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol, gan gydweithio gyda nifer o sefydliadau partneriaid a'r Adran Materion Cyfansoddiadol.
Rhif y llinell gymorth yw 0845 345 4 345, lle mae modd:
Neu gallwch ymweld â'r wefan ar www.communitylegaladvice.org.uk, lle mae modd:
Mae'r holl gyngor a chymorth a roddir yn gyfrinachol ac yn annibynnol. Gellir gwneud galwadau ar y llinell gymorth am bris galwad ffôn leol o unrhywle yng Nghymru. Dylai defnyddwyr ffôn symudol gadarnhau cost yr alwad gyda'u rhwydwaith.
*Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.
Sylwadau am y dudalen